Mae Dr Ceri Phelps yn adfyfyrio ar 20 mlynedd o ymchwil am Diwrnod Canser y Byd


04.02.2021

Heddiw, ar Ddiwrnod Canser y Byd mae Dr Ceri Phelps, Cyfarwyddwraig Seicoleg a Chwnsela yn adfyfyrio ar ugain mlynedd o ymchwil yn ceisio cefnogi unigolion sy’n cael eu heffeithio gan ddiagnosis canser yng Nghymru.

UWTSD’s Director of Psychology & Counselling and registered Health Psychologist Dr Ceri Phelps reflects on twenty years of research seeking to support individuals affected by a cancer diagnosis in Wales.

Ugain mlynedd nôl yn 2001 dechreuais fy nhaith i ymchwil oncoleg seicogymeithasol, trwy fy PhD a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn archwilio i’r ffordd orau i gefnogi merched yng Nghymru sy’n mynd trwy asesiad genetig ar gyfer risg canser y fron teuluol[1].   Ers hynny rwyf wedi cael y fraint o gynnal ymchwil gydag ystod o boblogaethau canser: merched gyda chanser y fron, pobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan ganser, y rheiny sy’n byw gyda chanser anwelladwy, a dynion gyda chanser y brostad.  Mae’r brwdfrydedd a dannwyd ynof fi dros y tair blynedd gychwynnol hynny wedi aros gyda fi, felly yma rwy’n treulio ennyd i adfyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd a’r gwerthoedd rwyf wedi ceisio mynd i’r afael â nhw ers hynny.

Yn gyntaf, rwyf wedi bod yn ffodus bod fwy neu lai bob prosiect rwyf wedi bod yn rhan ohono dros y ddegawd ddiwethaf wedi gofyn i mi gwrdd â’r unigolion roedd fy ymchwil yn ffocysu arnynt.  Boed hynny drwy grwpiau ffocws, cyfweliadau, neu weithio gyda chynrychiolwyr cleifion ar brosiectau, dysgais yn gyflym mai’r arbenigwr mwyaf yn yr ystafell wrth drafod effaith canser ar fywydau unigolion, wrth gwrs, yw’r unigolion eu hunain.  Nid yn unig y mae rhoi o’ch amser i glywed - a gwir gwrando ar – eu straeon wedi bod yn elfen hanfodol o lwyddiant llawer o’m gwaith ymchwil, ond mae hynny hefyd wedi fy ngadael gydag ymdeimlad anhygoel o fraint a diolchgarwch bod cymaint o bobl mor barod i rannu eu profiadau personol gyda fi, yn aml yn y gobaith y bydd hynny’n helpu eraill yn y dyfodol.  Mae’r teimlad o gyfrifoldeb a ddaw o wybod bod cyfranogion eich ymchwil yn rhannu eu hofnau, pryderon, a gobeithion gyda chi wedi fy annog i sicrhau unplygrwydd fy ymchwil a’r negeseuon a ddarperir drwyddo.  Roedd hyn yn cyseinio’n arbennig gyda fi wrth oruchwylio ymchwil gydag unigolyn a oedd yn nyrs canser y fron ar y pryd, yn archwilio i anghenion gwybodaeth a chefnogaeth merched sy’n byw gyda chanser y fron eilaidd anwelladwy[2]. Mae helpu i siapio’r ymchwil hwn, gweld y nyrs dan sylw yn dod yn nyrs arbenigol canser y fron eilaidd cyntaf Cymru ac yna’n ddiweddar i gael anrhydedd BEM gan y Frenhines am ei gwaith i wella cymorth canser y fron eilaidd wedi bod yn brofiad anhygoel, ond hefyd yn fy atgoffa bod angen i ni sicrhau nad yw’r momentwm yn cael ei golli unwaith y bydd y newidiadau hyn yn dechrau digwydd.

Gan gofio hynny, yr ail werth rwyf wedi’i ddysgu yw eich bod chi weithiau’n dysgu’r mwyaf gan brosiectau sydd ddim yn rhedeg yn ddiffwdan.  Wrth recriwtio ar gyfer prosiect yn archwilio i fanteision posibl eco-therapïau wedi’u seilio ar ymyrraeth, perodd bethau bychain ar y daith a gododd i’n hatgoffa i gofio pwysigrwydd y cyswllt personol anawsterau, nes i minnau ac aelodau tîm y prosiect droi fyny i grŵp cefnogi gyda sachaid o gompost, hambwrdd o flodau a llwyth o frwdfrydedd[3].  Ar brosiect arall, oedd yn gwbl wahanol i flodau a natur, roedd datblygiad byd cwnsela seiliedig ar rithffurf realiti rhithwir ar gyfer pobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser yn cynnwys cymaint o faterion cymhleth yn ymwneud â nid yn unig dyluniad ond hefyd ystyriaethau moesegol helaeth prosiect mor unigryw – ac yn un y cawsom ein canmol am ymdrin ag ef mor dda gan bwyllgor moeseg y GIG – fel bod y prosiect wedi rhedeg allan o arian cyn i ni wir allu recriwtio unrhyw bobl ifanc.   Cawsom ein hatgoffa hefyd gan y prosiect hwn am bwysigrwydd gweithio gyda chlinigwyr allweddol i helpu ardystio gwerth posibl y cyfryw brosiectau[4], gan gydnabod y ffydd a’r ymddiriedaeth sydd gan lawer o gleifion yn y gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n rhan o’u gofal.

Mae hyn yn fy arwain at y trydydd gwerth, sef cofleidio ysbryd cydweithio, a chydnabod gwir bwysigrwydd ymagweddau amlddisgyblaeth at ymchwil.   O ddiwrnodau cyntaf fy PhD, yn eistedd mewn ystafelloedd cyfarfod yn Ysbyty’r Heath yng Nghaerdydd, yn esbonio fy mhrosiect yn nerfus i gwnselwyr genetig, ymgynghorwyr, rheolwyr gwasanaeth ac uwch ymchwilwyr, roedd yn glir bod gallu galw ar gymorth ac arbenigedd gweithwyr proffesiynol mwy gwybodus, a bod yn barod i wrando a dysgu ganddyn nhw, yn hanfodol yn esblygiad unrhyw brosiect ymchwil llwyddiannus sy’n gweithio gyda phoblogaethau o gleifion agored i niwed.  Hefyd, bod yn barod i gynnig rhywbeth yn ôl, i arddangos eich ymrwymiad i waith tîm a chyfnewid gwybodus, yn werth sydd wedi’i feithrin yn ddwfn ynof fi fyth ers hynny, ar draws fy holl rolau proffesiynol.  Rwy’n dal i gofio’r geg sych a’r galon yn curo wrth orfod cyflwyno un o fy astudiaethau PhD cynnar i ystafell llawn arbenigwyr geneteg yn ystod y cyfarfodydd amser cinio rheolaidd – pam fyddai ganddyn nhw ddiddordeb yn fy astudiaeth grŵp ffocws fach i pan fo’n nhw’n gwneud pethau gwirioneddol bwysig fel chwilio am fwtaniadau genetig, neu helpu cleifion i wneud penderfyniadau pwysig ofnadwy ynghylch llawdriniaeth neu brofi genetig? Ond fe roedden nhw (ar wahân i’r ychydig a gwympodd i gysgu wrth gwrs ar ôl cloddio eu pecynnau bwyd); a gofynasant gwestiynau caled, ac roeddynt yn fodlon cymryd rhan mewn sgyrsiau a ddatblygodd cymaint ar fy ngwybodaeth, ac yn araf bach, gyda chymorth fy ngoruchwylwyr academaidd anhygoel a chymheiriaid, tyfodd fy hyder.

Felly dyma fi nawr, ugain mlynedd yn ddiweddarach, yn meddwl am Ddiwrnod Canser y Byd 2021. Mae pandemig COVID-19 wedi ychwanegu heriau eraill i boblogaethau canser Cymru a thu hwnt, ac mae wedi gwneud i mi feddwl am werth posibl rhai o’r ymyraethau ymdopi cynnar hynny i’r boblogaeth bresennol.  Bellach, mae gennyf fy myfyriwr PhD fy hun sy’n datblygu’r un brwdfrydedd a gwerthoedd a gefnogir yma, ac sydd, gyda chefnogaeth gan Tenovus Cancer Care, yn awyddus i adnabod trwy ei hymchwil y ffordd orau i gefnogi’r rheiny sy’n byw gyda chaner yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn.  Felly efallai ein bod wedi cwblhau’r cylch, a’r cwbl y gallaf ei wneud nawr yw ceisio parhau i rannu’r brwdfrydedd, y gwersi a’r gwerthoedd rwyf wedi’u dysgu gyda hi a’m myfyrwyr eraill, i oruchwylio a chefnogi mewn ffordd sy’n herio’n dringar, ac i barhau i ymgysylltu â dialog gyda’r GIG a sefydliadau cymorth canser, yn y gobaith y gallwn barhau i gynnal ymchwil ym maes oncoleg seicogymdeithasol sy’n bwysig, dilys, a gwirioneddol gydweithredol.

Nodyn i'r Golygydd

[1] Phelps C., Bennett P; Hood K., Brain K., & Murray A. (2013). A self-help coping intervention can reduce anxiety and avoidant health behaviours whilst waiting for cancer genetic risk information: results of a phase III randomised trial. Psycho-Oncology, 22(4), 837-834

[2] Baker, A.M. & Phelps, C. (2019) A changing identity: A focus group study of the experiences of women diagnosed with secondary breast cancer.  Cancer Nursing Practice,18,2.

[3] Phelps, C., Butler, C., Cousins, A., & Hughes, C. (2015). Sowing the seeds or failing to blossom? A feasibility study of a simple ecotherapy-based intervention in women affected by breast cancer. Ecancermedicalscience, 9, 602. http://doi.org/10.3332/ecancer.2015.602

[4] Phelps, C., Minou, M., Baker, A., Hughes, C., French, H., Hawkins, W., Leeuwenberg, A., Crabtree, R. a Hutchings, P. B. (2017).  Necessary but not sufficient? Engaging young people in the development of an avatar-based online intervention designed to provide psychosocial support to young people affected by their own or a family member's cancer diagnosis. Health Expectations, 20: 459–470. doi:10.1111/hex.12473

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk