Cyhoeddi enillwyr ‘Gwobrau Darlithwyr Cysylltiol’ y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
06.10.2021
Mae dau ddarlithydd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi dod i’r brig yn ystod seremoni flynyddol Gwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Geraint Forster a Jeni Price yn derbyn eu gwobrau yn ystod y seremoni
Cyflwynir Gwobrau Blynyddol y Coleg i ddarlithwyr cysylltiol y Coleg sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg yn ystod y flwyddyn academaidd ac i rai o’r myfyrwyr Cymraeg disgleiriaf a mwyaf ymroddedig.
Yn flynyddol, cyflwynir tair gwobr i rai o ddarlithwyr cysylltiol y Coleg sydd wedi’u lleoli mewn prifysgolion ar draws Cymru. Eleni, cyflwynwyd ‘Gwobr y Myfyrwyr’ i Geraint Forster, Uwch-ddarlithydd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn y Drindod Dewi Sant, a hynny am yr effaith gadarnhaol mae ei waith yn ei gael ar brofiad myfyrwyr yn yr adran. Mae hwn yn gategori newydd ar gyfer 2020-21, er mwyn i fyfyrwyr gael y cyfle i enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau yn y brifysgol. Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Geraint Forster:
“Mae’n fraint derbyn y wobr hon, profiad y myfyrwyr yw’r rhan bwysicaf o fy rôl fel addysgwr ac mae derbyn cydnabyddiaeth wrth y myfyrwyr yn werthfawr tu hwnt. Diolch yn fawr i’r myfyrwyr sydd wedi fy enwebu a diolch i’r Coleg Cymraeg am y wobr.”
Enillydd y ‘Wobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol’ ydy Jeni Price, Uwch-ddarlithydd Rhagoriaith, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r wobr hon yn cydnabod darlithydd neu ymarferydd sydd wedi arwain ar greu adnodd cyfrwng Cymraeg sydd o ansawdd uchel ac sy’n cefnogi’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Derbyniodd Jeni y wobr ar gyfer adnodd ‘Troir Trai Mewn Tri Deg Mlynedd’ sef modiwl ar-lein sy’n mynd ati’n uniongyrchol i geisio ymateb i’r heriau wrth geisio cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Yn dilyn y seremoni, dywedodd Jeni:
“Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn i allu derbyn y wobr hon ar ran tîm Rhagoriaith a chwmni Optimwm. Roedd creu adnodd sy'n cyfleu gwerth sgiliau da yn y Gymraeg yn y gweithle yn bwysig iawn i ni fel tîm, ac ry'n ni'n ddiolchgar iawn am gyfraniadau arbennig yr unigolion sy'n gwneud yr adnodd yn un fydd yn apelio at fyfyrwyr ac yn eu hannog i ystyried parhau i astudio'r Gymraeg, neu drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddan nhw'n wynebu dewisiadau ar eu taith trwy'r system addysg.”
Bethan Wyn yw Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Ychwanegodd:
“Yn flynyddol mae’r Coleg yn derbyn llu o enwebiadau ar draws y sefydliadau ac mae safon yr enwebiadau hynny bob amser yn uchel dros ben.
Hoffwn longyfarch Geraint a Jeni a diolch yn fawr iddynt am eu holl waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym fel Cangen yn ffodus iawn o’n holl aelodau ac mae gweld y darlithwyr yma yn derbyn y gydnabyddiaeth yma yn goron ar yr holl weithgarwch.”
Cliciwch ar y linc canlynol am wybodaeth bellach ynghylch gweithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Drindod Dewi Sant: https://www.uwtsd.ac.uk/cy/coleg-cymraeg/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076