Anrhydeddu ymgyrchydd atal caethwasiaeth gyda phlac glas


14.06.2021

Bydd Jessie Donaldson o Abertawe, a frwydrodd yn ddewr yn erbyn caethwasiaeth yn America tua 170 o flynyddoedd yn ôl, yn cael ei hanrhydeddu gan ei dinas enedigol ar 19 Mehefin (a elwir hefyd yn ŵyl Juneteenth) – y dathliad hynaf y gwyddys amdano o ddiwedd caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau.

Swansea woman Jessie Donaldson who bravely fought slavery in America around 170 years ago is to be honoured by her home city.

Mae Cyngor Abertawe wedi gosod plac glas y tu allan i adeilad Dinefwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng nghanol y ddinas i ddathlu gweithredoedd yr ymgyrchydd.

Teithiodd Jessie i Ohio yn y 1850au i redeg tŷ diogel, gan wynebu’r perygl o gael ei dirwyo a’i charcharu am gynnig cysgod a lle diogel i gaethweision wrth iddynt geisio ffoi o daleithiau’r de i ogledd America.

Mae fideo’n cofnodi taith Jessie wedi’i greu gan Timi O’Neill, Cyfarwyddwr y Rhaglen BA Ffilm a Theledu yng Ngholeg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant. Bydd y fideo yn cael ei dangos ar y Sgrin Fawr yn Sgwâr y Castell ar fore Mehefin 19.

Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Jardine, Hyrwyddwr Noddfa a Chynhwysiant Cyngor Abertawe: “Mae’r plac glas yn cydnabod rôl Jessie Donaldson yn y frwydr hir yn erbyn caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau a ddaeth i benllanw yn ystod Rhyfel Cartref America. Mae gŵyl Juneteenth yn dathlu rhyddhau’r rhai oedd wedi’u caethiwo yn yr Unol Daleithiau felly mae’n briodol mai dyma’r diwrnod a ddewiswyd ar gyfer dadorchuddio’r plac.”

Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth: “Rwy’n falch ein bod yn anrhydeddu Jessie Donaldson ar ddyddiad mor bwysig yn y calendr gwrth-gaethwasiaeth.  Ar ôl symud o Abertawe i America, bu’n rhoi noddfa i gaethweision oedd yn ffoi o daleithiau deheuol yr Unol Daleithiau i ryddid yn y gogledd. Heddiw mae Abertawe wedi’i dynodi’n genedlaethol yn Ddinas Noddfa ac felly mae’n briodol ein bod yn cydnabod Jessie gyda’r plac glas hwn.”

Cafodd yr enwebiad hwn ar gyfer plac glas ei gyflwyno i’r cyngor gan yr Athro Jen Wilson, hanesydd diwylliannol, a sylfaenydd Treftadaeth Jazz Cymru sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas yn rhan o’r Drindod Dewi Sant.

Meddai’r Athro Wilson, sydd wedi ymchwilio i fywyd Jessie dros flynyddoedd lawer: “Yn 57 oed, gadawodd Jessie Donaldson Abertawe i ddechrau bywyd eithriadol ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol ar raddfa fawr. Ei thŷ ar lannau afon Ohio oedd y trydydd tŷ diogel Cymreig ar gyfer caethweision ar ffo. Ffrindiau Jessie yn y mudiad atal caethwasiaeth oedd Frederick Douglass, caethwas wedi’i ryddhau, y caethweision ar ffo Ellen a William Craft, yr ymgyrchydd tanllyd William Lloyd Garrison, a Harriet Beecher Stowe, awdur Uncle Tom’s Cabin. Trwy gydol Rhyfel Cartref America bu Jessie’n gweithio ochr yn ochr â’i ffrindiau i alluogi ffoaduriaid o’r planhigfeydd i groesi’r afon i geisio rhyddid. Dychwelodd Jessie i Abertawe yn 1866.”

Wrth gynnal ymchwil yn Cincinnati, ymwelodd yr Athro Wilson sawl gwaith â Chanolfan Rhyddid yr Underground Railroad yn Cincinnati. Mae’r Ganolfan yn adeilad trawiadol ar lan afon Ohio lle caiff hanes caethwasiaeth ei adrodd drwy ffilm a hanes llafar. Mae modd i ymwelwyr gamu i mewn i un o’r llociau gwreiddiol lle byddai caethweision yn cael eu dal mewn cadwyni i aros am long. Daeth Uwch Hanesydd Ymchwil y Ganolfan, Carl Westmoreland o hyd i’r hen loc wedi adfeilio mewn cae, sicrhaodd gyllid a’i ailadeiladu yn y Ganolfan Rhyddid. Erbyn hyn, mae’r Ganolfan yn llawn plant, myfyrwyr, a theuluoedd, i gyd yn dysgu am eu treftadaeth. “Cytunodd Mr Westmoreland i helpu ein prosiect a ffilmiodd ei stori, sydd bellach yn rhan o’n harchifau ni yn ogystal â’r Ganolfan Rhyddid,” ychwanegodd yr Athro Wilson. 

