Myfyriwr PCDDS yn arallgyfeirio ac yn trawsnewid menter gymdeithasol yn ystod Covid-19
15.06.2020
Goroesi yw prif nod llawer o fentrau cymdeithasol yn ystod y pandemig coronafeirws – ond mae rhai mentrau fel yr un a redir gan Sandra Richards-Davies, sy’n fyfyriwr aeddfed yn PCDDS, wedi defnyddio’r argyfwng i arallgyfeirio a thrawsnewid.
Mae Sandra’n astudio ar gyfer Tystysgrif Addysg Uwch (CERT HE) mewn Menter Gymdeithasol yn PCDDS, er mwyn cynorthwyo ei busnes menter gymdeithasol i lwyddo yn Llandysul, Sir Gâr.
Cyn y cyfnod clo, roedd Sandra’n mynychu darlithoedd ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol ac yn rhoi ei sgiliau a’i dysgu ar waith yn ei menter newydd o’r enw Nyth-y-Robin, siop hen lyfrau gyda man cymdeithasol yn cynnig cyfle i gyfarfod â phobl i leihau ynysu cymdeithasol – sydd wedi dod yn boblogaidd gyda chwsmeriaid lleol a’r henoed yn benodol.
“Doedden ni ddim wedi bod ar agor yn hir, ond roeddwn i’n gallu gweld pa mor boblogaidd roedd y man cyfarfod wedi dod ac anogodd hynny fi i sefydlu ystafell de/bar coffi cynaliadwy. Yna dechreuodd y cyfnod clo”, dywedodd Sandra, sy’n gyn nyrs iechyd meddwl. “Gyda’r cwrs yn parhau ar-lein, a chymorth gan fy narlithwyr a’r ymchwil roeddwn i wedi’i wneud ar gyfer aseiniadau, roedd gen i hyder i edrych ar beth oedd ei angen yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
“Roeddwn i’n gwybod bod y fenter yn hyb cymunedol pwysig oedd yn cynnig cyswllt pwysig i’r henoed yn benodol ac roeddwn i am i’r elfen honno barhau. Felly gyda chymorth fy ngŵr, penderfynon ni arallgyfeirio a defnyddio’r ystafell de i greu gwasanaeth pryd ar glud i barhau i helpu a chefnogi ein cwsmeriaid nad oedd yn gallu ymweld â ni bellach.
“Mae’r elfen honno o’r busnes bellach yn hynod o boblogaidd ac rydyn ni’n brysur iawn yn ymdopi gyda’r galw gydag unrhyw refeniw dros ben yn mynd yn syth i’r mwyaf bregus. Rydyn ni hefyd wedi cael ceisiadau gan wirfoddolwyr yn y gymuned leol i’n helpu ni i helpu’r gymuned ymhellach.”
Dywedodd Sandra fod gwir ymdeimlad o gymuned yn Llandysul ac awydd i helpu ei gilydd.
“Rwy’n credu bod y cyfnod clo wedi dod â ni’n agosach fyth,” dywedodd. “Rydyn ni’n dal i allu cyfathrebu’n rheolaidd gyda’n cwsmeriaid ac am ein bod yn gwybod beth maen nhw am ei gael, gallwn ni ymateb yn briodol.”
“Gallech feddwl ei bod yn cymryd grwpiau mawr i wneud penderfyniadau mawr, ond gall grwpiau bach yn gwneud newidiadau bach hefyd gael effaith fawr ar gymunedau.”
Bellach mae Sandra, sy’n aelod o fwrdd adfywio Llandysul, lle mae’n gallu rhoi ei dysgu ar waith, wedi cofrestru ar gwrs gradd yn Ysgol Busnes Caerfyrddin. Dywedodd fod y grŵp amrywiol o fyfyrwyr ar ei rhaglen flwyddyn o hyd wedi dylanwadu ar ei ffordd o feddwl, a’i darlithwyr ar ei hawydd i barhau â’i haddysg.
“Mae’n grŵp sy’n cynnwys sawl cenhedlaeth ac mae clywed syniadau’r hen a’r ifanc wedi bod yn wych ac rwyf i wedi dysgu llawer,” dywedodd. “Mae’n bendant wedi effeithio ar y ffordd rwyf i’n meddwl ac yn cynllunio a strwythuro fy menter gymdeithasol. Cofrestrais i ddechrau am fy mod am helpu i dyfu fy menter gymdeithasol ac mae fy narlithydd Jessica wedi bod yn wych. Nid yn unig mae hi wedi fy nysgu a fy nghefnogi ond mae hefyd wedi hwyluso ein dysgu, rhannu adnoddau, sgiliau ac arbenigedd a’n hannog i wthio ymhellach yn ein gwaith. Felly rwyf i nawr wedi cofrestru ar y cwrs gradd.”
Dywedodd Jessica Shore, Rheolwr Gweithredol y Rhaglen yn Ysgol Busnes Caerfyrddin PCDDS: “Mae mentrau cymdeithasol ar y rheng flaen o ran datrysiadau i’r argyfwng mewn iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnig cymorth cymunedol hanfodol i’r mwyaf bregus yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
“Er bod y cyfnod clo wedi bod yn anodd iawn i lawer, mae nifer o ganlyniadau cadarnhaol yn gysylltiedig â’r cyfnod hwn.
“Rydym ni wedi gweld nifer o’n myfyrwyr yn dod i adnabod eu cymunedau lleol unwaith eto a thrwy eu mentrau cymdeithasol yn llwyddo i arallgyfeirio eu gwasanaethau’n gyflym gan drawsnewid eu busnesau’n llwyfannau ar-lein, datblygu systemau gwerthu a thalu ar-lein a dangos i bawb pa mor ddyfeisgar y gall y sector fod ar adeg o argyfwng.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Tel: 01792 483695
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk