Trawsnewid Gofal Cleifion drwy Gyfathrebu Gweledol ar y Ward
27.08.2020
Mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chanolfan Technoleg Iechyd Abertawe (HTC) i ddatblygu system arddangos ddigidol ryngweithiol newydd i’w defnyddio ar wardiau ym mhedwar o ysbytai’r bwrdd iechyd.
Ysbrydolwyd yr ‘e-fyrddau gwyn’ rhyngweithiol, sydd eisoes wedi gwneud argraff fawr, gan y byrddau gwyn traddodiadol a ddefnyddir i gadw cofnod o’r cleifion ar y ward.
Cyn hyn, roedd gwybodaeth allweddol am glaf yn cael ei rhannu ar y ward drwy ysgrifennu ar fwrdd gwyn. Mae’r system newydd yn fwy glân, trefnus ac effeithlon, ac eisoes wedi dangos potensial mawr ar gyfer datblygu pellach yn yr ysbyty.
Mae’r e-fyrddau gwyn yn dangos y ward ar ffurf map, gyda phob claf mewn petryal bach. Gall staff y ward gadw golwg ar anghenion ac amgylchiadau’r cleifion drwy addasu’r eiconau ym mhob petryal.
Mae’r eiconau’n gadael i staff gyfathrebu â’i gilydd, cynllunio’r dydd, cadw golwg ar beth sydd angen ei wneud, a rhannu gwybodaeth gyda chlinigwyr eraill nad ydyn nhw ar y ward o bosibl. Mae’r e-fyrddau gwyn wedi arbed amser, atal camgymeriadau a chadw cyfathrebu’n glir ac yn effeithlon.
Mae staff yn bleidiol iawn i’r system newydd ac yn chwarae rhan bwysig yn ei datblygiad. Eu hanghenion nhw sy’n ysgogi datblygu nodweddion newydd i’r byrddau.
Bu’r e-fyrddau gwyn yn hanfodol yn ystod argyfwng Covid-19. Fel y dywedodd Tom Powell, Rheolwr Arloesi’r Bwrdd Iechyd, “Mae Liam [y Rheolwr TG] a’i dîm wedi diwygio symbolau’n benodol ar gyfer Covid-19, gan ddatblygu nodweddion i ddangos hyd arhosiad y claf a dechrau eu symptomau”. Mae’r e-fyrddau gwyn yn parhau i esblygu i wasanaethu cleifion a staff yn well.
Gan fod yr e-fyrddau gwyn yn brosiect arloesi parhaus, roedd angen cefnogaeth arbenigol ar y tîm i ddatblygu cysyniad y byrddau ymhellach. Ceisiodd Tom Powell gymorth gan raglen Accelerate: “Mae’r fersiwn cyfredol wedi derbyn croeso eang, er ei fod yn brototeip a bod llawer o nodweddion ychwanegol a gwelliannau’n bosibl, yn cynnwys ymarferoldeb a gallu clinigol ehangach ar draws y bwrdd iechyd.”
Mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymuno â thîm e-fyrddau gwyn y bwrdd iechyd i drawsnewid y system bresennol i greu ‘fersiwn 2’ a sylfaen at y dyfodol.
Daw AtiC ag arbenigedd o ran ymchwil i brofiad y defnyddiwr a meddylfryd dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i helpu i drawsnewid arloesiadau gofal iechyd. Mae’r tîm hefyd yn cynnwys partner Accelerate arall, Canolfan Technoleg Iechyd Prifysgol Abertawe, sy’n dod â galluoedd dadansoddi data ac a fydd yn mesur ac yn dadansoddi effaith y newidiadau i’r e-fwrdd gwyn ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno.
Nod y tîm cyfunol yw datblygu a gwella elfennau gweledol a nodweddion yr e-fwrdd gwyn, yn benodol yr eiconau a’r rhyngwyneb, ac asesu effaith y newidiadau hyn.
Bu’r Cymrodyr Arloesi ATiC Caroline Hagerman a Tîm Stokes yn cysgodi ac yn cyfweld â staff wardiau mewn tri o ysbytai’r bwrdd iechyd i ddeall anghenion gwahanol ddefnyddwyr a’r amrywiaeth o safbwyntiau ar yr e-fwrdd gwyn. Y cynllun gwreiddiol oedd gweithdy defnyddwyr, ond arweiniodd Covid-19 at greu arolwg ar-lein i staff y wardiau, er mwyn ymholi barn defnyddwyr ar y dyluniad, symbolau, nodweddion newydd a llawer mwy.
Dywedodd Liam Morrisey o dîm TG y bwrdd iechyd, “Bu’n wych cael gweithio gyda thîm ATiC a HTC gan eu bod wedi darparu adborth diduedd gwerthfawr ar sail sgyrsiau gyda’r staff amlddisgyblaethol ar y llinell flaen yn ein hysbytai.”
Bydd dyluniad terfynol yr e-fwrdd gwyn yn cynnwys set o eiconau wedi’u hail-ddylunio, a grëwyd gydag asiantaeth ddylunio graffig Waters Creative. Bydd yr e-fwrdd gwyn hefyd yn dehongli adborth staff y ward i ganiatáu mwy o le i’r pethau sydd o bwys iddyn nhw. Bydd yn cynnwys ffyrdd newydd i weld gwybodaeth cleifion a’i chyfleu i’r timau arbenigol eraill yn yr ysbyty, fel y tîm ffisiotherapi neu ddiabetes.
Mae’r prosiect wedi dangos gwerth ymchwil i brofiad y defnyddiwr drwy holi defnyddwyr a chynhyrchu nodweddion defnyddiol wrth ddatblygu’r prosiect. Ychwanegodd Caroline Hagerman, y Cymrawd Arloesi ATiC, “Mae ein hymchwil wedi ein helpu i glywed gan lawer o leisiau yn yr ysbytai, a datblygu nodweddion newydd fydd yn helpu defnyddwyr, ac nid newid er ei fwyn ei hun.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk