Graddedigion Coleg Celf Abertawe ar restr fer y Sioe Graddedigion Dylunio Ryngwladol
30.09.2021
Mae Samina Begun a raddiodd o’r rhaglen BA Crefftau Dylunio a Natalia Kielbeisa a raddiodd o’r rhaglen Meistr Celf Gain - Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant, wedi cyrraedd rhestr fer y Sioe Graddedigion Dylunio Ryngwladol a gynhelir gan Arts Thread mewn cydweithrediad â Gucci.
Mae hon yn arddangosfa ar-lein bwysig i raddedigion creadigol rhyngwladol, gyda mwy na 5,000 o ddylunwyr newydd wedi gwneud cais am y cyfle ffantastig hwn gyda Samina a Natalia yn maeddu’r gystadleuaeth i gael eu henwi ar y rhestr fer.
Panel o feirniaid arbenigol annibynnol o’r diwydiant a fu’n beirniadu’r gwaith o ddethol gan gynnwys sefydliadau megis cylchgrawn GQ, y Cyngor Ffasiwn Prydeinig, Cyngor Crefftau America, Current Obsession a Handmade in Britain.
Bydd y cyhoedd yn gallu pleidleisio tan 18 Hydref a gallwch gefnogi gwaith Samina a Natalia yma.
Gwnaethpwyd gwaith Samina, ‘cysylltiad’, gan ddefnyddio technegau gwydr cast cymhleth sy’n ffitio darnau o’r corff – fel ymateb creadigol i deimladau ynysig ac o unigrwydd yn ystod y cyfnod clo.
Meddai Samina: “Mae’r gwrthrychau cyffyrddol hyn wedi’u llunio o’r weithred o gyffwrdd a’r cysylltiad o un llaw i’r llall. Deilliodd yr ysbrydoliaeth i’r prosiect hwn o’r diffyg cyffwrdd a chysur byddai rhywun yn eu cael gan eu hanwyliaid gydol y 18 mis diwethaf hyn. Maent yn atgoffa nad yw cyflwr presennol y byd yn barhaol, ond yn hytrach yn galedi a fydd yn mynd heibio.
“Mae cael cydnabyddiaeth am yr amser a’r ymdrech a fuddsoddwyd yn fy nghasgliad gradd yn golygu cymaint i mi. Rwy’n teimlo y bydd y cyfle hwn yn caniatáu i mi arddangos fy ngwaith i gynulleidfa ehangach, ac rwyf mor ddiolchgar am hynny.”
Meddai Anna Lewis, Darlithydd mewn Crefftau Dylunio: “Mae’r tîm crefftau dylunio’n falch dros ben bod Samina wedi’i dewis am yr arddangosfa gyffrous hon yn enwedig am ein bod ni’n gwrs gradd mor newydd. Dyma ein carfan gyntaf i raddio, ac rydym ni wrth ein boddau bod gwaith caled a darnau prydferth Samina wedi cael eu gwobrwyo fel hyn. Mae’r gwaith yn adlewyrchu ethos y cwrs sef cysyniad, chwilfrydedd a deunyddiau, rydym ni ar bigau drain i weld sut bydd ei gyrfa’n datblygu ac yn dymuno’r gorau iddi.”
Gwaith Natalia yw naw cerflun ar lun platiau, a ysbrydolwyd gan gelfyddyd Japaneaidd draddodiadol, Kintsugi, sy’n rhoi sylw i draul a difrod gwrthrych ac yn eu mireinio, yn lle eu cuddio.
Meddai Natalia: “Mae meistr Kintsugi yn trin craciau â pharch mawr. Mae’r dechneg â chysylltiad cryf ag athroniaeth Wabi Sabi sy’n dathlu’r agweddau byrhoedlog ac amherffaith ar fywyd. Mae’r cerfluniau wedi’u creu drwy broses o ddifrodi ac ail-lunio, proses y torrais fy mherthynas â hunaniaeth y ‘dylunydd’ drwyddi, sef yr hyn y cefais fy hyfforddi i fod yn wreiddiol.
Meddai Dr Hamish Gane, Rheolwr Rhaglen MA Deialogau Cyfoes: “Mae tîm yr MA yn falch iawn o weld gwaith Natalia yn cael ei ddewis. Ymunodd Natalia â llwybr MA Celf Gain wedi hyfforddi’n flaenorol fel dylunydd cynnyrch, a thrwy archwiliad o ffotograffiaeth, perfformio, cerflunio a gosodwaith, mae’i thaith a’i harfer celf yn dehongli’n berffaith athroniaeth amlddisgyblaethol y portffolio Deialogau Cyfoes. Rydym yn llongyfarch Natalia ac yn edrych ymlaen at weld i ble bydd ei gwaith yn mynd â hi dros y blynyddoedd sydd i ddod.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk