Carfan gyntaf o Radd-brentisiaid yn graddio o’r Drindod Dewi Sant
14.07.2021
Mae’r garfan gyntaf o Radd-brentisiaid wedi graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae gan Y Drindod Dewi Sant Raglen Gradd-brentisiaeth hynod lwyddiannus, gan weithio mewn partneriaeth â busnesau Cymru i greu ffrwd o dalent ac arfogi gweithluoedd y dyfodol â’r sgiliau cywir i sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn gystadleuol ar raddfa fyd-eang.
Mae’r rhaglenni’n darparu hyfforddiant sector-benodol o ansawdd uchel ar gyfer cyflogwyr i uwchsgilio eu gweithlu presennol. I unigolion, maent yn darparu porth amgen i addysg uwch a ariennir yn llawn, gan eu galluogi i ennill cyflog tra byddant yn dysgu sgiliau ymarferol, lefel uwch, amhrisiadwy i’w helpu i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddringo’r ysgol yrfa.
Mae Lois Harris yn brynwr technegol gyda Bisley (FC Brown Steel Equipment Ltd.) yng Nghasnewydd, ac mae hi newydd gwblhau ei gradd BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu, gan astudio’n rhan amser.
Meddai: “Rwy’n falch o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni wrth gwblhau’r cwrs ac rwy’n hapus iawn ar fy nghanlyniadau. Roedd rhaglen y radd-brentisiaeth wedi darparu’r cyfleoedd gorau i gymhwyso’r hyn a ddysgais yn y gwaith. Hefyd, dyna beth oedd yn fwyaf diddorol i mi! Rwy’n gobeithio y bydd y cymhwyster hwn yn caniatáu i mi symud ymhellach gyda fy ngyrfa a datblygu fy ngwybodaeth o fewn y diwydiant.
“Cynigiodd y brifysgol gyfleusterau da o fewn yr ysgol peirianneg. Hefyd roedd yn un o’r nifer bach o brifysgolion a oedd yn cynnig y cwrs yn rhan amser ac fel gradd-brentisiaeth, a oedd o fudd i fy nghyflogwr.
“Mwynheais i’r cwrs, ac roedd y gwaith yn ddiddorol ac yn berthnasol i fy ngwaith i. Roedd yr addysgu a’r cymorth yn wych – gwnaeth y staff ymdrech ychwanegol i fod ar gael ac ateb unrhyw ymholiadau tu allan i amser astudio, a oedd yn gymorth mawr (yn enwedig wrth astudio’n rhan amser). Yn sicr byddwn i’n argymell y cwrs i bobl eraill.
Mae Cameron Davies yn Brentis Offeru ar gyfer Castinau gyda Wall Colmonoy. Astudiodd am radd BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu yn y Drindod Dewi Sant ac mae’n bwriadu aros ymlaen i gwblhau ei radd Meistr.
Meddai: “Mae’n teimlo fel cyflawniad balch iawn fy mod wedi graddio. Fel prentis yn Wall Colmonoy gofynnwyd i mi wneud y cwrs hwn, gyda’r nod a’r uchelgais i ddysgu ac ehangu fy ngwybodaeth yn y pwnc.
“Mwynheais wneud fy mhrosiect mawr, a roddodd gyfle da i mi weithio gydag aelodau staff sydd â phrofiad da yn y sector rwy’n gweithio ynddo. Mae cwblhau rhaglen gradd-brentisiaeth wedi rhoi mwy o wybodaeth i mi mewn pwnc rwy’n teimlo y bydd yn ddefnyddiol iawn i mi yn y dyfodol. Byddaf yn gorffen fy mhrentisiaeth yn swyddogol ym mis Medi ac rwy’n gobeithio parhau i ddysgu a symud ymlaen fel peiriannydd, a gobeithio yn y dyfodol agos yr af ymlaen i gwblhau fy ngradd Meistr.”
Meddai Bridget Moseley, Pennaeth Uned Brentisiaethau’r Drindod Dewi Sant: “Rwy’n anhygoel o falch fy mod wedi cefnogi’r garfan gyntaf hon drwy raglen y Radd-brentisiaeth. Mae eu gwaith caled a’u hymrwymiad i’w cyflogwyr, eu hastudiaethau a datblygu sgiliau wedi disgleirio drwodd. Da iawn chi, bob yr un ohonoch!”
Mae’r Gradd-brentisiaethau yn y Drindod Dewi Sant, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru, fel arfer yn rhedeg dros gyfnod o 4 blynedd gyda diwrnodau hyfforddi i ffwrdd o’r gwaith yn cael eu cynnal ar gampws y Brifysgol yn Abertawe. Gallai rhai sydd â dysgu blaenorol a/neu brofiad blaenorol gwblhau’r rhaglen mewn llai o amser.
Cefnogir y prentisiaid drwy gydol eu rhaglen gan Swyddog Cyswllt sy’n ymweld â’u gweithle’n rheolaidd, gan ddarparu cyswllt rhwng yr astudiaethau academaidd a’r dysgu yn y gweithle.
Mae’r Brifysgol yn cynnig rhaglenni Gradd-brentisiaeth yn y meysydd canlynol:
- Gweithgynhyrchu Uwch
- Peirianneg
- Peirianneg Meddalwedd
- Gwyddor Data
- Seiberddiogelwch a Rhwydweithiau
- Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron
Mae’r rhain yn rhaglenni a ariennir yn llwyr gan Lywodraeth Cymru i helpu cyflogwyr i:
- Gynllunio ar gyfer eu dyfodol drwy uwchsgilio eu gweithlu presennol.
- Recriwtio’r bobl iawn.
- Cynnig dilyniant i Brentisiaid sydd wedi cymhwyso’n ddiweddar.
- Maent yn galluogi unigolion i:
- Ennill cyflog tra maent yn dysgu.
- Dysgu a datblygu sgiliau ymarferol lefel uchel.
- Magu hyder yn yr amgylchedd gwaith.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk