Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams 2021


05.11.2021

Sefydlwyd y Ddarlith Goffa hon yn 2001 er cof am y diweddar Athro J. E. Caerwyn Williams a’r diweddar Mrs Gwen Williams. Y siaradwr gwadd eleni yw Dr Dylan Foster Evans o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Dylan Foster Evans

Barddoniaeth yr Oesoedd Canol diweddar yw prif faes arbenigol Dr Foster Evans. Dechreuodd ar ei yrfa yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd fel aelod o Brosiect Beirdd yr Uchelwyr a bu hefyd yn aelod o brosiectau sydd wedi golygu ac astudio gweithiau dau o feirdd mwyaf Cymru, Dafydd ap Gwilym a Guto'r Glyn. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng barddoniaeth, hunaniaeth, diwylliant materol a'r amgylchedd a chyhoeddodd nifer o astudiaethau beirniadol yn y meysydd hyn. Mae ganddo hefyd ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd ac mewn enwau lleoedd.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd:

‘Rydym yn falch iawn o gael gwahodd Dr Dylan Foster Evans yn ôl i’r Ganolfan unwaith yn rhagor i draddodi Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams 2021. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed ei ddadansoddiad o bwnc sydd mor amserol a phwysig’.

Testun y ddarlith goffa fydd, ' "Yn dreftadaeth dragwyddol"? Presenoldeb ac absenoldeb y Gymraeg yn y dirwedd dreftadol'. Mae'r syniad bod yr iaith Gymraeg yn ffurfio rhan o dreftadaeth y Cymry wedi ei wreiddio'n ddwfn. Er hynny, prin yw'r ystyriaeth a roddwyd i bresenoldeb (ac absenoldeb) y Gymraeg yn y dirwedd ieithyddol gyfoes a hanesyddol.  Bydd y ddarlith hon yn ystyried sut y byddwn yn ymdrin ag arysgrifau, arwyddion, ac enghreifftiau gweledol eraill o'r iaith fel rhan o dreftadaeth Cymru. Bydd yn dadlau bod modelau o dreftadaeth sydd wedi eu seilio ar dreftadaeth 'gyffyrddadwy' yn dal i ymylu'r Gymraeg, a bod effaith hynny i'w gweld mewn sawl man, gan gynnwys trafodaethau diweddar ar enwau lleoedd.

Cynhelir y ddarlith ar nos Fercher, 10 Tachwedd 2021, am 5.00 o’r gloch. E-bostiwch a.elias@cymru.ac.uk i dderbyn y ddolen Zoom.

Nodyn i'r Golygydd

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru sy’n dathlu ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076