Arddangosfa Newydd yn dangos effaith newid hinsawdd
26.11.2021
Mae arddangosfa newydd yn edrych ar effaith newid hinsawdd wedi agor yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod). Daw Alternative Futures ag ystod o ymatebion gweledol amlgyfrwng i gynhadledd COP26 a’r hinsawdd at ei gilydd.
Cynhaliodd y DU 26ain Uwchgynadleddau’r Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn Glasgow ar 31 Hydref – 13 Tachwedd 2021. Daeth Uwchgynhadledd COP26 â phartïon at ei gilydd i gyflymu’r camau tuag at wireddu goliau Cytundeb Paris a Chonfensiwn Newid Hinsawdd Fframwaith y Cenhedloedd Unedig.
Mae’r argyfwng hinsawdd yn gyfle dysgu hanfodol. Mae natur y broblem gymhleth hon yn galw am ddysgu dwfn sydd nid yn unig yn ymestyn gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ynghylch newid hinsawdd, ond hefyd yn cyffwrdd ar eu gwerthoedd, ymdeimlad o le a theimlo cyfrifoldeb.
Mae addysg yn ffactor hanfodol yn y frwydr fyd-eang fwyfwy taer yn erbyn newid hinsawdd. Mae cael gwybodaeth ynghylch y ffenomen hon yn helpu pobl ifanc i ddeall ac ymdrin â chanlyniadau cynhesu byd-eang, yn eu hannog i newid eu hymddygiad a’u helpu i addasu i’r hyn sydd eisoes yn argyfwng byd-eang.
Mae myfyrwyr y rhaglenni BA Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol, BA Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau, Celf a Dylunio Sylfaen, a BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd wedi cyfrannu at yr arddangosfa, sydd wedi’i churadu gan staff a myfyrwyr.
Meddai Siân Addicott, Pennaeth Astudiaethau Ffotograffiaeth Israddedig: “Gwnaethom wahodd myfyrwyr i gyfleu pwysigrwydd ymdrin â newid hinsawdd a chynaliadwyedd trwy eu gwaith.
“Mae’r arddangosfa’n gyfle gwych i fyfyrwyr a’r gymuned ehangach gymryd rhan a lledaenu ymwybyddiaeth ynghylch y neges hollbwysig hon.”
Meddai Lara Hopkinson, Rheolwr Rhaglen Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd “Roedd y cyfle i ddod â myfyrwyr ynghyd o wahanol ddisgyblaethau o gwmpas nod eiriolaeth newid hinsawdd yn gyfle gwych, a ddaeth i’w anterth mewn arddangosfa i rannu delweddau a gwybodaeth i amlygu’r argyfwng. Cafodd myfyrwyr e’n ddiddorol gweithio gydag eraill ac rydym yn edrych ymlaen i ddatblygu prosiectau cydweithredol pellach yn y dyfodol.”
Creodd Alex Smith, a raddiodd o’r rhaglen Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yn Y Drindod, sydd bellach yn gweithio fel artist preswyl yn y Brifysgol, fideo ar gyfer yr arddangosfa.
Meddai: “Cafodd ei recordio yn Fairbourne, y mae arbenigwyr yn rhybuddio a fydd wedi’i foddi’n llwyr gan y môr yn y blynyddoedd i ddod oherwydd cynhesu byd-eang. Mae’r fideo yn gynrychiolaeth o’r tai, y bobl a hanes y pentref a fydd wedi diflannu.”
Cyfrannodd Celf a Dylunio Sylfaen Y Drindod trwy’r prosiect Seicoddaearyddiaeth, a chanlyniad hyn oedd cyfres o ymatebion, yn cynnwys ‘Life of a Garment’, ‘The Significance of Objects’ a ‘Navigation of the Street’.
Meddai Katherine Clewett a Shellie Holden: “Galluogodd hyn i’r myfyrwyr adfyfyrio trwy’r pethau bob-dydd, gan ysgrifennu, ffilmio, darlunio, a gwneud, i ystyried eu lle yn y byd a’r pethau o’u cwmpas.
“Er enghraifft, Tecstilaau a Ffasiwn yw rhai o’r cyfranogwyr mwyaf at dirlenwi, ac mae rhan o ethos Ffasiwn/Tecstilau yn cynnwys ailwerthuso’r dillad a ddefnyddiwn, gan sicrhau ein bod yn ystyried dulliau mwy moesegol a chynaliadwy o adhawlio ein dillad, lle bo’n bosibl, gan arwain at ‘brotestiadau bach’ ar ffabrig.
“Mae ‘Significance of Objects’ yn annog myfyrwyr i gael gwell dealltwriaeth o sut y caiff cynhyrchion a defnyddiau traul eu gwneud, o be y daw defnyddiau crai a sut y mae prosesau gweithgynhyrchu wedi cael effaith hirdymor ar yr amgylchedd. Yn ‘Navigation of the Street’ arsylwodd myfyrwyr ar gymdeithas mewn man trefol gan alluogi ymateb uniongyrchol i ymddygiad dynol a’n rôl ninnau fel ysgogwyr newid.”
Hefyd, mae gwirfoddolwyr o’r fferm gymunedol Glasbren yn cefnogi’r arddangosfa, sy’n fenter gymunedol sy’n ymrwymo i adfer rhwydweithiau bwyd lleol, adfywio amgylcheddau lleol ac ailgysylltu plant, pobl ifanc ac oedolion i’r lleoedd y daw eu bwyd.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk