Darlithydd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ennill gwobr genedlaethol


02.03.2020

Yn ddiweddar, derbyniodd Eilir Owen Griffiths, Uwch-ddarlithydd Celfyddydau Perfformio a Chyfarwyddwr Canolfan Berfformio Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y newyddion ei fod wedi ennill gwobr Syr Geraint Evans 2020 – gwobr sy’n rhoddedig gan Gymdeithas Gerddoriaeth Cymru am ei gyfraniad arwyddocaol i gerddoriaeth yng Nghymru.

Eilir Owen Griffiths

Mae Eilir yn ddarlithydd uchel ei barch; yn arweinydd corawl deinamig, yn gyfarwyddwr cerdd llwyddiannus ac yn gyfansoddwr cyffrous. Mae ei gyfraniad i fywyd cerddorol ein cenedl yn eang ac mae effaith ei waith ar fywydau perfformwyr ifanc i’w deimlo ledled y wlad.

Eilir yw Cyfarwyddwr Canolfan Berfformio Cymru o fewn Y Drindod Dewi Sant - canolfan arloesol sy’n cynnig graddau arbenigol yn cynnig techneg gadarn ynghyd â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.  Mae cyrsiau is-raddedig ac ôl-raddedig niferus yn cael eu cynnig fel rhan o ddarpariaeth y Ganolfan yng Nghaerdydd, gan gynnwys y cyrsiau cyfrwng Cymraeg BA Perfformio, MA Perfformio, MA Theatr Gerddorol a MA Cyfarwyddo.

Am chwe blynedd, bu Eilir hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Genedlaethol Ryngwladol Llangollen ac ef yw Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru.  Yn ogystal, mae Eilir yn arwain y côr hynod lwyddiannus Côr CF1 ac yn arweinydd cyswllt gyda’r British Sinfonietta.

"Dwi'n cyfrif hi'n fraint aruthrol i dderbyn y wobr yma eleni,” meddai Eilir.  “Braf yw derbyn cydnabyddiaeth gan y Gymdeithas fel hyn."

Gwobr Syr Geraint Evans yw un o Brif Wobrau Cymdeithas Gerddoriaeth Cymru ac mae’n cael ei dyfarnu’n flynyddol i unigolion sydd wedi cyfrannu’n sylweddol i fywyd cerddorol Cymru.

Y baritôn, Dr Jeremy Huw Williams oedd enillydd cyntaf y wobr yn 2004 gydag Iwan Llewellyn Jones a Gail Pearson hefyd yn cael eu hanrhydeddu â’r wobr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Cyflwynir y Wobr i Eilir eleni am ei waith ardderchog yn hyrwyddo cerddoriaeth gorawl gyfoes Gymreig,” meddai Dr Jeremy Huw Williams, Ysgrifennydd Cymdeithas Gerddoriaeth Cymru.   “Nid dyma’r tro cyntaf i Eilir ennill gwobr gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru; yn 2008 enillodd Dlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a roddir gan y Gymdeithas i Brif Gerddor yr Ŵyl.”

Mae Gwilym Dyfri Jones, sy’n arwain ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant hefyd yn falch iawn o gyflawniad Eilir.

“Ymfalchïa’r Brifysgol yn fawr yn llwyddiant Eilir,” meddai Gwilym Dyfri Jones.  “Eisoes, cyfrannodd yn sylweddol at fywyd cerddorol Cymru gan ysbrydoli corau a pherfformwyr unigol – yn cynnwys ein myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yng Nghaerdydd – trwy ei ddiwydrwydd, ei fentergarwch a’i angerdd.”

Gellir gweld Eilir wrth ei waith yn arwain Côr CF1 fel rhan o Gynhadledd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion (ISM) sy’n cael ei chynnal am y tro cyntaf yng Nghymru eleni.  Bydd Eilir yn arwain Côr CF1 mewn tri o weithiau gan y cyfansoddwr blaenllaw Cymreig Paul Mealor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 25 Ebrill.  

Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r Gynhadledd, ewch i https://www.ism.org/professional-development/seminars/ism-presents-2020-welsh

Am wybodaeth bellach ynglyn â Chanolfan Berfformio Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac am fanylion ynglyn â’r cyrsiau a gynigir, ewch i https://uwtsd.ac.uk/cy/cbc/

Gwybodaeth Bellach

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk