Cyhoeddi Cyfres Seminarau Celtaidd ar y cyd
06.10.2021
Eleni bydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Choleg yr Iesu Rhydychen yn cynnal eu Seminarau Celtaidd ar y cyd fel rhan o’r gynghrair strategol rhwng y prifysgolion.
Bob blwyddyn, mae’r Ganolfan, a sefydlwyd gan Brifysgol Cymru yn 1985, yn cynnal dwy gyfres o seminarau ymchwil arbenigol ym maes Astudiaethau Celtaidd. Ers cychwyn y pandemig mae’r seminarau hyn bellach yn cael eu cynnal arlein, gyda siaradwyr a chynulleidfaoedd yn ymuno nid yn unig o’r Gwledydd Celtaidd ond o sawl gwlad a chyfandir.
Y tymor hwn, cytunwyd y byddai’r Ganolfan a’r Gadair Geltaidd yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen yn cydlynu eu seminarau am yn ail wythnos yn ystod yr hydref ac yn cynnal seminar ar y cyd ym mis Rhagfyr. Mae’r gyfres yn rhan o’r gynghrair strategol sydd rhwng Prifysgol Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Choleg yr Iesu, Rhydychen ym maes Astudiaethau Celtaidd a’r Gymraeg.
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
“Rwy’n hynod falch ein bod yn cydweithio gyda’r Athro Willis yng Ngholeg yr Iesu ar y seminarau yr hydref hwn. Mae’r newid diwylliannol a ddaeth yn sgil y pandemig wedi galluogi i ni ddefnyddio’r dechnoleg i ddod â dwy gymuned ymchwil ynghyd yn rheolaidd drwy’r seminarau hyn.”
“Bydd y cydweithio hwn hefyd yn rhoi lle amlwg i’r Gymraeg fel cyfrwng traddodi papur seminar yn y rhaglen ar y cyd.”
Yr Athro David Willis yw Athro Celteg Coleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen. Dywedodd:
"Dwi wrth fy modd bod Rhydychen a'r Ganolfan yn cynnal seminarau ar y cyd am y tro cyntaf eleni, ac yn edrych ymlaen at hyn a gweithgareddau tebyg eraill yn y dyfodol."
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor "Mae cydweithrediad y Brifysgol â Choleg Iesu yn cynnig cyfle unigryw inni adeiladu perthnasoedd academaidd rhwng y sefydliadau er budd Astudiaethau Celtaidd a'r iaith Gymraeg ar lefel ryngwladol. Mae'r gyfres seminarau hon yn enghraifft o sut mae cydweithredu o'r fath wedi adnabod cyfleoedd newydd a bydd yn denu cynulleidfaoedd newydd i gymryd rhan yn ein gweithgareddau."
Agorir y gyfres gan Dr Rhys Kaminski-Jones, Cymrawd Ymchwil yr Academi Brydeinig yn y Ganolfan, nos Iau 7fed Hydref am 5 o’r gloch gyda seminar yn dwyn y teitl ‘‘Hi Hên-Eleni y Ganed!’: Canu Llywarch Hen yn y cyfnod Rhamantaidd.
Fe’i cloir gan yr Athro Michael Cronin o Goleg y Drindod, Dulyn sy’n arbenigo mewn ysgrifennu teithiol, cyfieithu, astudiaethau amgylcheddol a ieithoedd lleiafrifol, gyda’i seminar ‘Minority Journeying in the Age of the Anthropocene’.
Ceir rhestr lawn o’r seminarau yma:
Tymor yr Hydref 2021
7 Hydref
Y Ganolfan Geltaidd (ar lein yn unig)
Rhys Kaminski-Jones (Y Ganolfan Geltaidd)
‘Hi Hên-Eleni y Ganed!’: Canu Llywarch Hen yn y cyfnod Rhamantaidd
14 Hydref
History of the Book Room, Cyfadran Saesneg, Manor Road, Rhydychen (ar lein ac wyneb yn wyneb)
William Lamb (Prifysgol Caeredin)
Nouns by numbers: New insights from a dialectometrical study of Gaelic nominal morphology
21 Hydref
Y Ganolfan Geltaidd (ar lein yn unig)
Ian Stewart (Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain)
Celticism: An intellectual and cultural history
28 Hydref
Rhydychen (ar lein yn unig)
Georgia Henley (Coleg Sant Anselm)
Reading Geoffrey of Monmouth in south Wales and the Marches
4 Tachwedd
Y Ganolfan Geltaidd (ar lein yn unig)
Ken Dark (Prifysgol Reading)
Royal burial in fifth-to seventh-century western Britain and Ireland
11 Tachwedd
Rhydychen (ar lein yn unig)
Janet Kay (Princeton)
Funerary archaeology and communities in fifth-century Britain
18 Tachwedd
Y Ganolfan Geltaidd (ar lein yn unig)
Eirian Alwen Jones
‘Tua Gloddaith, tŷ gwleddoedd’: Tomos Mostyn, Ysgwïer, a’r traddodiad barddol
25 Tachwedd
Rydychen (ar lein neu hybrid; i’w gadarnhau)
Deborah Hayden (Maynooth)
Cryptography, linguistic origin legends and medical education in medieval Ireland
2 Rhagfyr
Seminar ymchwil ar y cyd rhwng y Ganolfan a Rhydychen (ar lein yn unig)
Michael Cronin (Coleg y Drindod Dulyn)
Minority Journeying in the Age of the Anthropocene
Bydd seminarau’r Ganolfan am 5.00 o’r gloch ar nos Iau drwy Zoom. E-bostiwch a.elias@cymru.ac.uk i dderbyn dolen.
Bydd seminarau Rhydychen am 5.15 o’r gloch wyneb yn wyneb neu drwy Microsoft Teams. E-bostiwch david.willis@ling-phil.ox.ac.uk i dderbyn dolen.
Traddodir y seminarau yn iaith y teitl. Croeso cynnes i bawb.
Nodyn i'r Golygydd
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk.
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru sydd yn dathlu ei ganmlwyddiant yn 2021.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076