Diwylliant Stensilio
05.05.2021
Mae Coleg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant a’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd (CAE) yn cydweithio ar brosiect celf yn dwyn y teitl Diwylliant Stensilio, sy’n dathlu ac yn archwilio hunaniaeth ddiwylliannol yn Abertawe.
Cynhelir gweithdai dan arweiniad Melissa Rodrigues, un o raddedigion Celf Gain y Drindod Dewi Sant, a fydd yn rhoi cyflwyniad a chipolwg ar ei harfer artistig cyffrous. Daw’r cwrs i ben drwy ystyried y potensial ar gyfer datblygu’r gweithiau celf a gynhyrchwyd mewn cyd-destun mwy masnachol.
A hithau wedi graddio â gradd BA mewn Celf Gain ym mis Gorffennaf 2019, mae gwaith Melissa yn archwilio materion dadleoli, perthyn a hunaniaeth ddiwylliannol, gan astudio materion sy’n ymwneud â symudiad pobl ledled y byd.
Meddai Melissa Rodrigues, artist ac arweinydd y gweithdy: “Rwy wrth fy modd yn gwneud yr hyn sy’n fy ngwneud i’n hapus, ac mae gwneud stensiliau ac argraffu yn un o’r pethau hynny, ac mae gweithio gyda’r gymuned leol yn un arall. Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r sesiynau hyn a gweld sut y bydd y gwaith yn datblygu yn ddarn y gellir ei arddangos.
Cynhelir y sesiynau unwaith yr wythnos, gan ddechrau ddydd Mawrth 1 Mehefin, a’r sesiynau dilynol ar 8, 15 a 22 Mehefin. Maent yn rhad ac am ddim a darperir yr holl ddeunyddiau. Gan mai hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, bydd ymgeiswyr sy’n bodloni gofynion Ehangu Mynediad y Drindod Dewi Sant yn cael blaenoriaeth. Mae croeso mawr i grwpiau teulu.
Cyflwynir y gweithdai ar-lein trwy Zoom fel y gall pobl gymryd rhan o’u cartrefi a bydd pecynnau celf a chyfarwyddiadau cysylltiedig yn cael eu hanfon drwy’r post. Yn ogystal bydd dewis ar gael i nifer bach o gyfranogwyr fynychu sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd (CAE).
Meddai Kim Mamhende, Cynorthwyydd Personol Gweithredol yn y Ganolfan:“Yn y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd, rydym wedi ymrwymo i greu cymuned fywiog o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol lle caiff grwpiau ar y cyrion eu grymuso. Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Drindod Dewi Sant a’n haelod ein hunain, Melissa, wrth gyflwyno’r prosiect hwn, gan ddod â chymunedau at ei gilydd a lleihau sefyllfaoedd lle mae pobl yn ynysig. Trwy’r gweithdai celf hyn, bydd grwpiau’n cyfnewid eu diwylliannau amrywiol, yn gweithio ar y cyd ac yn rhannu sgiliau.”
Meddai Amanda Roberts, Uwch Swyddog Addysg yn y Drindod Dewi Sant: “Mae Melissa Rodrigues yn artist newydd cyffrous ac rydym yn falch iawn o weithio gyda hi a’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd ar y fenter hon. Mae Melissa wedi dylunio prosiect celf cymunedol difyr ac anffurfiol a fydd yn adlewyrchu’r gymuned amlddiwylliannol fywiog yn Abertawe, gan gyflwyno ac archwilio creadigrwydd a menter trwy Gelf a Dylunio mewn addysg uwch.”
I gael rhagor o wybodaeth a chadw lle, cysylltwch ag amanda.roberts@uwtsd.ac.uk
neu cadwch le ar-lein yma
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk