MADE Cymru yn arwain trafodaeth am ddyfodol disglair gweithgynhyrchu yng Nghymru
24.02.2021
Fel partner thema yn Emerging Tech Fest 2021 y mis diwethaf, cynhaliodd MADE Cymru drafodaeth ford gron gyda nifer o arbenigwyr yn y diwydiant i siarad am sut mae gweithgynhyrchwyr wedi gorfod addasu i heriau'r pandemig, a sut mae rhai wedi ffynnu.
Ymunodd Graham Howe a Lisa Lucas o MADE Cymru â:
Alison Orrells (Safety Letter Box)
Natalie Glover (Reeco Automation Ltd)
Oliver Conger (Rototherm Group)
Lynn Davies (Probe RTS)
David Morgan (Avanade)
Roedd y drafodaeth yn onest, yn ddiddorol ac yn gadarnhaol – ac rydym wedi cynnwys rhai o'r pwyntiau allweddol isod.
Alison Orrells – Safety Letter Box
Ar ddechrau Covid-19, fe wnaethom sefydlu gwiriadau tymheredd, sifftiau hollt, gweithio gartref, PPE – popeth y gallem feddwl amdano, fe wnaethom ei daflu ato. Sicrhau bod pawb yn ddiogel oedd y flaenoriaeth gyntaf. Yng ngham un y pandemig, fe wnaethom ganolbwyntio ar oroesi. Roedd yn amlwg bod ffordd drwodd.
Yr her fwyaf oedd 'pobl' – a sut i gyfathrebu â'i gilydd a'r cwsmeriaid, felly fe wnaethom fuddsoddi mewn TG. Erbyn yr haf, roedd gennym well dealltwriaeth ac yn gallu bwrw ymlaen ag ymchwil a datblygu – a buddsoddi mewn cynhyrchion newydd. Roedd yn bwysig parhau i arloesi a buddsoddi er mwyn ein gosod ni ar wahân a dod allan ohoni’n gryfach. Mae wedi bod yn ddwys, ond roedd gennym gynllun - erbyn hyn mae’n ymwneud â diogelu dyfodol busnesau, bod yn hyblyg, cydweithio a bod yn barod i addasu. O ran ochr weithgynhyrchu ein busnes (yr ochr gorfforol), er mwyn sicrhau parhad, bu’n rhaid i ni rannu sifftiau a chymryd mwy o le. Yr her fel busnes bach a chanolig oedd sut mae cymryd y cam hwnnw i nodi lle y gellir cael gwelliannau o fewn cyfyngiadau Covid.
Mae cymaint o ffactorau allanol newydd o ran gwella cynhyrchiant ac allbwn – bod gartref, gofal plant, hunanynysu – rydych chi’n wynebu heriau newydd bob dydd. Mae wedi dangos i ni fanteision awtomeiddio ychwanegol. Wrth i ni geisio ehangu i ffatri newydd, mae'n hanfodol i ni ddefnyddio technoleg na fyddem wedi meddwl amdani o'r blaen – mae'n newid shifft.
Mae her wirioneddol hefyd o ran sut rydym yn recriwtio pobl ifanc sy'n dod o'r ysgol – ystyrir gweithgynhyrchu yn hen ffasiwn ac yn anneniadol – sut y gallwn geisio ail-greu ac adfywio ein sector? Ac nid yw'n ymwneud â llawr y siop yn unig – mae cyfleoedd mewn adrannau eraill fel strategaeth marchnata a gwerthu. Mae cyfleoedd hyd yn oed i symud mewn gwahanol adrannau – mae'r cyfan yn ymwneud ag agwedd, ymagwedd a phositifrwydd. Gydag ymagwedd ‘dw i’n gallu gwneud hyn’, mae gennych gymaint o gyfleoedd – yn bendant mae gan brifysgol rôl i'w chwarae wrth ein helpu gyda hynny.
Natalie Glover - Reeco Automation Ltd
Yn ôl ym mis Ebrill roeddem yn nerfus am yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd nesaf. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant modurol – roedd cwsmeriaid yn gohirio prosiectau ac yn gwthio pethau'n ôl. Caewyd rhai cyflenwadau oddi wrthym hefyd. Gwnaethom y penderfyniad i anfon y rhan fwyaf o'n gweithlu adref ar ffyrlo wrth i ni wneud newidiadau i'r ffatri. Gwnaethom barhau â phrosiectau ond ar yr un pryd roeddem yn dal i edrych ar ein cynllun twf i weld sut y gallem barhau fel busnes. Penderfynwyd cyflogi mwy o brentisiaid ac uwchsgilio rhai o'r staff.
Parhaodd y cynhyrchu yn ôl ym mis Mehefin. Mae cwsmeriaid rydym yn gweithio gyda nhw yn bendant yn fwy parod i dderbyn technolegau yn y gweithle. Mae technoleg yn gwella cynhyrchiant – nid ydynt yn disodli'r gweithredwr sy'n fedrus iawn – mae'n caniatáu iddynt ddefnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn mannau eraill. Yna gellir defnyddio cobotiaid ar gyfer ymbellhau cymdeithasol neu waith mwy cyffredin. Mae cwsmeriaid yn aml yn gweld bod eu gweithlu wedi cynyddu ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y llawr.
Mae'n bwysig cydnabod nad yw cwsmeriaid byth yn bwriadu disodli gweithredwyr – dim ond i ail-gyfeirio sgiliau dynol i helpu'r cwmni i dyfu.
O ran bylchau sgiliau, cyn y pandemig roeddwn yn gweithio gyda cholegau ac ysgolion lleol yn edrych ar gyrsiau peirianneg i helpu i ateb heriau o ran cyflogi gweithgynhyrchwyr lleol. Nid yw pobl yn gwybod am y cyfleoedd lleol sydd ar gael yng nghefn gwlad canolbarth Cymru. Mae myfyrwyr lleol yn gadael y brifysgol ac nid ydynt yn dychwelyd adref i weithio. Byddwn yn parhau i frwydro hyd nes y gallwn roi Cymru yn ôl ar y map ar gyfer technoleg weithgynhyrchu – mae angen inni ddechrau gweithio gyda'r system addysg a dangos iddynt yr hyn rydym yn ei wneud a'r hyn sydd ei angen arnom. Dylem ddarparu cyfleoedd – cyflogi prentisiaid, uwchsgilio a'u mowldio i'r hyn sydd ei angen ar y diwydiant.
Mae gweithgynhyrchwyr yng Nghymru wir yn glynu wrth ei gilydd, a gallwn gyflawni cymaint mwy fel hyn. Mae cydweithredu'n bwerus a thrwy gydweithio, gallwn ddod drwy hyn gyda'n gilydd.
Oliver Conger - Rototherm Group
Rydym wedi aros ar agor drwy’r cyfan. Roedd gennym ddwy flaenoriaeth ym mis Mawrth – cadw pawb yn ddiogel a chadw pawb mewn gwaith. Doedden ni yn sicr ddim am gau fel busnes, felly fe wnaethom drin y peth fel brwydr. Yn araf deg, fe welsom rai o’r cadwyni cyflenwi yn sychu a dechreuwyd cael trafferth o ran cael rhannau i mewn. Ym mis Ebrill fe ddechreuon ni addasu a gwneud rhai o’r pethau’n fewnol.
Fe ddechreuon ni hyfforddi pobl i wneud y tasgau newydd – gan hyd yn oed defnyddio YouTube i ddysgu sut i wneud rhai o’r prosesau hyn. Daeth â’r holl staff yn nes at ei gilydd wrth i ni ofyn sut y gallwn ddod drwy hyn? Mae ochr ddiwylliannol busnes yn wir yn disgleirio yn ystod y cyfnod eithafol hwn ac mae arweinyddiaeth yn bwysig iawn gan fod gennym lawer o bobl bryderus ar y safle. Roedd cyfathrebu â'r staff yn bwysig.
Roedd cyflymder y broses o wneud penderfyniadau hefyd yn allweddol – gwnaed penderfyniadau ar unwaith. Gallwn wneud penderfyniadau llawer cyflymach yn awr – mae hynny'n sicr yn rhywbeth gwerthfawr iawn i mi dros y 12 mis diwethaf. I fusnesau bach a chanolig, mae wedi bod yn allweddol ystyried sut rydym yn gwario arian – rydych am wneud pethau'n iawn. Mae cymaint o dechnoleg ar gael – ceisiwyd deall y broses a beth oedd y manteision hyd yn oed i lawr i lefel y gweithredwr.
Os ydym am ddewis rhywbeth, rhaid i bob un ohonom ei gefnogi 100%. Rydym wedi dewis gwella ansawdd yn gyntaf, felly mae ansawdd yn allweddol – heb ansawdd nid oes gennych ymddiriedaeth cwsmeriaid, a phobol Prydain yw’r gorau o ran ansawdd ar gyfer gweithgynhyrchu. Mae capasiti yn broblem – ceisio sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Rydym wedi gwneud nifer o fuddsoddiadau yn y chwech i naw mis diwethaf – yn enwedig gyda'r prisiau da presennol ar offer cyfalaf. Rydym, mewn gwirionedd, yn adeiladu ar gyfer y dyfodol hwnnw pan fydd pethau'n ailagor. Bydd hyn yn gwella ein hansawdd ymhellach.
Rydym wedi cael llawer o help gan MADE Cymru i ddewis y technolegau cywir. Mae MADE Cymru yno i helpu cwmnïau, a dylai gweithgynhyrchwyr fynd i sgwrsio â'r arbenigwyr hyn. Nid oes digon o gwmnïau'n defnyddio'r adnoddau o'u cwmpas. Mae cael cwmnïau i sefydlu perthynas â phobl fel MADE Cymru yn bwysig; does dim rhaid iddyn nhw fod â rhywbeth ar y gweill ar unwaith. Yn ein hachos ni, rydym wedi bod yn siarad â nhw am y rhan orau o 18 mis cyn i ni wneud unrhyw beth – pan gododd y cyfle, cysylltwyd â MADE Cymru a symudwyd ymlaen yn gyflym ar brosiect. Rwyf am annog busnesau bach a chanolig i gysylltu ac adeiladu'r berthynas honno ac ar yr adeg iawn - pwyswch y botwm hwnnw!
O ran staffio, os oes gennych y fenter gywir ac agwedd wych ac yn barod i ddysgu, rydych chi 99% yno. Rwy'n credu'n gryf y gallwch ddysgu unrhyw beth. Nid yw'n ymwneud â'r CV i gyd. Ysbrydoli pobl – darganfyddwch pwy sy'n iawn am hyn. Mae’r byd yn newid ac ni fydd yn dychwelyd at yr hyn ydoedd. Rhaid inni gael ymagwedd gadarnhaol a pheidio ag aros i bethau ddychwelyd i normalrwydd.
Lynn Davies - Probe RTS
Dros y flwyddyn ddiwethaf, daeth y weithred o fynd i gwmnïau a gweithio gyda phobl a phroses i ben yn gyflym oherwydd cyfyngiadau cymdeithasol. Fe wnaethom gymryd cam yn ôl ac edrych ar y busnes; roedd llif arian yn allweddol a thrwy fod yn ddarbodus, dydyn ni ddim wedi colli unrhyw staff - rydym wedi gorfod ailhyfforddi staff i wneud gwahanol bethau i’r hyn roedden nhw’n ei wneud o’r blaen. Yn hynny o beth, rydym wedi bod yn ystwyth iawn, a rhoddodd hefyd gyfle i ni wneud rhywbeth gwahanol gyda’r busnes a chanolbwyntio ar lwybr gwahanol.
Mae’r norm bellach wedi newid ac mae’n rhaid cymryd amser i weld sut i reoli pethau’n wahanol i ni a’n cleientiaid. Yn ffodus i ni, mae ein meddalwedd POET yn eistedd yn y niche digideiddio hwnnw – mae ein meddalwedd yn caniatáu i chi reoli o bell. Bu’n heriol iawn mewn un ffordd, wrth i rywfaint o’n prif ffrwd incwm gau ond, mewn ffordd arall, fe roddodd inni’r ysgogiad i wneud rhywbeth gwahanol fel busnes. Drwy ein meddalwedd cynhyrchiant, penderfynwyd mai dyma sut rydym yn mynd i ddatblygu'r busnes. Mae'r byd wedi newid, nid yn unig y mae'r her a'r cyfleoedd mwyaf yn y broses o ychwanegu gwerth lle mae'n rhaid i chi gael y bobl i wneud y rhannau, ond mae yn y strwythur rheoli cyfan. Mae rhai cwmnïau'n ceisio rheoli o bell â hen systemau etifeddol, sy'n araf, ac yn anodd – credwn mai'r lefel reoli sy'n cael ei heffeithio'n fwy na'r gweithwyr sy'n gwneud y gwaith ar lawr y siop. Sut allwch chi addasu technolegau i reoli a gwella? Byddwn yn cael llawer mwy o bobl annibynnol ar lawr y siop yn rhedeg y prosesau eu hunain heb fod angen meicro-reoli; mae hyn yn golygu y byddai'n well treulio amser ar wella'r ychwanegu Gwerth; mae POET yn caniatáu i chi wneud hyn.
Mae’r sector gweithgynhyrchu yn gyfarwydd â newid a dod yn fwy cynhyrchiol drwy’r broses a’i systemau. Bu Covid yn her enfawr. Bydd y sector bob amser yn dod o hyd i ffordd o fownsio’n ôl.
David Morgan - Avanade
Mae gwneuthurwyr wedi arfer â heriau ond mae Covid-19 wedi cyflymu'r angen i addasu, newid a chyflawni pethau'n wahanol. Rydym yn gweld tri maes allweddol a) y gweithle/gweithwyr cysylltiedig (gweithio'n ddiogel mewn gwahanol ffyrdd), cydweithredu mewn llawer o leoliadau a chynhyrchu cynhyrchion a gwasanaethau gyda sgiliau a thechnolegau newydd b) gweithrediadau gwydn – gwneud yn siŵr eich bod yn addasu i weithio i wahanol fodelau, mynd i'r afael ag amharu ar y gadwyn gyflenwi a chael y gallu i optimeiddio gweithrediadau a chynyddu cynhyrchiant gyda modelau / partneriaethau busnes newydd ac c) ystwythder - y gallu i arloesi a gyrru cynhyrchion a gwasanaethau newydd yn gynaliadwy ond ystwyth ar gyfer anghenion y defnyddiwr sydd wedi esblygu'n barhaus.
Mae angen i weithgynhyrchwyr allu cofleidio a pheidio ag ofni'r her nesaf gydag atebion arloesol gan ddefnyddio technoleg newydd. Er enghraifft, rhoddwyd her peiriannau awyru'r DU i weithgynhyrchwyr i fynd i'r afael ag angen Covid-19. Gweithiodd Avanade a Microsoft gyda gweithgynhyrchwyr ar draws sectorau’r diwydiant, gan eu helpu gyda thechnoleg newydd ac offer cydweithredu. Galluogodd werth 20 mlynedd o beiriannau awyru i gael eu cynhyrchu mewn 12 wythnos. Mae technoleg yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn.
Rydym yn gwneud llawer o waith gyda dadansoddwyr sy’n rhagweld, erbyn 2024, y bydd dros 50% o weithgynhyrchwyr yn gwneud gwaith o bell. Bydd yn rhaid inni addasu i’r model hybrid newydd hwn gan nad yw pellter heddiw yn rhwystr i nwyddau a gwasanaethau gweithgynhyrchu. Mae Covid wedi cyflymu rhywbeth a oedd eisoes yn mynd i ddigwydd. Dylai technolegau diwydiant 4.0 e.e. Deallusrwydd Artiffisial / Efeilliaid Digidol / Blockchain, wneud swyddi gweithgynhyrchu yn fwy deniadol – mae angen inni ddenu’r Genhedlaeth Z yn arbennig gan nad yw gweithgynhyrchu’n cael ei ystyried yn lle deniadol i weithio, ac mae hynny’n anghywir.
Mae digideiddio a manteision diriaethol rhai o dechnolegau heddiw yn rhoi cyfle i roi'r sgiliau cywir i bobl (y genhedlaeth o weithgynhyrchwyr yn y dyfodol). Un o'r meysydd a fydd yn tyfu ymhellach yw'r defnydd o dechnolegau ymgolli / realiti cymysg. Mae'r dechnoleg hon eisoes yn galluogi cydweithredu o bell, gwella amseroedd cylchdro cynhyrchu, gwella diogelwch gweithwyr ac arwain at uwchsgilio gweithwyr allweddol yn gyflym... dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl yr oedd y dechnoleg hon yn cael ei hystyried yn ffuglen wyddonol ond heddiw mae technoleg ymgolli yn cyflwyno achos pendant dros wella'r canfyddiad o'r sector gweithgynhyrchu.
Mae Avanade yn falch o'i allu i ddatgelu arloesedd a ysbrydolwyd yn ddigidol ar draws holl sectorau'r diwydiant. Drwy ein partneriaethau â phrifysgolion fel Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, hoffem weld cynnydd yn nifer y graddedigion STEM sy’n awyddus i ddarparu atebion arloesol. Rydym yn canolbwyntio ar ganlyniadau busnes drwy arloesi cymhwysol, gweithio gyda diwydiant a chydweithio â phrifysgolion a datgelu syniadau ac atebion ymarferol i weithgynhyrchwyr a ffatrïoedd y dyfodol.
Lisa Lucas – MADE Cymru / Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Bwriad y rhaglen Made Cymru yr ydym wedi’i roi at ei gilydd erioed oedd cael ei chyflwyno ar-lein, ond er bod pobl yn fwy cyfforddus gyda’r math hwn o ryngweithio, mae wedi bod yn heriol o hyd wrth siarad â busnesau amdano. Ar lefel bersonol rwy'n ymgysylltu â thechnoleg drwy'r amser - addysgu gartref, cymdeithasu, gwaith - mae wedi dod yn rhan o'n bywydau ac ni fydd hynny'n diflannu. Ond mae cydbwysedd o ran defnyddio technoleg – nid yw'n disodli perthnasoedd dynol.
Y camsyniad a'r rhwystrau diwylliannol yr ydym yn dod ar eu traws yw'r syniad y gall technoleg ddisodli swyddi. Ac eto, mae’r gwaith rydym yn ei wneud yn ail-greu gefail ddigidol cyfleuster gweithgynhyrchu i ragweld senarios yn y dyfodol, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd technoleg o ran gwella’r gweithlu (nid ei ddisodli). Mae sgiliau’n allweddol a chyda diswyddiadau, ffyrlo, cwmnïau’n cau - mae yna fwlch sgiliau. Gallwn helpu i newid y canfyddiad o swyddi ym maes gweithgynhyrchu - a goresgyn yr heriau o ran recriwtio pobl ifanc sy’n ei gam-ystyried yn faes sydd â gwaith am gyflog isel mewn amgylchedd budr - ac nid yw hynny’n wir.
Nid yw prifysgolion bob amser yn cael eu hystyried yn adnodd ar gyfer gweithgynhyrchu. Sut y gallwn ni fel prifysgolion neu fel rhaglen helpu hyn? Mae MADE Cymru yn dechrau gyda CHI a’r hyn yw'r heriau hynny - sut gallwn ni ddwyn ynghyd atebion a thechnolegau.
Rydym am gael perthynas â gweithgynhyrchwyr Cymru a gweld sut y gallwn eich helpu yn hytrach na'ch boddi gyda gwybodaeth.
Graham Howe – MADE Cymru / Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae'r amser y mae'n ei gymryd i wneud penderfyniadau wedi newid – mae cyfarfodydd yn digwydd yn gyflymach ac yn haws. Dim mwy o reolwyr dyddiadur yn trafod ble a phryd i gael y cyfarfod. Mae technoleg wedi gwella'r ffordd y mae prosiect MADE Cymru yn gweithio hefyd – er enghraifft, rydym yn cerdded llinellau gweithgynhyrchu drwy Facetime ac yn cwmpasu sifftiau lluosog – gan ddeall y materion. Drwy ei wneud yn ddigidol, gallwn nodi'r gwahaniaethau allweddol mewn sifftiau gwahanol. Er bod yr elfen wyneb yn wyneb honno'n dal yn bwysig, mae technolegau ar gael a all ein helpu mewn gwirionedd. Yr hyn y mae Covid wedi’i wneud yw cyflymu’r hyn a oedd yn mynd i ddigwydd cyn Covid.
Mae cyflymder pethau gymaint yn gyflymach ond rhaid i'r broses ddod yn gyntaf bob amser, technoleg yn ail. Byddem wrth ein bodd yn sgwrsio â chi am sut y gallwn helpu eich sefydliad: Yn draddodiadol, dim ond y myfyriwr a'r darlithydd (fi) fyddai'n ei ddarllen. Sut y gallwn ni rannu'r gwaith hwn? Gallwn bellach rannu gwaith gyda'r garfan gyfan fel y gallant i gyd elwa o ganfyddiadau mater penodol. Dyma sail MADE Cymru – bydd un cwmni wedi datrys problem sydd gan gwmni arall ar hyn o bryd. Rhannu atebion gyda'i gilydd yn hytrach nag ailddyfeisio'r olwyn - mae ein myfyrwyr yn cael rhwydwaith proffesiynol iawn. Mae rhannu camgymeriadau hyd yn oed yn ein symud ymlaen. Mae grym rhwydwaith MADE Cymru yn arbennig ac yn bwysig.
Mae defnyddio technoleg briodol yn allweddol – mae technolegau'n symud ymlaen drwy'r amser, OND yr un sgiliau yw’r rheini sydd eu hangen i ddeall y dechnoleg honno a deall ble y bydd yn gwneud budd economaidd. Mae sgiliau deall a defnyddio yn bwysig.
Rydym bob amser yn dechrau drwy ofyn i wneuthurwr beth yw eich problem fwyaf heddiw – sut y gallwn eich helpu gyda hynny. Mae gennym ddwy glust ac un geg ac yn eu defnyddio yn y gymhareb honno i ddeall yr hyn sydd ei angen ar ddiwydiant. Mae'r mewnbwn a gawn gan ddiwydiant yn llywio ein cwricwlwm yn y dyfodol. Rydym am i raddedigion fod â chyflogadwyedd yn gryf ynddyn nhw. A thyfu gwydnwch. Rwy'n gyffrous iawn am ddyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru. Gyda'r technolegau newydd hyn fel Deallusrwydd Artiffisial, mae gennym berthynas wirioneddol â bydoedd pobl ifanc ac mae gweithgynhyrchu’n gynnig deniadol iddynt.
Mae MADE Cymru yn rhaglen a ariennir gan yr UE, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a ddarperir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n cynnig cyfleoedd dysgu ac ymchwil a datblygu cydweithredol a arweinir gan ddiwydiant. Ein tair rhaglen yw:
- Upskilling for Industry 4.0 courses
- Innovation Management courses
- Advanced Design Engineering (ADE) collaborative R&D projects
Ar hyn o bryd, gallwn gynnig cyrsiau a chymorth wedi'u hariannu'n llawn (holwch ein tîm am feini prawf cymhwysedd).
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk