Carfan gyntaf o raddedigion BA Crefftau Dylunio yn arddangos eu talentau
20.07.2021
Mae’r garfan gyntaf o fyfyrwyr BA Crefftau Dylunio wedi graddio o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae’r rhaglen Crefftau Dylunio yn canolbwyntio ar archwilio a chwilfrydedd yn ymwneud â gwneuthuriad, cymhwyso defnyddiau, crefftwaith a dawn dylunio. Meddai Anna Lewis, darlithydd Crefftau Dylunio: “Mae’r graddedigion wedi profi i fod yn ddyfeisgar ac yn wydn dan heriau ychwanegol cyfnodau clo dilynol ac er gwaethaf cyfyngiadau o’r fath maent wedi cynhyrchu corff gwych o waith Crefftau Dylunio.”
Rhoddir sylw i themâu megis ‘cyffwrdd a chysylltedd’, mynegiannau cadarnhaol o ‘lawenydd’, dathlu natur a’r gallu i ‘wenu’, fel ymateb uniongyrchol i’r bywyd rydyn ni i gyd wedi’i wynebu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Anna fod y myfyrwyr wedi sianelu’r amser hwn ac wedi dathlu’r mynegiant cysyniadol ac ymarferol sy’n greiddiol i’r rhaglen Crefftau Dylunio.
“Gan arbenigo mewn amrywiaeth o wydr, cerameg a gemwaith, mae’r garfan eleni wedi cynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch hardd, lliwgar a meddylgar ac ymatebion cerfluniol.” Ychwanegodd: “Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd ganddynt maent wedi parhau’n broffesiynol ac yn gadarnhaol, gan ymateb i’r sefyllfa hynod anarferol hon ag egni a ffocws a chreu gwaith cyffrous ac arloesol. “
“Yr eiliad y bu modd i ni eu gwahodd yn ôl i mewn i’r gweithdai yn ddiogel wedi’r cyfnod clo, aeth y cynhyrchiant drwy’r to, efallai yn ymateb i fod i ffwrdd oddi wrth sgrin ddigidol.”
“Does dim yn well na dysgu yn y bywyd go iawn gyda deunyddiau go iawn. Fel gwneuthurwyr, rydyn ni’n dyheu am y cyffwrdd a’r wybodaeth ddealledig sy’n deillio o’r profiad hwnnw a ddysgwyd.”
Mae Alyson Williams yn geramegydd ac yn wenynwr y mae’i chasgliad terfynol yn archwilio strwythurau codennau naturiol i greu cerfluniau awyr agored i wenyn a phryfed ac mae’n tynnu sylw at faterion amgylcheddol allweddol i beillwyr.
A hithau wedi treulio’r cyfnod clo yn Tanzania, derbyniodd Juliette Zelleke yr her gan weithio gyda chrefftwyr gwydr lleol ac ar ôl dychwelyd creodd gasgliad enfys o lestri o wydr wedi’i fondio â ffocws ar lawenydd, llestri sy’n chwarae gyda ffurf, golau a lliw.
Mae Heidi Walton yn cyfuno’i sgiliau mewn gemwaith a gwydr gan greu cromenni copr, arian a gwydr pwerus o syml a ysbrydolwyd gan gyfathrebu ac iaith megis Braille sy’n dadansoddi ystyr y gair ‘gwenu’ mewn byd lle rydyn ni’n gwisgo masgiau.
Mae Samina Begum yn archwilio dehongliadau o emwaith a’r corff gyda ‘chyffwrdd’ a ‘chysylltiad’ yn themâu canolog gan greu ffurfiau gwydr cast prydferth i’w dal yn y llaw.
Mae Georgina Bowles yn rhedeg stablau hurio i geffylau a hyd yn hyn mae wedi llwyddo i droi pob briff prosiect yn rhywbeth sy’n gysylltiedig â cheffylau! Mae’i chasgliad terfynol yn arbrofi gyda ffurf penglog ceffyl mewn gwydr wedi’i slympio a dannedd ceffyl wedi’u castio’n sebonau i’n hatgoffa i olchi ein dwylo!
Ychwanegodd Anna: “Mae moeseg waith ac agwedd gadarnhaol y garfan eleni yn wyneb y fath drallod wedi gwneud argraff mor fawr ar y tîm Dylunio Crefftau, yn wir mae hon yn flwyddyn arbennig ar bob lefel ar gyfer y cwrs. Dymunwn bob lwc iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol ac fe’ch gwahoddwn i ddathlu gyda ni a dod i gael golwg fanylach.”
Mae’r gwaith ar gael i’w weld ar-lein yn Sioe Haf Coleg Celf Abertawe ac i’w weld yn iawn yn y sioe dros dro yn ffenestri’r gweithdy ar yr islawr yn ALEX, Ffordd Alexandra, Abertawe (o 16 Gorffennaf tan ddiwedd yr haf).
Dolenni:
https://www.uwtsd.ac.uk/ba-design-crafts/
Dilynwch ni am y newyddion diweddaraf:
https://www.instagram.com/designcraft_swanseauwtsd/
https://www.facebook.com/DesignCraftsUWTSD
Cysylltwch â’r tîm:
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk