Ymchwil yn bwrw goleuni newydd ar wythnosau ysgol anghymesur


11.01.2021

Cyhoeddwyd adroddiad sy’n tynnu sylw at y manteision a'r heriau sy'n deillio o wythnosau ysgol anghymesur gan Yr Athrofa: Canolfan Addysg (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant).

A report highlighting the benefits and challenges resulting from asymmetric school weeks has been published by Yr Athrofa: Centre for Education (University of Wales Trinity Saint David).

Mae Gwerth wythnosau ysgol anghymesur: Gwersi a ddysgwyd o ysgolion yng Nghymru yn adeiladu ar agenda diwygio addysg uchelgeisiol y genedl, ac yn cynnig myfyrdodau unigryw ar ddau ddull arloesol o strwythuro'r wythnos ysgol.

Wedi'i ysbrydoli gan sefydlu comisiwn cenedlaethol newydd i 'ail-ddychmygu addysg', mae'r adroddiad yn ystyried effaith trefniadau anghymesur ar ddwy ysgol – Ysgol Gyfun Treorci, yn Rhondda Cynon Taf, ac Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn Sir Benfro – gyda'r bwriad o ddeall yn well yr heriau a'r cyfleoedd posibl.

Fel arfer yn gyfuniad o ddyddiau hwy a byrrach, mae'r wythnos ysgol anghymesur yn caniatáu i ysgolion dorri i ffwrdd oddi wrth amserlenni sefydledig a newid yn sylfaenol y ffordd y maent yn gweithredu ar gyfer y staff a‘r disgyblion.

Mae'r papur yn rhoi sylw arbennig i effaith bosibl trefniadau anghymesur ar iechyd meddwl a lles athrawon, yn ogystal â'r amodau sy'n ffafriol i ffyrdd amgen o weithio.

Mae'n ystyried barn disgyblion a rhieni, yn ogystal â barn staff, ac yn dod i gyfres o gasgliadau sy’n seiliedig ar sylwadau aelodau allweddol o gymuned yr ysgol. Mae'n nodi manteision pendant i ddysgu proffesiynol athrawon, cydbwysedd bywyd-gwaith addysgwyr a mwy o gyfleoedd i ryngweithio'n gymdeithasol â theulu a ffrindiau.

Awdur yr astudiaeth yw Gareth Evans, cyfarwyddwr Canolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg  (CEPRA) yn yr Athrofa. Meddai: "Mae'r adroddiad yn gallu cynnig 'gwersi a ddysgwyd' yn y ddwy ysgol yn unig oherwydd gonestrwydd, uniondeb a pharodrwydd arweinwyr yr ysgolion hyn i gymryd rhan lawn yn y broses ymchwil. Diolch o galon, felly, i Michele Thomas a Rhys Angell Jones am eu cefnogaeth, yn enwedig ar adeg y mae pawb yn gwybod ei bod hi’n heriol iawn i addysgwyr ledled Cymru a'r byd ehangach.

"Yn fras, mae'r canfyddiadau a gyflwynir yn y papur hwn yn rhoi darlun cymysg o effaith yr wythnos anghymesur, ac mae'n bwysig bod unrhyw ysgol sy'n ystyried y newidiadau hyn yn cydbwyso'n ofalus gostau a manteision gwneud hynny. Mae cyfraniadau pawb oedd yn rhan o’r astudiaeth yn ein hatgoffa ni na fydd yr wythnos anghymesur yn gweithio i bawb, ac nad yw'r hyn sy'n gweithio mewn un ysgol yn sicr o weithio mewn un arall.

"Yr hyn y mae'r wythnos anghymesur yn ei gynnig i bob ysgol, fodd bynnag, yw cyfle i ailystyried dulliau presennol a mwy traddodiadol o strwythuro addysg a manteision creu cyfleoedd dysgu proffesiynol ychwanegol i’r staff, yn enwedig yng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd i Gymru."

Mae gan ganfyddiadau'r adroddiad nifer o oblygiadau i ysgolion sy'n ceisio mabwysiadu wythnos anghymesur, a chynigir cyfres o argymhellion lefel uchel i'r rhai sy'n archwilio trefniadau anghymesur.

Meddai’r Athro Mick Waters, cynghorydd  allanol i Lywodraeth Cymru a chadeirydd ei phanel arbenigol ar ail-ddychmygu addysg yng Nghymru: "Os ydyn ni'n mynd i ail-ddychmygu addysg, mae'n bwysig ein bod ni’n mynd ati mewn modd disgybledig.

"Mae'n rhaid ystyried a dadansoddi pob cam wrth symud ymlaen o system ysgolion sydd wedi bod ar waith ers cyhyd fel bod manteision a phroblemau'n cael eu hystyried yn briodol. Mae ymchwil o’r fath hon yn gyfraniad anhepgor. Mae’n cynnig cipolwg ar yr hyn sydd wedi'i geisio yn ogystal â bwrw goleuni ar bosibiliadau."

Ariannwyd y papur ymchwil hwn yn rhannol gan Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Gellir gweld yr adroddiad yn llawn yma

 

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk