Cyflwyno sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer Sero Net


16.03.2021

Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Y Drindod yn chwarae ei rhan drwy gyflwyno sgiliau newydd a mentrau hyfforddi i sicrhau bod ymrwymiad llywodraeth Cymru a’r DU i gyflawni Sero Net o allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050 ar y trywydd iawn.

UWTSD’s Construction Wales Innovation Centre (CWIC) is playing its part by delivering emerging skills and training initiatives to ensure the UK and Welsh government’s commitment to achieving Net Zero greenhouse gas emissions by 2050 is on track.

Bydd angen creu’r hyn sy’n cyfateb i 350,000 o swyddi newydd yn y diwydiant adeiladu erbyn 2028 a bydd angen dod o hyd i’r rhain drwy gyfuniad o swyddi newydd â sgiliau, gwell arbedion mewn rolau presennol, ac arloesi yn y ffordd mae’r diwydiant yn datgarboneiddio’r amgylchedd adeiledig. Dyna ganfyddiad allweddol Building Skills for Net Zero, a gyhoeddwyd gan Fwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu (CITB) heddiw (15 Mawrth).

Mae gwaith cydweithredol ar y gweill gan CWIC i sicrhau bod sector adeiladwaith Cymru eisoes yn gallu manteisio ar ddatrysiadau hyfforddi arloesol.

Mae menter ar draws Cymru dan arweiniad Grŵp Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) sy’n cynnwys Coleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg y Cymoedd a Choleg Cambria yn sicrhau y gall sector adeiladu Cymru fanteisio ar ddatrysiadau hyfforddi arloesol yn genedlaethol ar draws Cymru.

Mae model cyflwyno prif ganolfan a lloerennau CWIC yn defnyddio deallusrwydd cyflogwyr i sicrhau bod y sgiliau cywir ar gael i fodloni gofynion diwydiant nawr ac yn y dyfodol, yn ymatebol ac yn rhagweithiol.

Mae lloerennau’n darparu llwybr datblygu gyrfa integredig rhwng gweithredwyr, crefftau a galwedigaethau adeiladu proffesiynol, dan arweiniad y brif ganolfan yn Abertawe. Maen nhw’n cydweithio’n weithredol ac yn rhannu arferion gorau. Mae hyn yn cyfrannu at lefelau newydd o gydweithio rhwng y sector addysg (ysgolion, AB, AU a darparwyr preifat) a’r diwydiant adeiladu.

Dywedodd Gareth Wyn Evans, Rheolwr Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru: “Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi bod ar y blaen yn datblygu a chyflwyno sgiliau newydd a mentrau hyfforddi mewn adeiladu ers cael ei sefydlu ym mis Medi 2016. Mae Strategaeth Sgiliau Sero Net CWIC yn seiliedig ar lawer o ymchwil ac ymgysylltu helaeth gyda diwydiant yn ymwneud â’r ymdrech barhaus i sicrhau moderneiddio a datgarboneiddio yn y sector. Mae gan ddiwydiant yng Nghymru her sylweddol wrth weithio at Sero Net ac mae gwaith CWIC yn sicr yn dangos sut y gallwn ddatblygu ein diwydiant ac wynebu’r her gyda hyder.

 “Rhan fawr o’r gwaith fydd codi sgiliau’r gweithlu presennol ac yn y dyfodol er mwyn iddyn nhw ddeall beth mae adeiladu Sero Net yn ei olygu i’r diwydiant.

“Er mwyn galluogi hyn, rydym ni yn CWIC, mewn cydweithrediad â Choleg Sir Gâr, yn cyflwyno nifer o fentrau sgiliau mewn meysydd fel Modelu Gwybodaeth Adeiladu a Thechnoleg Dronau. Yn fwyaf diweddar, rydym ni wedi gweithio gyda nifer o ddarparwyr blaenllaw yn y sector i ddatblygu cyfres o raglenni Ôl-osod addas i Ddiwydiant yng Nghymru. Bydd y rhaglenni hyn yn fyw dros yr wythnosau nesaf gan gynnig mynediad uniongyrchol i Ddiwydiant yng Nghymru at y cyrsiau a’r cymwysterau a gyflwynir gan Arbenigwyr yn y Diwydiant. Mae hyn yn ein galluogi i chwarae ein rhan i ddiogelu sgiliau adeiladu at y dyfodol.”

Mae adeiladu yn y DU yn cyfrannu tua 40% o allyriadau’r DU yn ôl y Cyngor Adeiladu Gwyrdd (UKGBC) ac mae lleihau hyn i Sero Net yn her enfawr. Eto i gyd mae’r symudiad at adeiladu glanach, mwy gwyrdd, yn cynnig cyfleoedd mawr i wneud y diwydiant yn fwy deniadol i recriwtiaid newydd a chodi sgiliau’r gweithlu presennol.

Elfen hanfodol o gyflawni Sero Net fydd lleihau allyriadau carbon o adeiladau sy’n bodoli eisoes. Ar draws y DU mae 80% o’r adeiladau a gaiff eu defnyddio yn 2050 eisoes wedi’u hadeiladu a gallai’r rhain gynrychioli 95% o allyriadau’r amgylchedd adeiledig yn y dyfodol. Bydd lleihau allyriadau i Sero Net yn galw am ôl-osod hyd at 27 miliwn o adeiladau domestig a 2 filiwn o adeiladau annomestig.

Mae CITB wedi modelu’r proffil sgiliau sydd ei angen ar y gweithlu i gyflawni Sero Net gyda data’r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd. Mae hyn yn dangos erbyn 2028 y bydd gwaith datgarboneiddio ychwanegol wedi creu galw am 86,000 o reolwyr prosiect adeiladu, 33,000 o arbenigwyr amlen adeiladu a 59,000 o blymwyr ac arbenigwyr HVAC.

Daw’r cyfle hwn ochr yn ochr â phandemig COVID-19 a chynnydd disgwyliedig mewn niferoed di-waith o sectorau eraill. Mae hwn yn amser perffaith i’r diwydiant adeiladu ei osod ei hun fel cyrchfan gyrfa i bobl sydd wir yn dymuno gwneud gwahaniaeth.

Mae ymchwil CITB yn dangos bod modd lleihau allyriadau’r amgylchedd adeiledig i Sero Net os ceir buddsoddiad ar draws y diwydiant mewn sgiliau, diwygiadau polisi sgiliau pellgyrhaeddol ac ymgyrch recriwtio na welwyd ei debyg. Mae’r her yn fawr, ond felly hefyd y wobr, gan gynig cyfleoedd gyrfa newydd i filoedd o bobl wrth i ni ddod allan o gyfnod o argyfwng cenedlaethol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi CITB Steve Radley: “Mae Sero Net yn her enfawr i’r diwydiant adeiladu ond yn gyfle mwy fyth i greu diwydiant mwy cynhyrchiol sydd hefyd yn ddewis gyrfa mwy deniadol.

“Gallwn ei gyrraedd drwy fod yn glir am y sgiliau allweddol fydd eu hangen, sicrhau bod y cyrsiau a’r cymwysterau iawn ar gael i’w cyflwyno a mynd ati i fuddsoddi ynddyn nhw. Mae diwydiant eisoes yn cyflawni’r hyn sydd ei angen, ond mae angen i hyn ddigwydd ar raddfa fwy. Rhaid i’r sector hyfforddi weithredu nawr gan y bydd anghenion cyflogwyr yn newid yn gyflym. Mae ymagwedd gydlynol at sgiliau ar draws yr amgylchedd adeiledig yn hanfodol.

 “Mae gan y Llywodraeth rôl allweddol hefyd wrth bennu’r hyn mae’n ei ddymuno a chreu’r ffrwd o alw fydd yn rhoi hyder i’r diwydiant fuddsoddi yn y sgiliau sydd eu hangen ac i ddarparwyr fuddsoddi yn y cyrsiau sydd eu hangen i gyflwyno’r sgiliau hyn.”

Cyhoeddir adroddiad CITB i ategu Cynllun Sgiliau CLC, sy’n egluro gweithredu’r diwydiant i foderneiddio a datgarboneiddio sgiliau, a CO2nstructZero, rhaglen newid gydweithredol gan y diwydiant i gyflawni Sero Net.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk