Seicoleg Iechyd a COVID-19 – beth ydyn ni wedi’i ddysgu ynglŷn â’r ffordd orau i ymdopi yn ystod cyfnodau ansicr?


07.04.2020

Mae Dr Ceri Phelps yn seicolegydd iechyd cofrestredig a siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain ac yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae’n arwain y ddarpariaeth Seicoleg a Chwnsela ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn gwneud gwaith ymchwil i agweddau seicogymdeithasol canser. Yma, mae hi’n trafod yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu am y ffordd orau i ymdopi mewn cyfnod ansicr...

Dr Ceri Phelps is a registered health psychologist, chartered by the British Psychological Society, and Senior Fellow of the Higher Education Academy.  She leads the Psychology and Counselling provision at University of Wales Trinity Saint David and carries out research into the psychosocial aspects of cancer.

Fel academydd sydd wedi bod yn ymchwilio ym maes seicoleg iechyd ers bron ugain mlynedd, rydw i wedi arwain nifer o astudiaethau ymchwil lle mae’r ymchwil wedi canolbwyntio ar ddeall ymatebion pobl i bryder ac ansicrwydd sy’n gysylltiedig ag iechyd, ac yn bwysig, nodi’r ffordd orau o gefnogi pobl trwy sefyllfaoedd o’r fath. Fel yr ymchwilydd, roeddwn yn aml yn gallu archwilio’r materion hyn trwy lygaid dynol iawn ond hefyd eithaf gwrthrychol – “Pa ddamcaniaethau sy’n egluro ymddygiad y person? Pam mae person X yn cael mwy o drafferth ymdopi na pherson Y? Pam mae pobl yn amharod i ofyn am gymorth? Sut mae pobl yn rheoli eu hofnau – yn wir – beth yw’r “ffordd orau” o helpu pobl i reoli eu hofnau?” A sut dylem ni, fel seicolegwyr iechyd ac ymchwilwyr iechyd, gynnig atebion i’r anawsterau hyn?  Roedd yr ymchwil bob amser yn teimlo’n bwysig, yn fuddiol ac yn canolbwyntio ar atebion – roedd prosiectau ymchwil yn archwilio materion unigryw, yn cynnig awgrymiadau ymarferol ac yn amserol. Roedd ein dealltwriaeth wedi’i seilio’n glir ar ddamcaniaethau ac astudiaethau  seicolegol, gwyddom beth oedd y ffordd orau o fesur yr hyn roedd pobl yn mynd trwyddo, a gwyddom (gan amlaf) sut i farnu “llwyddiant” canlyniad. Yn bwysicach, roeddwn bob amser yn ei theimlo’n fraint i gael y cyfle i fod yn rhan o fyd a bywyd fy “nghyfranogwyr” ymchwil a oedd mor barod i rannu eu straeon emosiynol gyda mi er budd eraill.....

Felly dyma fi heddiw yn myfyrio ar hyn, hanner ffordd trwy’r cyfnod cychwynnol  o 21 diwrnod o gyfyngiadau symud. (Rwy’n anwybyddu, dros dro, y “cyngor da” rwy’n ei roi i’m cydweithwyr ynglŷn â chael strwythur i’w diwrnod wrth weithio o gartref, gan deipio hwn yn eistedd yn fy ngwely yn yfed fy nhe gwyrdd ac yn gwrando ar gân yr adar), ac rwy’n meddwl tybed a ellir cymhwyso unrhyw elfen o’r dysgu hwn i’r hyn rydyn ni i gyd yn mynd trwyddo ar hyn o bryd? Rwy’n gwneud hyn er mwyn deall  yr hyn rydw i fy hun yn mynd trwyddo – ddim bellach yn ymchwilydd ar yr ymylon yn edrych i mewn ac yn ceisio deall profiadau pobl eraill – ond yn y bôn yn ceisio deall fy mhrofiad fy hun... a’r hyn mae fy ffrindiau’n mynd trwyddo, a’m teulu, a’m cydweithwyr... a hyd yn oed fy annwyl geffyl  sydd, mae’n siŵr gen i’n pendroni beth mae wedi’i wneud o’i le gan ei fod yn gweld cyn lleied ohonof i y dyddiau hyn...

Does gen i mo’r atebion. Does neb ohonom yn gwybod beth sydd o’n blaenau ar hyn o bryd, ac eto gallaf weld pob un ohonom (gan gynnwys fy ngheffyl) yn “gwneud ein gorau”, yn “cadw fynd” ac yn “ceisio dod o hyd i’r pethau cadarnhaol” bob dydd. Felly meddyliais y gallwn rannu rhai o’r pethau rydw i wedi’u dysgu dros y blynyddoedd y bûm i’n ymchwilio, o’m gwaith ymchwil fy hun a hefyd eraill sydd wedi f’ysbrydoli – nid yn y gobaith y bydd yn cynnig atebion gwyrthiol ond oherwydd rwy’n gobeithio y bydd yn ein hatgoffa ni i gyd sut mae pob un ohonom yn ceisio ymdopi yn ein ffyrdd ein hunain, gyda’n hofnau a’n pryderon unigryw. Weithiau rydyn ni’n cael pethau’n iawn ac weithiau rydyn ni’n anghywir, ond mae gweithio trwy bob dydd orau y gallwn yn ein gwneud ni’n ddynol yn y pen draw, ac yn ein gwneud ni’n “ni”, ar adeg pan mai’r cyfan y gallwn ni ei wneud efallai, mewn gwirionedd, yw “bod”.

Sut ydyn ni’n ymdopi ag ansicrwydd?

Yr ateb yw – yn wael, at ei gilydd! Fel bodau dynol rydyn ni am fodoli mewn cyflwr mewnol o gydbwysedd neu homeostasis. Rydyn ni’n hoffi teimlo’n dda amdanom ni’n hunain ac yn hoffi teimlo bod gennym reolaeth dros ein bywydau. Mae’r profiad o straen, gorbryder a gofid yn digwydd pan rydyn ni’n cael ein taflu oddi ar ein hechel – pan fyddwn yn teimlo dan fygythiad ac yn anniogel yn sgil digwyddiadau sydd, mae’n ymddangos i ni, y tu allan i’n rheolaidd. Dydyn ni ddim yn hoffi teimlo fel hyn, ac rydyn ni eisiau unioni’r sefyllfa rhywsut. Os oes ateb hawdd byddwn yn ceisio dod o hyd iddo, ac os nad ydym yn gallu datrys y broblem yn hawdd yna byddwn yn ei chael yn anodd yn seicolegol ac yn emosiynol. Mewn seicoleg iechyd, gwyddom ein bod ni i gyd yn dewis ymdopi mewn ffyrdd gwahanol, a gyda phethau gwahanol, a gwyddom fod ymdopi â straen ac ansicrwydd parhaus nid yn unig yn anodd ond  hefyd yn gallu arwain at broblemau iechyd corfforol.  Felly mae gennym her enfawr o’n blaenau – sut mae ceisio ”ymdopi’n effeithiol” â sefyllfa barhaus, ansicr, gronig nad ydyn ni wedi’i gweld erioed o’r blaen.  

Gwyddom, er enghraifft, ym maes profi genetig bod pobl at ei gilydd yn teimlo’n well ar ôl cael gwybod canlyniad eu prawf genetig, ac mai’r cyfnod o aros sy’n peri’r straen mwyaf yn aml. Pam? Oherwydd gyda gwybodaeth daw ffeithiau, triniaethau a gweithredoedd... pethau sy’n rhoi rhyw fath o reolaeth yn ôl i ni. Ond sut mae hyn yn berthnasol i’n sefyllfa ni gyda Covid-19... dydw i ddim yn siŵr ei fod e’n berthnasol! Yn syml iawn does gennym ni ddim atebion na sicrwydd ac mae llwyddiant y driniaeth ar hyn o bryd yn ansicr iawn am amrywiol resymau. Felly, dydyn ni ddim yn gallu datrys y broblem hon na mynd i’r afael â hi benben – a yw hyn yn golygu ein bod wedi’n tynghedu i fisoedd o bryder a digalondid? Yn sicr ddim... Oherwydd gwyddom, pan nad oes modd i ni newid ein sefyllfa’n weithredol, ein bod yn dda iawn am reoli’r ffordd rydyn ni’n teimlo am y sefyllfa honno – gan gymryd rheolaeth o’n hemosiynau a’n meddyliau... Nid yw hyn bob amser yn hawdd, ond gallwn yn sicr roi cynnig arni... ac weithiau gall hyn fod yn haws nag yr ydym yn ei feddwl.

Beth rydyn ni’n ei wybod ynglŷn â helpu pobl i ymdopi â phryder ac ansicrwydd?

I’r rheini sy’n profi gofid sylweddol neu broblemau iechyd meddwl difrifol (yn gysylltiedig â Covid-19 neu fel arall) mae cael cymorth seicolegol arbenigol a chwnsela yn allweddol. Fodd bynnag mae hyd yn oed hyn wedi’i drawsnewid yn y byd newydd o gadw pellter cymdeithasol. Yn ffodus, gwyddom bod cynnig cymorth seicolegol trwy gwnsela ar-lein yn gallu bod yn effeithiol, er bod angen iddo gael ei ddarparu gan arbenigwyr i osgoi’r  meini tramgwydd niferus.

Fodd bynnag, gwyddom hefyd, i lawer ohonom sy’n delio ag ystod eang o bryderon neu ofidiau dyddiol, y gall dysgu ychydig am yr hyn a olygwn wrth “ymdopi’n dda” fod yn ddefnyddiol iawn. Gwyddom, er enghraifft, y gall darparu ychydig o gynghorion hunangymorth syml helpu pobl i ymdopi’n well â’u pryderon a’u gofidiau. Yn fy ymchwil cynnar roeddwn yn falch iawn i weld bod taflen ysgrifenedig syml ar hunangymorth (a drowyd wedyn yn stori ddigidol) wedi lleihau’r gofid ymhlith rhai menywod a oedd yn cael asesiad risg genetig – mae’n ymddangos bod rhestr syml o dechnegau posibl (meddwl am hoff le tawel, siarad â phobl am bethau positif, ysgrifennu am eich pryderon am gyfnod byr bob dydd, gwneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau bob dydd), a chydnabod bod teimlo’n bryderus yn ymateb normal – yn helpu. Does bosib y gallai rhai o’r awgrymiadau hyn fod yn ddefnyddiol nawr wrth i ni wynebu ein gofidiau dyddiol am COVID-19?

Yr awyr agored a’n hiechyd

Gwelwn  fwy a mwy o wybodaeth yn dweud wrthym am fanteision seicolegol cadarnhaol bod allan ym myd natur, mannau gwyrdd, rhagnodi gwyrdd,  coedwigaeth gymdeithasol, i enwi ond ychydig. Sut ar y ddaear (maddeuwch  y gair mwys) mae hyn yn ein helpu yn ein trefn bresennol o “ymarfer corff o gartref”? Mae rhai ohonom wrth gwrs yn lwcus – mae gen i er enghraifft olygfa fendigedig o dir fferm o’m ffenest i, ac mae gweld y boda’n hedfan uwchben yn cyffwrdd â’r enaid. Ond beth am y rhai sydd heb fannau gwyrdd o’r fath o fewn eu cyrraedd? Dengys ymchwil y gallwn gael budd seicolegol o geisio crisialu elfennau hyfryd natur a’r awyr agored o fewn ein cartrefi – mewn prosiect gyda menywod â chanser y fron gwelsom fod ymwneud bob dydd â gardd dan do mewn bowlen oedd wedi’i addurno ag eitemau personol ystyrlon wedi arwain at nifer o emosiynau cadarnhaol a pheth ymdeimlad o reolaeth – yr anhawster mwyaf oedd annog pobl i roi cynnig arni – ond nawr, gydag ychydig mwy o amser ar ein dwylo – gallai hyn fod yn weithgaredd dyddiol cadarnhaol iawn. Os nad yw hyn yn bosibl, gall ymwneud â “natur rithwir” hefyd leihau pryderon ac arwain at ymdeimlad o lonyddwch mewn cyfnod cythryblus...

Pwysigrwydd troi ein sylw oddi wrth ein pryderon

Mae pwynt olaf fy myfyrdod yn cael ei ystyried yn aml yn un dadleuol iawn – sef y ffaith ein bod wedi dysgu trwy ein hymchwil y gall osgoi realiti, weithiau, fod yn beth da! Gyda’r cafeat mawr... y gair “weithiau” ... Mae’r ddelwedd ystrydebol o estrys gyda’i ben yn y tywod yn nodweddu rhywun sy’n “osgoi” pethau a gwelir hyn weithiau yn ffordd negyddol o ymdopi.  Yn sicr, o ran osgoi’r ymddygiadau y mae’r llywodraeth yn disgwyl i ni eu cyflawni yn hyn i gyd, byddai hynny’n hollol amhriodol yn foesol. Fodd bynnag, efallai bod y ffaith fod cynifer ohonom yn ymdrechu mor galed i gyflawni’r ymddygiadau hyn yn dod â phryderon, rhwystredigaethau a digalondid mawr yn eu sgil. Byddwn i’n dadlau y gall dewis “strategaethau osgoi” yn ofalus roi “seibiant seicolegol” hynod bwysig i ni sydd mewn gwirionedd yn cynnal ein hymdrechion ymdopi yn ystod y cyfnodau anodd hyn. Nid yw hyn yn golygu fy mod i’n eich annog i osgoi realiti yn llwyr neu i gymryd rhan mewn ymddygiadau ymdopi camaddasol (efallai bod y botel win honno gyda’r nos yn eich atal rhag poeni am ychydig, ond bydd ond yn gwneud pethau’n waeth siŵr o fod y diwrnod wedyn) ond i feddwl am ddewis amserau penodol bob dydd lle gallwch ddewis “troi eich sylw’n weithredol” am gyfnod byr nid yn unig oddi ar eich pryderon ond hefyd y newyddion, ac yn bwysig iawn, y straeon negyddol a welwn ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn y pen draw, mae angen i ni gofio defnyddio’r cyfleoedd a ddarperir gan ein byd, sy’n canolbwyntio cymaint ar y rhyngrwyd, yn ddoeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn hytrach na negyddol i’n bywydau beunyddiol mewn ffyrdd sy’n ystyrlon i ni.

Beth mae hyn oll yn ei olygu ar hyn o bryd?

Ac felly mae’r holl feddyliau crwydrol hyn yn dod â mi yn ôl at ddechrau fy PhD yn 2001, a’r mentora gwych gan fy ngoruchwyliwr, yr Athro mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd, Paul Bennett.  Bryd hynny, roeddem yn y bôn yn annog pobl a wynebai bryder ac ansicrwydd i geisio adnabod a thorri eu “harferion gofidio” eu hunain a cheisio dysgu ffyrdd o reoli eu pryderon yn well, yn hytrach na gadael i’w pryderon eu rheoli nhw.  Hoffwn i feddwl y gallai helpu – ychydig o leiaf – oherwydd ar ddiwedd pob dydd, ar hyn o bryd, y cyfan y gallwn ni ei wneud yw myfyrio ar y modd rydyn ni wedi gwneud ein gorau – yn ymddygiadol, yn seicolegol ac yn emosiynol – a chyhyd ag y gallwn ni dderbyn ein bod wedi ymdrechu yna dylem ni gyd, yn fy marn i, ystyried hynny yn fuddugoliaeth bersonol ddyddiol.

Nodyn i'r Golygydd

Cyfeiriadau

Bennett P., Phelps C., Hilgart J., Hood K., Brain K., & Murray A. (2012) Concerns and coping during cancer genetic risk assessment. Psycho-Oncology. 21(6), 611-617

Phelps C., Bennett P; Hood K., Brain K., & Murray A. (2013). “A self-help coping intervention can reduce anxiety and avoidant health behaviours whilst waiting for cancer genetic risk information: results of a phase III randomised trial.”, Psycho-Oncology, 22(4), 837-834

Phelps, C., Minou, M., Baker, A., Hughes, C., French, H., Hawkins, W., Leeuwenberg, A., Crabtree, R. and Hutchings, P. B. (2017). Necessary but not sufficient? Engaging young people in the development of an avatar-based online intervention designed to provide psychosocial support to young people affected by their own or a family member's cancer diagnosis. Health Expectations, 20: 459–470. doi:10.1111/hex.12473

Phelps, C., Butler, C., Cousins, A., & Hughes, C. (2015). Sowing the seeds or failing to blossom? A feasibility study of a simple ecotherapy-based intervention in women affected by breast cancer. Ecancermedicalscience, 9, 602. 

Hughes L & Phelps C (2010). “The bigger the network the bigger the bowl of cherries. Maybe there’s a cherry for every little problem you might come across.”:  Exploring the acceptability of, and preferences for, an ongoing support network for known BRCA 1 and BRCA 2 mutation carriers.  Journal of Genetic Counselling, 19(5), 487-90

 

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Tel: 01792 483695

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk