Canlyniadau TGAU arbennig i Ysgol Tsieineaidd y Sefydliad Confucius yn y Drindod Dewi Sant
12.08.2021
Ar ddiwrnod canlyniadau TGAU 2021, mae 11 myfyriwr o Ysgol Tsieineaidd y Sefydliad Confucius yn dathlu eu graddau rhagorol.
Derbyniodd 100% o’r myfyrwyr raddau A * i B gyda'r mwyafrif yn ennill A*. Er gwaethaf anawsterau cyfyngiadau Covid-19 yn ystod 2020-2021 gwnaeth y myfyrwyr weithio’n galed er mwyn i siccrhau’r graddau uchaf posib
Ers cychwyn cynnig gradd TGAU mewn Tsieineaidd Mandarin am y tro cyntaf dair blynedd yn ôl mae myfyrwyr Ysgol Tsieineaidd y Sefydliad Confucius wedi llwyddo’n gyson. Agorodd yr ysgol ym mis Medi 2016 er mwyn cynnig hyfforddiant iaith Tsieineaidd ar benwythnosau i blant o bob cefndir, ond yn benodol, cefnogi addysg i gymuned Tsieineaidd De Cymru. Nodau'r ysgol yw darparu hyfforddiant o'r safon uchaf mewn Tsieinëeg i baratoi plant ar gyfer byd gwaith byd-eang, tra hefyd yn cynnal cysylltiadau â'u treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol.
Ym mis Medi 2020 dechreuodd yr ysgol Tsieineaidd gynnig dosbarthiadau Tsieineaidd Safon Uwch ac mae ganddi garfan gref o bobl ifanc sy'n paratoi i ennill y cymhwyster uwch yn haf 2022.
Mrs Liu Jing yw tiwtor TGAU a Safon Uwch yr Ysgol Tsieineaidd. Dywedodd fod myfyrwyr wedi rhoi adborth cadarnhaol iawn iddi am y cyrsiau. Dywedodd un myfyriwr, Xie Sitong: “Mae’r dosbarthiadau eleni wedi bod yn wych hyd yn oed gyda sefyllfa Covid-19. Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd yn y dosbarth yn cynnwys hanes gwyliau Tsieineaidd, sut i ehangu fy ysgrifennu a sut i ddarllen ac ysgrifennu geiriau ac ymadroddion newydd.”
Ar hyn o bryd mae Ysgol Tsieineaidd y Sefydliad Confucius yn derbyn cofrestriadau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan: https://www.uwtsd.ac.uk/confucius-institute/confucius-institute-chinese-school/
Gwybodaeth Bellach
Krystyna Krajewska, Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Confucius k.krajewska@uwtsd.ac.uk