Dathlu cyflawniadau myfyrwyr a staff
02.03.2021
Cynhaliwyd Darlith a Gwobrau Blynyddol Dydd Gŵyl Dewi Coleg Celf Abertawe a chafwyd y cyfle i fwynhau darlith gan y cyflwynydd a’r cynhyrchydd adnabyddus Huw Rees a soniodd am ei brofiadau a’i yrfa o fewn y byd teledu yng Nghymru a’r ffordd y mae wedi cyfuno ei yrfa â’r gallu i siarad Cymraeg a’i arbenigedd mewn ffasiwn.
Yn ystod y digwyddiad cyflwynwyd gwobrau i ddathlu cyflawniadau’r rheiny sydd yn astudio neu’n dysgu o fewn y Coleg Celf gan nodi’u hymrwymiad i’r iaith Gymraeg neu ddiwylliant Cymru. Eleni cyflwynwyd gwobrau i Owain Sparnon, Osian Clever, Ffion Richardson, Lois Davies, Lesley Morgan, Siwan Thomas, Catrin Morris, Ellie Shutt, Alys Shutt, a Siȏn Storm Macbean.
Dywedodd Owain Sparnon sy’n astudio Celf Gain:“Mae astudio trwy gyfrwng y Gymraeg (iaith fy nghartref a'm haddysg ysgol) wedi bod yn hynod bwysig i fi. Rwyf wedi cael cyfleoedd arbennig ac wedi creu cysylltiadau gyda Chymry Cymraeg ar draws Cymru. Diolch yn fawr i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am brofiadau gwerthfawr iawn.”
Mae Osian Clever yn astudio Technoleg Cerddoriaeth. Meddai: “Diolch am y wobr, mae wedi bod yn bleser gweithio trwy'r Gymraeg a rhannu profiadau gydag eraill trwy'r iaith. Fel y cam nesaf, gobeithiaf gynnal fy nefnydd o'r iaith trwy ysgrifennu cerddoriaeth trwy'r iaith. Hoffwn hefyd ddatblygu fy sgiliau newyddiaduraeth, gyda'r amcan o ddilyn gyrfa ym myd teledu neu radio”.
Meddai Ffion Richardson yn astudio Dylunio Patrwm Arwyneb: “Dwi yn fy mlwyddyn olaf yn arbenigo fel gwneuthurwr mewnol. Dw i’n hoffi arbrofi gyda gwahanol elfennau o gelf fel cerameg, gwynio a phrint lle gallaf fynegi’r harmoni rhwng siâp a lliw. Dw i’n cael fy ysbrydoli gan natur, y môr a’r tirlun a defnyddiaf y rhain yn rhan o’m mhrosiectau prifysgol.
Mae Lois Davies hefyd yn astudio Dylunio Patrwm Arwyneb. Dywedodd: “Rwy'n fyfyrwraig trydedd flwyddyn yn arbenigo mewn tecstilau printiedig ar gyfer addurniadau mewnol a ffasiwn. Mae fy nyluniadau yn cychwyn trwy luniadu llaw, paentio a gludwaith a byddaf wedyn yn eu datblygu'n ddigidol neu argraffu sgrin ar ffabrig. Mae gen i arddull dylunio haniaethol, ac rwy’n darganfod ysbrydoliaeth mewn natur ac amgylcheddau gwahanol”.
Dywedodd yr artist gwydr Lesley Morgan: “Mae gwydr wedi bod yn rhan o fy mywyd ers yn blentyn ifanc. Rwy'n mwynhau creu gwydr hardd ac ystyrlon sy'n cynnwys y byd naturiol, ac yn atgof o eiliadau sy'n effeithio ar sut rydym yn teimlo am eraill a ninnau”.
Dywedodd Siwan Thomas sy’n astudio Dylunio Patrwm Arwyneb: Hyd yn hyn, rwyf wedi bod yn archwilio ‘y cyfnewid cyffyrddol – gwneuthurwr i ddefnyddiwr’, gan ffocysu ar ddylunio i chwarae a rhyngweithio. Fel gwneuthurwr, rwy’n rheoli llawenydd a thyfiant rhyngweithio trwy greu ac adeiladu offer dylunio i annog chwarae a chreadigrwydd. Wastad yn cydosod a gwrthgyferbynni liw, ffurf a phatrwm i sylweddoli syniadau”.
Mae Catrin Morris yn astudio Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau. Dywedodd ar ennill ei gwobr: “Mae'r themâu Cymru a chartref yn rhedeg yn gryf trwy fy ymarfer. Mae llawer o hanes difyr yng Nghymru, mae’n gwneud am bwnc hael”.
Dywedodd Ellie Shutt sy’n astudio Dylunio Modurol: “Rwyf bob amser wedi teimlo bod y gallu i siarad Cymraeg yn fraint ond roedd rhan ohonof yn poeni byddwn i’n colli'r sgil wrth fynd i'r brifysgol. Pa mor anghywir oeddwn i! Ni ellir byth cymryd y cyfleoedd y mae'r brifysgol wedi'u rhoi imi oddi wrthyf, a byddaf yn ddiolchgar am hyn am byth!”
Mae Alys Shutt yn astudio Darlunio. Dywedodd: “Mae’r gallu i gwblhau rhan o fy ngradd yn Gymraeg wedi caniatáu imi archwilio ystod eang o syniadau wrth greu a datblygu fy narluniau. Rwy'n fwy hyderus a ddiolchgar bod y cyfle i ddefnyddio'r iaith yn y Brifysgol ar gael, gan na fyddwn y darlunydd yr wyf heddiw hebddi”.
Mae Siȏn Storm-Mcbean yn darlunydd. Meddai “Mae’r ysbrydoliaeth am fy ngwaith yn dod o fyd angenfilod gan fod hyn yn rhywbeth sydd yn fy ddiddori yn fy ymchwil ac yn fy arfer. Mae’r defnydd o’r anghenfil mewn storïau i blant yn ddylanwadol ar fy ngwaith gan bod eu defnydd yn gweithio ar lawer o wahanol ystyron”.
Cyflwynwyd gwobrau arbennig i staff i gydnabod eu cefnogaeth a’u cyfraniad i ddatblygiad y Gymraeg yn y Brifysgol. Eleni cyflwynwyd gwobrau i Caroline Thraves, Cyfarwyddwraig Academaidd Celf a’r Cyfryngau, Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Canolfan Berfformio Cymru ac Iwan Vaughan, Darlithydd mewn Darlunio.
Dywedodd Caroline: Mae wedi bod yn fraint cael y cyfle i weithio gyda Gwen Beynon ar ddatblygu diwylliant dwyieithog yng Ngholeg Celf Abertawe. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud pan ddechreuon ni 6 mlynedd yn ôl, ein bod ni wedi cychwyn o linell sylfaen lle'r oedd ond ffordd i fynd ac i fyny aethon ni! Gyda dwy fenyw benderfynol yn arwain y datblygiad hwn gwelsom rwystrau fel rhywbeth i ddarganfod ffordd o'u cwmpas. Rydym nawr mewn man lle mae dwyieithrwydd yn 'norm' yng Ngholeg Celf Abertawe, ac rwyf yn hynod o falch o'r cyflawniad hwn a'r siwrne rydyn ni wedi bod arni”.
Ychwanegodd Gwenllian Beynon, sy’n gyfrifol am ddarpariaeth Cymraeg Coleg Celf Abertawe: ‘Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr. Rydym yn gwerthfawrogi eu hymroddiad a’u cyfraniad i Gymreictod o fewn y Brifysgol. Mae Coleg Celf Abertawe yn falch iawn o’i threftadaeth Gymreig ac mae’r Brifysgol yn awyddus dros ben i ddathlu cyflawniadau’i myfyrwyr celf a dylunio. Mae’n bwysig iawn cynnal y math yma o ddigwyddiad a nodi Dydd Gŵyl Dewi gan ei fod yn ddathliad sydd mor bwysig i ni yng Nghymru. Rydym yn trefnu darlith flynyddol gyda’r pwyslais ar yr elfen gelfyddydol - rhywbeth sy’n weledol neu’n gweddu i’n meysydd ni - ac roedd hi felly wych eleni, cael croesawu Huw i gyflwyno’r ddarlith a’r gwobrau i’n enillwyr”.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon - e.beynon@uwtsd.ac.uk