Athro Gwadd yn Y Drindod Dewi Sant i Gyflawni Rôl Cysylltiadau Diplomyddol Allweddol gyda Grŵp Ymgysylltu Ieuenctid y Cenhedloedd Unedig
24.05.2021
Bydd Jessica Leigh Jones MBE, Athro Gwadd yr Academi Beirianneg Frenhinol yn Y Drindod Dewi Sant, yn gwasanaethu’n Ganolbwynt Byd-eang ar gyfer Darparu Sgiliau Cyflogaeth i Ymfudwyr yng Ngrŵp Mawr y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Plant ac Ieuenctid (UN MGCY).
Jessica fydd y dinesydd cyntaf o Gymru o dan 30 oed i dderbyn yr anrhydedd ddiplomyddol hon.
MGCY y Cenhedloedd Unedig yw "mecanwaith awdurdodedig, swyddogol, ffurfiol a hunan-drefnedig" Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig sy'n "cysylltu pobl ifanc â system y Cenhedloedd Unedig i helpu i sicrhau y gwireddir eu hawl i gymryd rhan yn ystyrlon."
O’i bencadlys yn Efrog Newydd, mae MGCY y Cenhedloedd Unedig yn chwarae rhan wrth feithrin gallu, polisi ac eiriolaeth, gwybodaeth ac ymgysylltu â phobl ifanc, ar lefelau byd-eang, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'r sefydliad yn gweithredu o fewn fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar gyfer hawliau dynol, datblygu cynaliadwy, heddwch a diogelwch, gwydnwch a gweithredu dyngarol.
Meddai Jessica Leigh Jones MBE: "Mae'n anrhydedd gwasanaethu yn y rôl bwysig hon ar adeg pan yw ansicrwydd byd-eang yn sgil Covid-19 a Brexit yn dylanwadu ar ragolygon cyflogaeth ac uchelgeisiau gyrfa pobl ifanc. Edrychaf ymlaen at weithio gydag MGCY y Cenhedloedd Unedig i ddatblygu mentrau a llwyfannau polisi ystyrlon er mwyn i ymfudwyr ifanc gyflawni eu potensial llawn, unrhyw le yn y byd."
Meddai Elana Wong, Canolbwynt Byd-eang ar gyfer y Gweithgor Ymfudo ym MGCY y Cenhedloedd Unedig, "Rydyn ni’n falch dros ben bod Jessica yn ymuno â'n tîm Integreiddio Cymdeithasol ac Economaidd yn ein Canolbwynt newydd ar gyfer Darparu Sgiliau i Ymfudwyr, ac yn gyffrous am y wledd o wybodaeth a phrofiadau y mae'n ei roi i'r tîm cydlynu."
Mae'r swydd am gyfnod o flwyddyn ac mae'n canolbwyntio ar Nod Datblygu Cynaliadwy (SDG) 8 y Cenhedloedd Unedig, Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd. Bydd Jessica yn ystyried pwysigrwydd entrepreneuriaeth, a dylanwad technoleg a gweithio hyblyg o bell, wrth lunio rhagolygon cyflogaeth ymfudwyr ifanc.
Derbyniodd Jessica MBE am wasanaethau i fenywod mewn peirianneg yng Nghymru yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2020 a hi yw Prif Swyddog busnesau newydd Gweithredol CareerTech, iungo Solutions.
Mae iungo Solutions wedi'i enwi'n un o bum busnes newydd twf uchel gorau Cymru gan Tech Nation, ac yn ddiweddar graddiodd o Raglen gychwynnol Cyflymydd twf uchel Llywodraeth Cymru ar gyfer sylfaenwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Gweledigaeth y cwmni yw "creu brand rhyngwladol ar gyfer prentisiaethau, wedi'i ategu gan seilwaith cysylltiedig o gyfleoedd addysg a chyflogaeth". Mae ymrwymiad iungo i symudedd cymdeithasol wedi'i gydnabod drwy Wobr Arwain y Ffordd ar gyfer Amrywiaeth a Chynhwysiant ac ar hyn o bryd mae'n adeiladu llwyfan Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad (IAG) i helpu pobl ifanc 14 - 18 oed i gynllunio eu gyrfaoedd.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk