Gwasanaeth Llyfrgell ac Adnoddau’r Drindod Dewi Sant yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon
01.10.2021
Bydd Gwasanaeth Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon 2021 drwy gyfres o ddigwyddiadau i gydnabod, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r cyfraniadau enfawr mae pobl o dras Du Affricanaidd a Charibïaidd wedi’u gwneud i hanes Prydain a’r byd.
O’r 1af o Hydref, bydd arddangosfa ar-lein arbennig â’r teitl ‘Siwgr’ ar gael i’w gweld drwy wefan y llyfrgell. Mae’r arddangosfa’n archwilio’r modd y daeth cansenni siwgr yn brif gynnyrch y planigfeydd newydd yn y Caribî yn ystod yr 17eg ganrif.
Cludwyd cannoedd o filoedd o bobl oedd wedi’u caethiwo o Affrica er mwyn i bobl Ewrop gael siwgr a rym. Erbyn 1800, roedd Prydain yn mewnforio 245 000 tunnell o siwgr bob blwyddyn. Mae’r arddangosfa hefyd yn rhoi syniad o’r modd y cafodd y siwgr ei dyfu a’i falu.
Bydd ystod o destunau a ysgrifennwyd yn y 17eg, 18fed a 19eg ganrif yn ymddangos yn yr arddangosfa.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tîm y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu wedi bod yn buddsoddi mewn adnoddau digidol newydd gan gynnwys tanysgrifio i Box of Broadcasts. Caiff myfyrwyr ac aelodau staff y Drindod Dewi Sant fynediad iddo a chreu rhestrau chwarae o sioeau Teledu, Ffilmiau a sioeau Radio sydd wedi cael eu darlledu ar deledu Prydeinig.
Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, caiff rhestr chwarae Box of Broadcasts ar gyfer y Drindod Dewi Sant ei rhyddhau gyda rhaglenni a ffilmiau a fydd o ddiddordeb i’r rheini sy’n awyddus i ddysgu am Hanes Pobl Dduon a’i ddathlu. Caiff y rhestr chwarae ei rhyddhau ar sianeli’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bob tymor, mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn cynnal yr ymgyrch #OffTheShelf a chaiff llyfrau eu gadael o gwmpas y campws i staff a myfyrwyr ddod o hyd iddynt. Pwrpas y llyfrau y dewch o hyd iddynt yw i chi fynd â nhw adref a’u darllen, yn y gobaith y caiff copïau eu trosglwyddo i bobl eraill ac mae hyd yn oed le ymhob llyfr i’r sawl sy’n dod o hyd iddo adael adolygiad. Ar gyfer y tymor hwn, caiff y thema ei seilio ar Fis Hanes Pobl Dduon. Rhoddir cipolwg ar y llyfrau ymlaen llaw ynghyd â chliwiau o ran pryd bydd y tylwyth teg llyfrau’n eu gosod yn eu lle. Cynhelir ymgyrch #OffTheShelf ar bob campws eleni.
Meddai Alison Harding, Pennaeth Gweithredol y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu: “Diben Mis Hanes Pobl Dduon yw cymryd 31 diwrnod allan o 365 i ddathlu’r cyfraniad mae Pobl Dduon Brydeinig wedi’i wneud, ac yn parhau i’w wneud, i’n cenedl. Mae’n gyfle i ddweud bod Hanes Pobl Dduon yn Hanes Prydeinig. Mae gwerthoedd LlAD yn sôn am barch a thegwch, a thrwy nodi Mis Hanes Pobl Dduon rydym yn sicrhau bod ein gweithredoedd yn cefnogi’r gwerthoedd hyn, ac yn cydnabod ar yr un pryd fod llawer o waith gennym i’w wneud o hyd i sicrhau bod pob llais a stori yn cael eu hadlewyrchu yn ein casgliadau a’n gwasanaethau ehangach.”
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y digwyddiadau hyn, ewch i wefan y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu a’i sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.
Nodyn i'r Golygydd
Credyd Llun:
(Edwards, Bryan (1801). The history, civil and commercial, of the British colonies in the West Indies etc)
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476