Seicolegydd ac artist yn nodi Freud a breuddwyd enwog Dora mewn digwyddiad ar-lein byd-eang
20.10.2020
Bydd seicolegydd o Brifysgol Abertawe ac artist o Goleg Celf Abertawe yn cynnal digwyddiad ar-lein i nodi 120 o flynyddoedd ers gwaith enwog Sigmund Freud gyda chlaf ynghylch dehongli breuddwydion.
Bydd yr Athro Mark Blagrove yn trafod yr hyn a ddigwyddodd ym 1900 pan ddywedodd menyw 18 oed o'r enw ‘Dora’ wrth Freud ei bod wedi breuddwydio am gael ei hachub gan ei thad o dŷ a oedd ar dân.
Bydd yr Athro Blagrove a chynulleidfa fyd-eang yn trafod y breuddwyd hwnnw, ac yn ei gysylltu â bywyd Dora, a bywyd diwylliannol a chymdeithasol Fienna ym 1900. Byddant hefyd yn trafod dull Freud o ddehongli breuddwydion.
Darllenir y breuddwyd yn Saesneg ac yn Almaeneg o ystafell yn fflat Freud yn Fienna, sef Amgueddfa Sigmund Freud bellach, lle dywedodd Dora wrth Freud am y breuddwyd am y tro cyntaf, a dangosir ffilm fer o fflat Freud.
Cafodd Dora fywyd difyr a thymhestlog, o'i pherthnasoedd cymdeithasol a phersonol, i'w bywyd teuluol a'i breuddwyd am y tŷ ar dân, sydd wedi bod yn destun trafod ers mwy na chanrif.
Mae'n enwog bod Dora wedi rhoi terfyn ar ddadansoddi seicolegol Freud ohoni ar ôl dim ond 11 o wythnosau, ac mae'n hysbys bellach mai Ida Bauer, merch i ddiwydiannwr o Fienna, ydoedd.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys seicolegwyr, haneswyr, seicdreiddwyr, artistiaid ac aelodau o'r cyhoedd.
Yn ystod y drafodaeth, bydd y gynulleidfa hefyd yn gwylio'r breuddwyd yn cael ei baentio a bydd y digwyddiad yn gorffen gyda thrafodaeth o'r paentiad â'r artist, Julia Lockheart. Cynhelir y digwyddiadau trafod breuddwydion a gwaith celf byw gan DreamsID.com (Dreams Illustrated and Discussed), sef cydweithrediad rhwng gwyddoniaeth a chelf lle mae'r seicolegydd Mark Blagrove yn cyflwyno trafodaeth am freuddwydion aelodau o'r cyhoedd wrth i'r artist Julia Lockheart eu paentio.
Ceir tocynnau i'r digwyddiad a rhagor o fanylion YMA.
Mae'r digwyddiad yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2020. Oherwydd natur sensitif y cynnwys, rhaid i aelodau'r gynulleidfa fod yn 16 oed neu'n hŷn.
Meddai Julia Lockheart, sy'n uwch-ddarlithydd yng Ngholeg Celf Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:
“Mae breuddwyd Dora yn bortread hardd a theimladwy o'i phrofiadau emosiynol dryslyd fel menyw ifanc yn Fienna ym 1900. Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad ar-lein hwn yn meithrin dealltwriaeth o freuddwyd Dora, o'i bywyd, o Freud ac o Fienna ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Bydd y paentiad ar y pryd yn gwneud y digwyddiad hyd yn oed yn fwy cofiadwy ac unigryw, ac yn dangos sut gall breuddwydion ysbrydoli gwaith celf.”
Meddai Mark Blagrove, Athro Seicoleg a Chyfarwyddwr Labordy Cwsg Prifysgol Abertawe:
“Er bod Freud wedi cael ei feirniadu am ei driniaeth o Dora, rydym yn ffodus y cyhoeddodd hanes ei breuddwyd am gael ei hachub o dŷ ar dân, a hanes y digwyddiadau yn ei bywyd a arweiniodd at ei breuddwyd. Mae ymchwil gan labordai cwsg modern wedi cadarnhau llawer o'r hyn a ddywedwyd gan Freud am y cysylltiadau rhwng ein bywyd emosiynol effro a'n breuddwydion, a byddwn yn trafod hyn yn ystod y digwyddiad.”
Ceir rhagor o wybodaeth drwy fynd i wefan Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk