Cymorth busnes a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer busnesau newydd graddedigion yng Nghymru
23.06.2021
Bydd rhith-ddigwyddiad rhwydweithio a drefnir ar y cyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 30 Mehefin.
Yn aml, nid yw graddedigion sy’n dechrau busnes yn ymwybodol o gymorth sydd ar gael i’w helpu i sefydlu a thyfu eu busnesau.
Bydd y digwyddiad hwn, a gynhelir rhwng 9:30am a 11am, yn amlinellu’r cymorth allweddol sydd ar gael i fusnesau newydd graddedigion yng Nghymru a bydd yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr rwydweithio gyda phobl eraill.
Bydd y digwyddiad yn caniatáu i fusnesau newydd glywed gan ddarparwyr cymorth, gan gynnwys siaradwyr o Busnes Cymru, Syniadau Mawr Cymru, Ymddiriedolaeth y Tywysog, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, a’r Drindod Dewi Sant, yn ogystal â chlywed am brofiadau entrepreneur ifanc llwyddiannus.
Yn ogystal bydd sesiwn holi ac ateb, a sesiynau rhwydweithio yn eu tro mewn ystafelloedd trafod.
Meddai Dylan Williams-Evans, Hyrwyddwr Menter yn Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter y Drindod Dewi Sant: “Dyma gyfle gwych i’n myfyrwyr a’n graddedigion gyrchu’r cymorth sydd ei angen arnynt i lansio'u busnes neu’u gyrfa lawrydd yn llwyddiannus.“Os na all rhywun ddod i’r digwyddiad yna mae’n bosibl y byddant yn dal i allu cael cyfarfod un-i-un gyda mi a gallaf helpu i’w harwain at y darparwr cymorth busnes cywir, boed hynny ar gyfer cyngor, cyllid neu fentora.”
I gael rhagor o wybodaeth a chadw lle yn y digwyddiad ‘Cymorth busnes a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer busnesau newydd graddedigion yng Nghymru’, ewch i wefan y Ffederasiwn Busnesau Bach yma.