Y Drindod Dewi Sant yn ymuno â’r fenter Meals and More i fynd i’r afael â newyn


17.02.2021

Mae tîm arlwyo’r Brifysgol yn falch o fod wedi codi £3743 i gefnogi’r fenter Meals & More, a sefydlwyd gan y cyfanwerthwr bwyd Brakes.

Children and Chef in a kitchen with food

Cododd y Brifysgol yr arian yn rhan o ymgyrch ‘Incredibaubles’ Brakes a gyfrannwyd i’r elusen Meals and More i gynorthwyo teuluoedd mewn angen.  

Trwy godi arian ar gyfer y fenter Meals and More, mae pob punt mae’r Brifysgol yn ei gwario gyda Brakes yn troi’n bwyntiau, sy’n mynd at ddarparu bwyd a gweithgareddau i glybiau gwyliau lleol i blant ledled y wlad.

Yn 2020 helpodd Meals & More i ddarparu record o 330,000 o brydau bwyd ac erbyn yr Haf maen nhw’n gobeithio estyn cymorth i hyd yn oed mwy o deuluoedd mewn angen.

Mewn llythyr at y Brifysgol, meddai Kate Woodhouse, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Meals and More: “Mae’n galonogol gweld cwsmeriaid Brakes yn cael eu hysgogi ac yn ymroi cymaint i’r mater cenedlaethol o newyn yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae Brakes hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar y mater, gan ymuno ag ymgyrchwyr megis Marcus Rashford i fynd i’r afael â chyflwr cynifer o blant sy’n agored i niwed yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.

Mae Meals & More wedi bod yn cynorthwyo i ddarparu prydau bwyd mewn clybiau gwyliau er 2015, nid yn unig drwy ddarparu arian, a gyfrannwyd yn hael gan ein cefnogwyr, ond hefyd trwy hyrwyddo gweithgarwch, llythrennedd a hwyl, gan leihau unigedd a rhoi rhywbeth i’r plant yn ein gofal ymddiried ynddo ac edrych ymlaen ato.”

Meddai Kevin Hodson, Rheolwr Arlwyo a Chynadledda: “Mae’r Brifysgol yn falch o gefnogi’r fenter Meals and More sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i deuluoedd ar draws y wlad.  Rydyn ni’n byw trwy gyfnod anodd iawn, ond mae nifer o deuluoedd hefyd yn ei chael yn anodd fforddio anghenion sylfaenol fel bwyd. Mae’r fenter hon yn un ffordd y gallwn ni helpu”.  

Mae’r Brifysgol hefyd wedi bod yn darparu parseli bwyd a chymorth i fyfyrwyr y bu’n rhaid iddynt hunanynysu yn ystod y pandemig. Ymunodd ag Undeb y Myfyrwyr i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth a oedd yn cynnwys siopa am nwyddau hanfodol.

 

a collage of images of children with food

Nodyn i'r Golygydd

Ynglŷn â Meals and More

Dechreuwyd Meals & More gan Brakes (busnes gwasanaeth bwyd blaenllaw yn y Deyrnas Unedig) yn 2015 ac fe’i cefnogir gan nifer o fusnesau bwyd eraill.

Yn rhan o’u cenhadaeth i roi terfyn ar newyn plant yn ystod gwyliau’r ysgol maen nhw wedi cynyddu o dri chlwb yn 2015 i weini mwy na 110,000 o brydau bwyd trwy gydol gwyliau’r haf yn 2019 i rai o’r plant mwyaf agored i niwed yn y wlad.