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost Y Drindod Dewi Sant Abertawe: “Rydym wrth ein bodd bod ymdrechion eithriadol Jessie’n cael eu cydnabod fel hyn. Mae hefyd yn deyrnged i ymchwil diflino’r Athro Wilson wrth ddatgelu’r fath stori ysbrydoledig o ymrwymiad anhunanol i gyfiawnder a rhyddid.”

Mae llyfr yr Athro Wilson ‘Freedom Music: Wales, Emancipation and Jazz 1850-1950’ yn adrodd hanes Jessie yn mudo i Cincinnati yn ei 50au a helpu caethweision oedd yn ffoi yn ystod Rhyfel Cartref America. Yn y blynyddoedd wedi hynny ymwelodd corau a bandiau o gaethweision oedd wedi’u rhyddhau ag Abertawe i berfformio caneuon ymgyrchu’r diddymwyr, emynau negroaidd a cherddoriaeth gospel.

Ganwyd Jessie yn 1799, yn ferch i gyfreithiwr, Samuel Heineken, a Jennet oedd ei mam. Bu’n byw mewn tŷ teras tri llawr yn Dynevor Place, Abertawe, am 41 o flynyddoedd gyda’i chwaer Mary a’i brawd Samuel.

Yn y 1820au agorodd ysgol yn Stryd y Gwynt.

Yn 1840, a hithau’n 41 oed, priododd Jessie â Francis Donaldson. Sefydlon nhw eu cartref mewn tŷ teras tri llawr yn Grove Place a byw yno am 16 o flynyddoedd.

Yn 1854 mudodd y cwpl i Cincinnati gan fyw yno trwy gydol Rhyfel Cartref America (1861-65) a ddechreuodd yn bennaf o ganlyniad i’r anghydfod ynghylch caethwasiaeth. Roeddynt yn rhedeg tŷ diogel ar gyfer caethweision ar ffo; roedd yn rhan o’r rhwydwaith dianc ‘Underground Railroad’ enwog.

Dychwelodd y cwpl i Abertawe yn 1866 a byw am gyfnod byr yn 2 Phillips Parade cyn symud i Ael-y-Bryn, Sgeti. Bu farw Jessie yn 1889.

Nodyn i'r Golygydd

  • Jessie Donaldson – 100 Welsh Women - 100menywodcymreig.cymru/100-women/jessie_donaldson/  
  • Treftadaeth Jazz Cymru - jazzheritage.wales
  • Mis Hanes Pobl Dduon, Hydref 2020 – https://www.blackhistorymonth.org.uk/
  • Swansea Blue Plaques - https://www.swansea.gov.uk/blueplaques

Lluniau

  • Jessie Donaldson, diddymwr caethwasiaeth.
  • Jen Wilson o Abertawe gyda’i llyfr ‘Freedom Music: Wales, Emancipation and Jazz 1850-1950 sy’n cynnwys stori Jessie Donaldson.

Juneteenth yw’r dathliad cenedlaethol hynaf o ddiwedd caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau.  Yn dyddio'n ôl i 1865, ar 19 Mehefin glaniodd milwyr yr Undeb, dan arweiniad yr Uwchfrigadydd Gordon Granger, yn Galveston, Texas gyda newyddion bod y rhyfel wedi dod i ben a bod y caethion bellach yn rhydd. Sylwer bod hyn ddwy flynedd a hanner wedi i’r Arlywydd Lincoln gyhoeddi’r Datganiad Rhyddfreinio – a ddaeth yn swyddogol ar 1 Ionawr, 1863. Ychydig iawn o effaith a gafodd y Datganiad Rhyddfreinio ar drigolion Texas oherwydd y nifer fach iawn o filwyr yr Undeb oedd ar gael yno i orfodi'r Gorchymyn Gweithredol newydd. Fodd bynnag, wrth i’r Cadfridog Lee ildio ym mis Ebrill 1865, a dyfodiad catrawd y Cadfridog Granger roedd y grymoedd o'r diwedd yn ddigon cryf i ddylanwadu ar y gwrthsafiad a'i oresgyn.

 

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk