Digwyddiad ‘Designing Out Suicide’
16.04.2021
Bydd Dr Liz Walder Y Drindod ac Ian Standen o Ysgol Pensaernïaeth Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf (WISA) y Brifysgol yn cymryd rhan mewn digwyddiad ar-lein o’r teitl ‘Designing Out Suicide’ sy’n cael ei gynnal gan The Jordan Legacy CIC ar ddydd Gwener, Ebrill 30ain am 1pm-3pm.
Bydd y digwyddiad panel trafod yn cael ei gynnal gan Dr Liz Walder ac yn digwydd ar Zoom. Gyda phanel o arbenigwyr yn cynnwys penseiri ac arolygwyr blaenllaw’r DU, a’r Cyngor Diwydiant Adeiladu, i’r rheiny sy’n rhan o helpu i atal hunanladdiadau yn yr amgylchedd adeiledig, mae bron i 200 o bobl wedi cofrestru i fynychu’r digwyddiad hwn, o sefydliadau fel; Highways England, Network Rail, gwahanol swyddfeydd y Llywodraeth a lluoedd yr Heddlu, cwmnïau dylunio, penseiri, arolygwyr, ymarferwyr/ymgynghorwyr iechyd meddwl ac eraill sydd â diddordeb mewn atal hunanladdiad.
Dr Walder, darlithydd gwadd mewn Pensaernïaeth yn WISA, yw’r Arweinydd Cenedlaethol ar Ymchwil a Strategaeth ar gyfer y fenter ‘Design Out Suicide’ ar gyfer The Jordan Legacy.
Meddai Dr Walder, sydd hefyd yn Aelod Ymgysylltiol o Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA): “Yn Arweinydd Cenedlaethol ar Ymchwil a Strategaeth ar gyfer The Jordan Legacy, rwy’n credu bod codi ymwybyddiaeth o ‘Design Out Suicide’ o fewn deddfwriaeth ffurfiol Rheoliadau Adeiladu’r DU yn brif ddyhead. Rwy’n codi’r mater hwn trwy fy ngwaith eiriolaeth gydag arolygiaethau cynllunio datganoledig y DU.
“Mae’r pandemig COVID19 wedi arwain at gynnydd mewn ceisio gwell iechyd a llesiant o ran yr amgylchedd ac ymddygiadau. Yn 2021, rydym yn fwyfwy ymwybodol o’n hamgylchoedd ac fe ddylem fanteisio ar y creadigrwydd sydd gennym ni, fel dylunwyr a phenseiri, i leihau risg hunanladdiad o fewn yr amgylchedd adeiledig.
“Mae ein prosiect dylunio “byw”, Bronwen’s Wish, ar gyfer myfyrwyr o fewn y maes iechyd meddwl yn cael ei redeg gan Ian Standen, Uwch Ddarlithydd yr Ysgol Pensaernïaeth* a ddilyswyd yn ddiweddar gan RIBA yn Y Drindod Dewi Sant ac rydym yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn dod yn rhan o becyn cymorth cyfnod cynnar ar gyfer penseiri eraill wrth eu gwaith, sy’n dylunio o fewn maes iechyd meddwl.”
I gadw lle ar y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, dilynwch y ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e/designing-out-suicide-tickets-143694838129
The Jordan Legacy: https://thejordanlegacy.com/
Cynigodd Y Bwrdd Ymweld RIBA diweddar fod y BSc (Anrh) Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cael ei ddilysu’n ddiamod, yn amodol ar gadarnhad gan y Pwyllgor Addysg RIBA, a hysbysiad wedi hynny i Gyngor RIBA.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk