Llinos Jones o Brifysgol Cymru Y Dewi Sant ar restr fer gwobrau blynyddol Womenspire


06.05.2020

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth ei bodd fod Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Dysgwr yng ngwobrau Womenspire eleni.

Llinos Jones

Llinos Jones.

Wedi’u trefnu gan Chwarae Teg, prif elusen cydraddoldeb rhywiol Cymru, mae Gwobrau Womenspire yn dathlu llwyddiannau menywod o bob cefndir a chyfnod mewn bywyd ar hyd a lled Cymru.  

Ymunodd yr enwebai, Llinos Jones, â thîm Yr Egin – Canolfan Ddigidol a Chreadigol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin – yn gynharach eleni ac mae’n gyfrifol am y prosiect ymgysylltu, gan weithio gyda gwahanol gymunedau ar draws Sir Gâr. Ariennir y prosiect drwy gefnogaeth ariannol cronfa LEADER - cronfa sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran y Grŵp Cefn Gwlad ac ariennir y swydd hon yn rhannol drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Daw enwebiad Llinos wedi iddi gymryd rhan yn llwyddiannus yn Rhaglen Datblygu Gyrfa Chwarae Teg i helpu datblygu ei hyder.  Yn ystod ei chyfnod ar y rhaglen llwyddodd Llinos i sicrhau swydd lawn amser newydd yn Yr Egin.

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Chwarae Teg am roi'r cyfle i mi ddatblygu yn broffesiynol ac yn bersonol,” meddai Llinos.  “Drwy fynychu'r cwrs yma teimlaf fy mod wedi magu'r hyder i ddysgu a datblygu gan hefyd cofio i wenu wrth wynebu heriau bywyd.

“Anrhydedd mawr iawn ydy cael fy enwebu ar gyfer y wobr yma, a doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy enwebu o gwbl, heb sôn am gyrraedd y rhestr fer,” ychwanega Llinos.  “Merch arferol ydw i a fachodd ar y cyfle i ddysgu, gan gael y pleser o gwmni merched anhygoel ac ysbrydoledig ar hyd y daith. Roedd yn daith gyffrous iawn, ac awgrymaf yn gryf y dylai menywod fynychu’r cwrs, beth bynnag eu hoed oed a’u cefndir.  Mae o wir yn un o’r pethau gorau ‘dwi wedi ei wneud gan gael y cyfle i ddysgu, a dod i adnabod fy hun unwaith eto.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i Helen Davies a Cheryl Royall o Chwarae Teg am yr addysg, y geiriau doeth a’r arweiniad cryf. Hoffwn hefyd ddiolch i’r merched eraill ar y cwrs am eu cwmni a’u cefnogaeth, ac i holl dîm Chwarae Teg am yr holl waith maen nhw’n ei gyflawni. Wedi’r cyfan, mae pob merch yn haeddu chwarae teg.”

Mae Womenspire yn cydnabod pob agwedd ar fywydau menywod, o lwyddiannau personol i gyfraniadau rhagorol.  

Mae’r Gwobrau’n helpu arddangos llwyddiannau anhygoel menywod ledled Cymru gyda’r nod o ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Gwelir menywod yn cael eu gwobrwyo ar draws amrywiaeth o gategorïau gan gynnwys y categori Dysgwr, a noddir gan Academi Cymru.

Oherwydd Cofid-19, mae’r gwobrau Womenspire, sydd nawr y neu pumed flwyddyn, am cael eu gynnal ar-lein am y tro cyntaf. Ar Ddydd Mawrth 29 Medi 2020 o 7.00pm byddant yn ffrydio dros Face Book Live a Twitter ITV. Mae cofrestru am ddim ac ar agor nawr drwy http://bit.ly/cofrestruWomenspire20.

Meddai Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg: “Mae Womenspire yn seremoni wobrwyo unigryw. Mae wir yn dathlu ac yn arddangos talentau, diddordebau angerddol a llwyddiannau menywod Cymru. Ni sylwir ar gyflawniadau menywod yn rhy aml o lawer. Rydym ni yn Chwarae Teg eisiau newid hynny.

“Mae Llinos yn fodel rôl go iawn ac yn wirioneddol haeddu ei lle yn y rownd derfynol. Roedd yn seren go iawn o fewn ein rhaglen datblygu gyrfa, a fu’n fodd iddi feithrin yr hyder a’r sgiliau i ddatblygu yn y gwaith. Erbyn i’r noson dathlu graddio gyrraedd, roedd hi hyd yn oed yn hapus i godi ar ei thraed a siarad â’i chyd-gyfranogwyr, gan ysbrydoli pawb yn yr ystafell.

“Gwn y bydd ei hymroddiad at ddysgu’n parhau hefyd gan fod ganddi gynlluniau eisoes ar gyfer rhagor o gymwysterau ac mae’n awyddus i gamu i rôl Aelod o’r Bwrdd,” atega.

Yn rhan o’i rôl yn Yr Egin, mae Llinos yn ymgysylltu â chymunedau, cyrff a sefydliadau ledled Sir Gâr yn annog pobl o bob oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a digidol, a’u hysbrydoli i ymwneud â’r ganolfan.

Canolfan S4C Yr Egin

Canolfan S4C Yr Egin.

Mae Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin yn ymfalchïo’n fawr yn llwyddiant Llinos ac yn dymuno pob lwc iddi ar gyfer y noson wobrwyo.

“Hoffwn estyn llongyfarchiadau gwresog i Llinos ar ei henwebiad ar gyfer y wobr yma. Ers ymuno gyda thîm Yr Egin mae creadigrwydd a chyfeillgarwch Llinos wedi cydio ynom i gyd,” meddai Carys Ifan.

“Mae’n dda gweld trwy gynllun Chwarae Teg bod Llinos wedi cael cyfle i ddatblygu ei hun yn enwedig gan fod ganddi ddawn rhyfeddol i gefnogi ac annog eraill i ddatblygu, beth bynnag eu hoed neu eu profiad bywyd.  Nid yw’n syndod o gwbwl bod Llinos wedi cyrraedd y rhestr fer, mae ganddi lot fawr i’w gyfrannu ac edrychwn ymlaen at weld prosiect ymgysylltu Yr Egin yn mynd o nerth i nerth o dan ei harweiniaid.  Mae pawb yn Yr Egin yn falch iawn ohoni ac yn dymuo pob hwyl iddi yn y seremoni ym mis Medi.”

I gael rhagor o wybodaeth am Yr Egin neu i drafod cyfleoedd i ymgysylltu â’r ganolfan, cysylltwch â Llinos yn uniongyrchol trwy anfon e-bost at llinos.jones@uwtsd.ac.uk

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@pcydds.ac.uk