Cynnig rhaglen ôl-raddedig arloesol mewn Llywodraethu ‘Un Blaned’ ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
20.01.2020
Mewn cydweithrediad â David Thorpe, awdur a sylfaenydd y Cyngor Un Blaned, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig tystysgrif ôl-raddedig newydd mewn llywodraethu ‘Un Blaned’.
David Thorpe
Dyfarniad ôl-raddedig yw’r rhaglen Llywodraethu Un Blaned, y gyntaf o’i bath yn y byd, a fydd yn darparu cyfle am ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y rheini sydd â diddordeb ym meysydd llywodraethu, gweinyddu a llunio polisi gwleidyddol, dinesig a chyhoeddus mewn modd cynaliadwy. Yn rhan o’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn astudio ymagweddau moesegol a chynaliadwy at arweinyddiaeth a gweinyddiaeth wleidyddol, gan eu paratoi at natur a rôl newidiol gwleidyddiaeth a llywodraethu yn yr 21ain ganrif.
“Gyda llywodraethau a llawer o gynghorau’n datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a difodiant, mae gweinyddwyr a llunwyr polisi yn pendroni sut i ymateb,” meddai David Thorpe, Cyfarwyddwr y Ganolfan Un Blaned, ymgynghorydd cynaliadwyedd ac un o diwtoriaid y cwrs.
“Mae’r cwrs ôl-raddedig byr hwn drwy ddysgu o bell yn cael ei gynnig i roi llawer o atebion. Bydd cyfranogwyr yn cyfuno’u gwaith eu hun â phrofiad cyfan gwbl ar-lein, gan ymgymryd â dysgu cydweithredol gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd. Byddant yn dod i ddeall yr heriau cydberthnasol sy’n eu hwynebu nhw, ac yn ymchwilio i’w harbenigedd eu hun fel astudiaeth achos ymarferol,” ychwanega David.
Cyflwynir y rhaglen drwy Rith-amgylchedd Dysgu ar-lein y Drindod Dewi Sant, lle caiff myfyrwyr fynediad i’r holl weithgareddau dysgu allweddol, adnoddau a grwpiau dysgu gan ddefnyddio’r offer a’r cymwysiadau rhyngweithiol diweddaraf.
Yn ystod y cwrs, bydd myfyrwyr yn dysgu am lawer o enghreifftiau o atebion llwyddiannus o gwmpas y byd, yn cynnwys cynyddu di-garbon, cyd-nerthu lleol, creu swyddi, byw’n iach, a’r economi gylchol.
“Mae’n bleser mawr gennym gynnig y Dystysgrif Ôl-raddedig newydd, Llywodraethu ‘Un Blaned’, yn rhan o’n darpariaeth yn y Drindod Dewi Sant” meddai Dr Louise Emanuel, Cyfarwyddwr Academaidd o fewn yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn y Drindod Dewi Sant.
“Mae meddwl yn gynaliadwy ac yn foesegol wrth wraidd ein rhaglenni ac mae’r cwrs hwn yn archwilio natur yr heriau strategol, ecolegol a chymdeithasol hirdymor sy’n wynebu’r blaned, a’r strategaethau a’r offer hollol wahanol sydd ar gael ar hyn o bryd ac sy’n cael eu datblygu i ddarparu ar gyfer yr heriau hyn.”
Ychwanega Dr Alex Bell, Rheolwr Rhaglen Meistr Ar-lein yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd: “Yn nodwedd arbennig o’r cwrs, mae myfyrwyr yn cynnal astudiaeth fanwl o weithrediad ac effeithiolrwydd deddfwriaeth arloesol Cymru, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Byddant yn dod i ddeall yr heriau cydberthnasol sy’n wynebu dynoliaeth, a bywyd yn gyffredinol, ar y Ddaear mewn perthynas â ffiniau planedol. Wedyn, byddant yn archwilio’n feirniadol yr offer, y safonau a’r fethodoleg a weithredir gan wahanol weinyddiaethau o gwmpas y byd, ar draws gwahanol sectorau, mewn perthynas â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy a chyfrifo ôl troed ecolegol.”
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen newydd Tystysgrif Addysg Uwch Llywodraethu Un Blaned, ewch i: https://www.uwtsd.ac.uk/cy/llywodraethu-un-blaned/ neu ebostiwch Dr Alex Bell a.bell@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk