Yr Athro Mererid Hopwood i gymryd rhan yng Ngŵyl Ddigidol y Gelli
21.05.2020
Yr Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bydd yn traddodi darlith Anthea Bell yng Ngŵyl Ddigidol y Gelli eleni.
Yr Athro Mererid Hopwood.
Oherwydd y coronafeirws, mae'r ŵyl lenyddiaeth a chelfyddydol flynyddol wedi mynd yn ddigidol gyda threfnwyr yn curadu rhestr helaeth o ddigwyddiadau gydag awduron arobryn, llunwyr polisi byd-eang, haneswyr ac arloeswyr
Gan ddathlu'r gweithiau ffuglen a ffeithiol newydd gorau ac archwilio rhai o bynciau mwyaf ein hoes, gall mynychwyr yr ŵyl fwynhau rhaglen o ddarllediadau byw a digwyddiadau rhyngweithiol yn rhad ac am ddim rhwng Mai 22ain a 31ain. Cynhelir sesiwn Mererid ddydd Llun, Mai 25ain .
Yn academydd amlwg ac yn fardd dylanwadol, mae Mererid Hopwood yn bennaf yn ysgrifennu yn y Gymraeg ac mae ganddi raddau mewn iaith a llenyddiaeth Sbaeneg ac Almaeneg. Mae Mererid Hopwood wedi bod yn dysgu am ran helaeth o’r ddeng mlynedd ar hugain diwethaf ym maes iaith a llenyddiaeth, a bellach mae hi’n Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Bydd darlith Mererid - What’s Wales in Welsh? - yn cael ei chynnal rhwng 1yp ac 1.40yp ddydd Llun, Mai 25ain ar Lwyfan Ddigidol Gŵyl y Gelli. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim a bydd yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb yn syth wedi’r ddarlith.
O dan gadeiryddiaeth Guto Harri, bydd Mererid yn archwilio ‘beth yw Iaith?’ Nid geiriau yn unig mohoni. Ry’n ni’n gwybod hynny. Mae'n ramadeg. Mae'n gyd-destun. Mae'n ystyr. Mae'n cyfathrebu. Mae'n trafod. Mae'n cyfleu. Mae'n dychmygu. Mae'n meddwl ... A yw'n ffrâm allanol neu'n injan fewnol? A beth mae fel i fyw gyda meddwl dwyieithog mewn byd amlieithog?
Wrth iddi edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr ŵyl wedi'i hail-lunio eleni, dywedodd Mererid Hopwood: “Dim porfa, (dim paill !), dim pobl, dim pawb-da’i-gilydd … eto i gyd, rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli o adre gan ei bod hi eleni, o leiaf yn llawn cymaint ag erioed, yn bwysig i greu amser i gnoi cil dros syniadau.
“Yn ystod y ddarlith byddaf yn holi sut beth yw hi i fyw a bod mewn meddwl dwy (ac aml-) ieithog.”
Yr unig fenyw i ennill y tair prif wobr am farddoniaeth a rhyddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Mererid hefyd wedi bod yn Fardd Plant Cymru a dyfarnwyd gwobr Glyndŵr iddi am ei chyfraniad i lenyddiaeth. Enillodd ei chasgliad Nes Draw adran farddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn, 2016.
Bydd Ngŵyl Ddigidol y Gelli yn cael ei chynnal ar y platfform crowdcast i alluogi cwestiynau a sylwadau a bydd yn aros ar y platfform crowdcast am 24 cyn symud i’r ‘Hay Player’.
Archebwch eich lle ar sesiwn Mererid Hopwood yma.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk