Effeithiau Seicolegol ar Ffoaduriaid yn Mudo i’r Deyrnas Unedig


27.05.2020

Heddiw yw Diwrnod Seicoleg blynyddol y Cenhedloedd Unedig - dathliad byd-eang o seicoleg sy’n cynnig cyfle i seicolegwyr rannu eu gweithgareddau ac egluro rôl seicoleg wrth fynd i’r afael â phryderon o bwysigrwydd byd-eang. Mae Diwrnod Seicoleg hefyd yn archwilio cyfraniad cyfredol a phosibl seicoleg yng ngweithgareddau ac ystyriaethau’r CU ac eleni mae’r ffocws ar amlochroldeb, mewnfudo a chenedlaetholdeb.

Yma, mae Dr Paul Hutchings, Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Disgyblaeth Academaidd Seicoleg a Chwnsela ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn trafod mudo a’r effeithiau seicolegol ar ffoaduriaid sy’n cyrraedd y DU.

Dr Paul Hutchings

Dr Paul Hutchings, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Wrth iddi ymddangos fel pe bai’r byd cyfan yn canolbwyntio ar bandemig Covid-19 gall fod yn hawdd i ni anghofio bod llawer o’r problemau oedd ar waith yn y byd cyn y misoedd diwethaf yn parhau. Un o’r problemau mwyaf yn y byd ar hyn o bryd, ac un a fydd yn tyfu fwyfwy dros y blynyddoedd nesaf, yw mudo. Yn 2019 roedd dros 270 miliwn o bobl yn symud ar draws y blaned yn rhyngwladol; dyna 3.5% o boblogaeth y byd yn symud rhwng gwledydd yn bennaf am resymau gwaith neu ddomestig. Fodd bynnag mae nifer sylweddol o’r mudwyr hyn yn symud am resymau eraill – pobl sydd wedi’u hadleoli drwy rym o ble maen nhw’n byw oherwydd rhyfel, neu ofn erledigaeth oherwydd eu hil, crefydd, cenedligrwydd neu aelodaeth o blaid neu grŵp gwleidyddol. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod o ddeutu 70 miliwn o bobl wedi’u dadleoli ar hyn o bryd, gyda 40 miliwn o’r rhain yn eu gwledydd eu hunain a 30 miliwn ar ffo o’u gwledydd.

I’r rheini ohonom sydd mewn gwledydd llewyrchus, sefydlog yn wleidyddol gall hyn fod yn anodd ei ddeall. Fe welwn straeon newyddion bob nawr ac yn y man am ddinasoedd a threfi wedi’u bomio, a rhywun yn wylo ar ôl marw rhywun annwyl. Fe welwn ni’r adroddiadau o lefydd fel Môr y Canoldir am bobl yn dringo o gychod i’r tir i geisio lloches yn Ewrop, ac yn achlysurol ceir corff marw neu ddau sy’n amlygu peryglon taith o’r fath; gwelwn ddelweddau o wersylloedd mudwyr, a chlywn adroddiadau newyddion am ymfudwyr anghyfreithlon yn dod i’r wlad mewn lorïau a chychod. Gall y delweddau a’r straeon hyn arwain at nifer o emosiynau gwahanol; tristwch fod pobl yn byw mewn amgylchiadau mor echrydus; ofni’r niferoedd o bobl o ddiwylliant gwahanol sy’n dod i fyw yn ein cymdeithas; dicter at bobl sy’n torri’r rheolau. Ond anaml fyddwn ni’n aros ac yn meddwl go iawn am yr unigolion, eu rhesymau, ac yn hollbwysig, eu hiechyd seicolegol yn sgil popeth maen nhw wedi’i brofi. Mae’r geiriau rydym ni’n eu defnyddio - mudwr, ffoadur, ceisiwr lloches - yn ei gwneud yn hawdd i ni anghofio bod person, bod dynol fel chi a fi y tu ôl i bob un ystadegyn o’r 70 miliwn - a’r hyn rwyf i am drafod yw sut rydym ni’n delio gyda’r unigolion hynny.

Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n byw’n ddigon hapus yn y wlad y’n ganwyd ni ynddi. Mae’n wir y bydd angen i ni symud efallai ar gyfer gwaith neu berthnasoedd, ond hyd yn oed os nad yw eich amgylchiadau’n ddelfrydol - os nad ydych chi’n ennill cymaint ag yr hoffech chi, bod eich bywyd bob dydd braidd yn ddiflas - mae’r syniad o bacio popeth a symud i wlad, diwylliant neu gymdeithas nad ydych chi’n gwybod dim amdanyn nhw’n frawychus. Mae hynny am fod bywyd gymaint yn fwy nag arian neu brofiadau - y teulu a’r perthnasoedd sydd gennym ni, deall sut mae pethau’n gweithio yn eich diwylliant eich hun, yr ymdeimlad cyfforddus o fod yng nghanol y cyfarwydd, mae’r rhain i gyd yn bethau sy’n clymu llawer ohonom at wlad ein gwreiddiau. A dyw hynny’n ddim gwahanol ar draws y byd. O ddewis, ni fyddai’r rhan fwyaf o ffoaduriaid yn ffoaduriaid. Os edrychwn ni ar ddinas fel Aleppo yn Syria, roedd yn ddinas brydferth, hanesyddol o ychydig dros ddwy filiwn o bobl gyda diwydiant twristiaeth lewyrchus, bywyd nos, a chefn gwlad ysblennydd o’i chwmpas. Yn ystod y rhyfel cartref a’r ymladd a reibiodd y ddinas rhwng 2012 a 2016 bu farw miloedd a dinistriwyd llawer o gymdogaethau; roedd yn anodd cael gafael ar hanfodion sylfaenol fel bwyd a dŵr.

Ar y pwynt hwn mae’n werth aros a meddwl - beth fyddech chi’n ei wneud os byddai hyn yn digwydd yn eich tref chi? Pe baech chi’n ofni bod eich cymdogaeth am gael ei bomio, neu fod milwyr o un o’r carfannau’n llenwi eich ardal? Os byddai eich teulu neu ffrindiau wedi’u lladd neu wedi gadael, gan beri teimladau o alar neu unigrwydd ynoch chi? Mae’n edrych yn debyg i mi y byddai gadael yn rhywbeth rhesymegol i unrhyw unigolyn call ei wneud. Wrth gwrs, y cwestiwn mawr yw, i ble? Dan amgylchiadau o’r fath, dyw hi ddim yn bosibl cynllunio ymlaen llaw - dim ond amser i gasglu beth allwch chi a gadael. I’r mwyafrif llethol mae hyn yn golygu symud i le diogel mewn rhan arall o’r wlad (dadleoli mewnol). Hyd yn oed i’r rhai sy’n ceisio lloches y tu allan i’w gwlad, mae’r mwyafrif yn mynd i wledydd cyfagos.

Felly beth am y rheini sy’n ceisio teithio i lefydd fel y DU? Efallai eu bod yn teithio am amrywiol resymau; teulu neu ffrindiau eisoes yn y DU, maen nhw’n siarad yr iaith, efallai eu bod wedi clywed bod y DU yn lle gwych i fyw; bydd gan bob unigolyn ei resymau ei hun. Fodd bynnag, i lawer gall y daith fod yr un mor beryglus â’r bywyd y gadawon nhw, ac ychydig yn unig fydd wedi paratoi ar gyfer hyn. Teithio drwy ba ffordd bynnag, boed ar droed neu mewn trafnidiaeth a ddarparwyd gan droseddwyr. Y peryglon o groesi môr lle mae miloedd wedi marw o’ch blaen, yn aml yn talu eu holl arian neu eiddo am y ‘cyfle’ hwn. Mae llawer o bobl yn cwestiynu pam fyddai ffoaduriaid yn fodlon wynebu’r fath risgiau i gyrraedd Ewrop, ond does bosib fod hyn yn amlygu’r erchyllterau’r bywyd maen nhw’n ei adael; pan fyddwch yn wynebu perygl ond bod hynny’n dal yn well na’r hyn sydd y tu ôl i chi, mae’n amlygu’r anobaith sy’n gyrru pobl i beryglu eu bywydau’n llythrennol. Yn ogystal, nid oes cyfraith i’ch diogelu wrth i chi deithio, bydd gangiau troseddol yn aml yn manteisio ar ffoaduriaid a gallech fod yng nghwmni dieithriaid ar y daith hir. Unwaith eto, dychmygwch pe na bai unrhyw gyfraith yn eich tref a’ch bod cael ar ddeall mai’r drefn oedd pawb drosto’i hun - fyddech chi hyd yn oed yn camu allan o’ch tŷ? Un o’r delweddau negyddol amlycaf am fewnfudo yw ei fod bob amser yn ymddangos mai dynion ifanc ffit yw ffoaduriaid. Er nad yw’r ystadegau’n cadarnhau hyn (mae 48% o ffoaduriaid yn fenywod) dyw hi ddim yn syndod mai dynion yw’r rhai sy’n mynd gyntaf i geisio lloches; mae peryglon ymosodiad, cam-drin rhywiol a masnachu pobl er mwyn cam-fanteisio arnyn nhw’n rhywiol (problem fyd-eang fawr arall) yn fygythiadau parhaus i fenywod a phlant ar y teithiau hyn.

Ac felly, fel ffoadur, rydych chi’n cyrraedd y DU. Rydych chi wedi gadael eich gwlad, teulu, ffrindiau, eiddo, ac mewn sawl achos, eich diwylliant ar ôl. Y bobl rydych chi’n eu hadnabod nawr mae’n debyg yw cyd-ffoaduriaid ac aelodau o gang troseddol. Efallai eich bod yn amau neu’n ofni ffigurau awdurdod fel yr heddlu ac asiantau’r ffin, yn enwedig os ydych chi’n dod o wlad lle’r achoswyd eich problemau gan yr awdurdodau yn y lle cyntaf. Felly dyw hi ddim yn syndod nad yw llawer yn dilyn y ffordd ‘gywir’ o ddod i mewn i’r wlad, hyd yn oed os ydyn nhw’n gwybod beth yw’r ffordd gywir honno. Ond fe wyddoch sut beth yw cyrraedd cyrchfan – ymdeimlad o ryddhad, diwedd y daith a – pan fydd yn gam mawr yn eich bywyd – y teimlad fod trafferthion eich gorffennol y tu ôl i chi ac y gallwch edrych ymlaen at ddyfodol disglair. Yn anffodus, i lawer o ffoaduriaid, nid felly mae hi. I fewnfudwyr anghyfreithlon ceir bygythiad parhaus o gael eu darganfod a’u halltudio; i fudwyr cyfreithlon gyda statws ffoaduriaid efallai fydd dalfa, cyfweliadau gyda swyddogion a chyfnodau hir o ansicrwydd. Gall fod agweddau negyddol yn y cymunedau ble maen nhw’n ceisio ymgartrefu, ac efallai na fydd y dyfodol disglair eu gobeithion i’w weld am gyfnod hir, os o gwbl.

Dychmygwch eich bod wedi bod drwy’r holl bethau hyn; gweld eich bywyd yn cael ei ddinistrio, cychwyn ar daith beryglus a chyrraedd cyrchfan nad yw’n bopeth roeddech chi wedi dychmygu y byddai. Efallai y byddech wedi gweld, neu brofi trawma ar raddfa na fyddai modd lawer o bobl ei ddychmygu. Sut fyddai eich iechyd meddwl? Dyma un o’r ysgogiadau allweddol y tu ôl i lawer o sefydliadau a’u hymgais i gydweithio gyda ffoaduriaid a’u helpu, nid yn gorfforol yn unig yn ystod eu dioddefaint ond yn seicolegol ar ôl hynny. Cyhoeddodd fy nghorff llywodraethu i, Cymdeithas Seicolegol Prydain, ddogfen bolisi yn 2018 yn amlinellu anghenion penodol ceiswyr lloches a ffoaduriaid oherwydd llawer o’r ystyriaethau a drafodir uchod, ac mae’r ffoaduriaid hyn yn haeddu ein cymorth.

Mae’n hawdd, yn enwedig ar hyn o bryd wrth i ni wynebu caledi economaidd yn ein cymdeithas ein hunain i ni ddweud ‘rhaid i ni ofalu am ein pobl ein hunain yn gyntaf’. Ond does bosib, fel pobl, y dylem wneud popeth yn ein gallu i ofalu am ein gilydd waeth o ble mae pobl yn dod, ac mae mwy o angen cymorth seicolegol ar lawer o ffoaduriaid oherwydd natur eu profiad. Mae llawer o bobl i’w beio am eu sefyllfa - llywodraethau a grwpiau ar draws y byd sy’n gwneud iddyn nhw ffoi yn y lle cyntaf, y troseddwyr sy’n manteisio arnyn nhw wrth iddyn nhw geisio dianc; ond does dim bai ar y ffoaduriaid unigol, maen nhw’n dioddef oherwydd amgylchiadau na chrëwyd ganddyn nhw. Dadleuodd yr athronydd John Rawls y dylem edrych ar bopeth o safbwynt ‘llen o anwybodaeth’ gan wneud penderfyniadau moesol o’r safbwynt y gallem ninnau fod yn y grŵp y mae’r penderfyniad hwnnw’n effeithio fwyaf arno. Os byddai eich bywyd chi’n cael ei droi wyneb i waered nawr a’ch bod yn cael eich gorfodi i ffoi o’ch gwlad a chael yr un profiad â llawer o ffoaduriaid, sut fyddech chi am i wlad fyddai’n eich derbyn eich trin?

Gallwch wrando ar Dr Paul Hutchings yn trafod y darn hwn fel rhan o gyfres o bodlediadau'r Brifysgol ar Spotify ac Apple Podcasts.

Cyfeirnodau:

British Psychological Society (2018). Guidelines for psychologists working with refugees and asylum seekers in the UK: Extended version. Leicester: British Psychological Society. Ar gael: https://www.bps.org.uk/sites/www.bps.org.uk/files/Policy/Policy%20-%20Files/Guidelines%20for%20Psychologists%20Working%20With%20Refugees%20and%20Asylum%20Seekers%20in%20the%20UK%20-%20Extended%20%28Update%20Nov%202018%29.pdf

United Nations Department of Economic and Social Affairs (2019). International Migration 2019. New York: United Nations. Ar gael: https://www.un.org/en/development/desa/population/migration/publications/migrationreport/docs/InternationalMigration2019_Report.pdf

UNHCR (2020). Figures at a glance. Ar gael: https://www.unhcr.org/figures-at-a-glance.html

Dr Paul B. Hutchings

Uwch-ddarlithydd Seicoleg a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Disgyblaeth Academaidd Seicoleg a Chwnsela ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw Dr Paul Hutchings. Mae hefyd yn Gymrawd yr AAU, yn Seicolegydd Siartredig ac yn Gymrawd Cyswllt Cymdeithas Seicolegol Prydain. Mae Dr Hutchings wedi cael sawl rôl yng Nghymdeithas Seicolegol Prydain, corff cynrychioliadol seicolegwyr a seicoleg yn y DU, yn cynnwys Cadeirydd Cymdeithas Seicolegol Cymru, aelod o Senedd Cymdeithas Seicolegol Prydain, ac aelod o’r Bwrdd Ymarfer Proffesiynol.

Mae arbenigedd ymchwil Dr Hutchings ym maes rhagfarn a gwahaniaethu, ar lefel unigol a chymdeithas. Yn benodol mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar sut gall rhagfarnau ymhlyg ac amlwg pobl ddylanwadu ar eu barn a’u hymddygiad ynghylch unigolion a grwpiau. Mae ymchwil ychwanegol wedi edrych ar faterion fel defnydd rhagnodol a disgrifiadol o stereoteipiau rhywedd, sut caiff gwybodaeth ei hadrodd yn y cyfryngau, a defnydd o dechnoleg mewn amgylcheddau cwnsela ar-lein. Ochr yn ochr â’r ymchwil hwn mae Dr Hutchings yn cymhwyso canfyddiadau ar sail tystiolaeth i sefyllfaoedd byd real, ac wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau fel Cyngor Hil Cymru a Llywodraeth Cymru i lunio datrysiadau ar sail tystiolaeth i broblemau byd real.

Gwybodaeth Bellach

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@pcydds.ac.uk