Dathlu Gŵyl Dewi gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
15.02.2021
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhithiol rhwng dydd Mawrth 23 Chwefror a dydd Sul 7 Mawrth i ddathlu Gŵyl Nawdd Sant Cymru, Dewi Sant.
Mae “Pethau Bychain 2021” yn ddathliad o ddiwylliant Cymraeg Y Drindod Dewi Sant ac yn gyfle i’r Brifysgol a’r gymuned ddod at ei gilydd i ddathlu Gŵyl Dewi. Bydd y rhaglen yn dechrau gyda “Iaith Fordorol? Mamiaith?” ar Chwefror 23 am 7pm o dan arweiniad Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Y Ganolfan Uwch Efrydiau Cymreig a Cheltaidd. Yn ystod y digwyddiad, bydd trafodaeth a barddoniaeth i ddathlu a nodi Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith UNESCO 2021.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi ei hun, sef dydd Llun 1 Mawrth, cynhelir nifer o ddigwyddiadau amrywiol yn cynnwys gwasanaeth arbennig am 12:30pm yng ngofal Caplan y Brifysgol, Y Parch Ddr Emma Whittick a darlith flynyddol a Gwobrau Coleg Celf Abertawe gyda’r sylwebydd fasiwn, Huw Rees, yn siaradwr gwadd.
Mae Bethan Wyn, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Drindod Dewi Sant, wedi bod yn brysur dros yr wythnosau diwethaf yn trefnu a rhoi’r rhaglen amrywiol hon at ei gilydd. Dywedodd:
“Mae gyda ni dros ugain o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ar gyfer ‘Pethau Bychain’ ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i ddod at ein gilydd i ddathlu Gŵyl Dewi. Bydd y cyfan yn cael ei gynnal yn rhithiol eleni wrth gwrs ond rydym wedi gallu sicrhau bod yr arlwy yn eang ac amrywiol iawn. Mae gyda ni gyngherddau, trafodaethau, barddoniaeth, cerddoriaeth, celf, cwisiau, chwaraeon a hyd yn oed cystadleuaeth ar gyfer y pice ar y maen gorau.
Rydym yn falch iawn fod pawb wedi bod mor barod i gefnogi. Yn ystod y cyfnod heriol hwn mae’n wych bod dal cyfle gyda ni i ddathlu ein diwylliant arbennig a mwynhau’r talentau sydd gyda ni yma yn y Drindod Dewi Sant.”
Mae rhai o’r digwyddiadau eraill yn cynnwys dangosiad arbennig o ‘UN’ gan fyfyrwyr cwrs BA Perfformio y Brifysgol. Yn gylch o ganeuon gwreiddiol, mae’r gerddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr y cwrs BA Perfformio, a’r geiriau gan y Prifardd Gruffudd Eifion Owen.
I orffen y dathliadau bydd Canolfan S4C yr Egin yn cyflwyno am y tro cyntaf erioed gŵyl ffilmiau Antur: Yr Egin. Dathliad yw’r ŵyl o ffilmiau awyr agored sy’n ysbrydoli, arddangos rhyfeddodau natur ac wrth gwrs tanio’r adrenalin. Bydd yn gyfle i wylio ffilmiau o Gymru a llefydd anhygoel eraill a chlywed gan y rhai o flaen a thu ôl y camera. Yn ystod y penwythnos bydd yna sesiynau gyda phanelwyr profiadol yn rhannu cyngor a chyfrinachau, cyfle i weld ffilmiau cyffrous gwneuthurwyr ifanc ac i chi eistedd nôl ac edmygu’r golygfeydd.
Ewch i dudalen ‘Pethau Bychain’ ar wefan y brifysgol er mwyn cael gweld y rhaglen yn llawn.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076