Dathlu cymunedau amrywiol Abertawe
07.05.2021
Mae myfyrwyr Hysbysebu Creadigol Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn cydweithio â Brand Swansea i helpu i greu hunaniaeth ddeinamig sy'n dathlu stori go iawn Abertawe y gellir ei rhannu â'i chymunedau, twristiaid a busnesau amrywiol o bell ac agos.
Wrth arwain y persbectif newydd hwn, mae'r myfyrwyr wedi bod yn rhwydweithio â chymunedau yn Abertawe a'r tu allan i Abertawe i gymryd stoc o "ble rydyn ni arni", wedi ymgysylltu ar lefel stryd (o bell wrth reswm) i ddarganfod "pwy ydyn ni" ac maen nhw’n archwilio "ble rydyn ni am fod" yn y dyfodol mewn ffordd gadarnhaol.
Meddai Caroline Jones, uwch ddarlithydd mewn Hysbysebu Creadigol yn Y Drindod Dewi Sant: "Dros y blynyddoedd mae Abertawe wedi wynebu llawer o heriau a newidiadau, mae Brand Swansea Abertawe yn brosiect cyffrous sy'n gwerthuso ble rydyn ni arni, pwy ydyn ni a ble rydyn ni eisiau bod.
"Mae'n gyfle gwych i bawb gael dweud ein dweud a mynegi ein hunain yn y cyfnod heriol hwn ac edrych i'r dyfodol yn optimistaidd. Mae Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn falch bod gan fyfyrwyr Hysbysebu Creadigol ran weithredol a chanolog wrth yrru'r fenter hon yn ei blaen.
Dywedodd Caroline fod y rhaglen BA (anrh) Hysbysebu Creadigol wedi rhoi'r sgiliau i'r myfyrwyr fynd i’r afael â materion cymhleth, gwneud canfyddiadau a chreu atebion creadigol.
"Maen nhw'n defnyddio eu sgiliau proffesiynol i gysylltu ag un o gleientiaid Brand Swansea, Mike Scott. Mae'r berthynas hon â’r cleient yn un ffrwythlon sy’n bodoli ers tro, yn 2013 cydweithiodd myfyrwyr Hysbysebu a Ffotograffiaeth Coleg Celf Abertawe i greu rhywfaint o waith cysyniadol cynnar ar gyfer prosiect Brand Swansea," ychwanegodd.
"Nid oes ofn ar fyfyrwyr Hysbysebu Creadigol Blwyddyn 3 gymryd risgiau arloesol a bydd eu safbwyntiau unigryw a gwreiddiol ar brosiect Brand Swansea yn rhan o arddangosfa derfynol Portffolio Graddedigion a fydd yn cael ei harddangos mewn digwyddiad ar-lein ar 4 Mai 2021 am 4p.m."
Yn ôl un o fyfyrwyr Hysbysebu Creadigol Klaudia M: "Mae'n gyfle gwych i gysylltu â'r lle roedden ni'n digwydd byw ynddo. Mae Brand Swansea wedi fy annog i archwilio'r ddinas ac ehangu fy mhrofiad Prifysgol. Mae mor bwysig bod yn bresennol ac ymgysylltu â'n hamgylchedd a'n cymuned.
"Mae gweithio ar brosiect Brand Swansea wedi fy helpu i fagu hyder yn fy ngwaith yn weithiwr creadigol. Mae gweld fy syniadau'n cael adborth cadarnhaol a’r modd y byddai’n bosibl eu defnyddio, wedi fy sicrhau fy mod i ar y llwybr gyrfa cywir."
Ychwanegodd Rebecca Davies: "Mae'n wych gweld ein syniadau'n dod yn 'fyw' yn y byd go iawn a gallu bod yn falch o'r hyn rydyn ni'n ei wneud dros y ddinas."
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk