Galwad am Ymarferwyr Crefft! Hyb Crefftau’r UE: Preswyliadau Cyfnewid i Wneuthurwyr
15.06.2021
Mae Hyb Crefftau’r UE: Preswyliadau Cyfnewid i Wneuthurwyr yn rhan ganolog o brosiect Hyb Crefftau'r UE a lansiwyd yn ddiweddar ac sy’n cynnwys Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o’i naw bartner Ewropeaidd.
Bydd prosiect Hyb Crefftau’r UE, a gyd-gyllidir gan Raglen Ewrop Greadigol, yn rhedeg am dair blynedd. Bydd yn arddangos y doreth o arfer crefft Ewropeaidd ac yn mynd i’r afael â heriau’r sector drwy breswyliadau artistiaid, gweithdai hyfforddi, arddangosfeydd, cynadleddau, a Gŵyl Grefftau Ewropeaidd.
Cynhelir y Preswyliadau Cyfnewid i Wneuthurwyr yn y Saesneg rhwng 2021 a 2022, gyda’r preswyliad cyntaf yn cael ei drefnu’n rhithwir. Cadarnheir dyddiadau’r preswyliadau dilynol pan fydd cyfyngiadau llywodraeth pob gwlad sy’n cyfranogi yn caniatáu hynny.
Anogir ymarferwyr crefft o bob disgyblaeth i wneud cais i gymryd rhan yn y preswyliadau, a fydd yn eu helpu i greu sgiliau ehangach a gwaith crefft newydd, i feithrin rhwydweithiau rhyngwladol, ac i gymryd rhan mewn hyfforddiant DPP.
Nodwedd allweddol o’r preswyliadau yw’r cyfle i gynyddu symudedd trawswladol ymarferwyr crefft o fewn a thu hwnt i wledydd y bartneriaeth. Bydd ymarferwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ar-lein, fforymau trafod, a phroses o gyd-greu gyda’u cymheiriaid a thrwy weithdai ar-lein, i ddatblygu sgiliau sy’n caniatáu iddynt ehangu eu cwmpas, eu sgiliau a’u gwybodaeth ar gyfer creu crefft.
Asesir ceisiadau gan banel annibynnol sy’n cynnwys y partner arweiniol Cyngor Sir Carlow, partneriaid y prosiect, gweithiwr crefft/dylunio proffesiynol annibynnol, a chynrychiolydd Cyngor Dylunio a Chrefftau Iwerddon.
Bydd prosiect Hyb Crefftau’r UE yn gyfrifol am yr holl gostau’n gysylltiedig â’r preswyliadau gan gynnwys teithio, llety, a chynhaliaeth (lle bo angen); ffi am greu cynnwys y cyfryngau cymdeithasol (lle bo angen); a deunyddiau (lle bo angen).
Dyddiad terfyn ceisiadau yw dydd Mercher, 30 Mehefin, 2021 am 11:55PM.
I gael manylion llawn Hyb Crefftau’r UE: Preswyliadau Cyfnewid i Wneuthurwyr ac i wneud cais, ewch i leocarlow.submit.com/show/120.
Gwybodaeth Bellach
Bethan Evans
Swyddog Prosiect CATC, Marchnata a Chyfathrebu | ATiC Project Officer, Marketing and Communications
Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (CATC) | Assistive Technologies Innovation Centre (ATiC)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | University of Wales Trinity Saint David
Technium 1 | Technium 1
Heol y Brenin | King’s Road
Abertawe | Swansea
SA1 8PH
Ebost | Email bethan.evans@uwtsd.ac.uk