Gwerthusiad o’r gwasanaeth/prosiect clinigol newydd i archwilio effaith technoleg biodrydanol NuroKor ar gleifion osteoarthritis sy’n aros am lawdriniaeth i osod pen-glin newydd
20.10.2021
Bydd prosiect clinigol newydd, arloesol i archwilio effaith defnyddio technoleg biodrydanol ar gyfer rheoli poen cleifion sy’n aros am lawdriniaeth i osod pen-glin newydd, yn cael ei lansio y mis Hydref hwn.
- Bydd y prosiect yn asesu’r defnydd o dechnoleg flaengar ar gyfer hunanreoli poen cronig
- NuroKor yn agor canolfan Ymchwil a Datblygu yng Nghaerdydd fel rhan o’r rhaglen
- Bydd prosiect ar y cyd yn asesu triniaethau poen amgen ar gyfer cleifion
Mae’r prosiect chwe mis yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (UWTSD), y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC), y Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (TriTech) a’r arloeswyr technoleg biodrydanol NuroKor BioElectronics.
Mae’n cael ei gefnogi gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru drwy raglen Cyflymu, sef rhaglen gwerth £24 miliwn sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru. Bydd y prosiect yn adolygu effeithiolrwydd a manteision economaidd iechyd posibl therapi electronig fferyllol NuroKor o ran rheoli cleifion sy’n dioddef osteoarthritis y pen-glin.
Mae’r dechnoleg mae modd ei gwisgo yn ysgogi’r nerfau drwy ddull biodrydanol i leddfu poen cleifion a’u helpu i wella ac adsefydlu.
Ers y pandemig, mae mwy nag erioed ar restrau aros y GIG am lawdriniaethau, gyda rhai cleifion yn aros am fwy na dwy flynedd.[1],[2] Ar hyn o bryd, dim ond opsiynau rheoli poen traddodiadol, fel meddyginiaeth a ffisiotherapi sydd gan bobl sy’n aros am ben-glin newydd a llawdriniaethau eraill. Gallai dyfais mediliev Rx NuroKor gyflwyno opsiwn rheoli poen amgen ac effeithiol i wella ansawdd bywyd pobl sy’n aros am driniaeth feddygol.
Fel rhan o’r prosiect, bydd ATiC yn gweithio gyda NuroKor i ganfod a diffinio anghenion a phrofiadau pobl sy’n byw gydag osteoarthritis sy’n aros am lawdriniaeth i osod pen-glin newydd. Bydd profiad defnyddwyr a defnyddioldeb y mediliev Rx presennol yn cael ei werthuso er mwyn i NuroKor gael gwybodaeth ynghylch a ellir ei ddefnyddio i ddatblygu technolegau electrotherapi newydd.
Bydd TriTech yn canolbwyntio ar asesu manteision posibl y dechnoleg bresennol ac unrhyw gynnyrch bioelectroneg sy’n dod i’r amlwg i gleifion a’r gwasanaeth iechyd, ar gyfer hunanreoli poen cronig, yn ogystal â’r effaith ar ansawdd bywyd, symudedd ac iechyd meddwl.
Meddai Rick Rowan, Prif Weithredwr a Sylfaenydd NuroKor BioElectronics: “Mae lansio’r cydweithrediad hwn yn ddigwyddiad hynod gyffrous ac yn cynnig dewis amgen i bobl sy’n wynebu amseroedd aros hirach am lawdriniaeth. Mae’n dod â gweithwyr proffesiynol, peirianwyr, gwyddonwyr ac ymchwilwyr meddygol at ei gilydd. Mae’r astudiaeth yn brosiect allweddol i NuroKor, wrth i ni barhau i ddangos sut mae niwromodwleiddio anymwthiol yn cynnig ateb i bobl sy’n dioddef poen a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ar yr un pryd â gwella effeithlonrwydd ac arbedion ar gyfer systemau gofal iechyd dan bwysau.”
Dywedodd Dr Sean Jenkins, Athro Cyswllt a Phrif Gymrawd Arloesi ATiC, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Mae’r prosiect newydd cyffrous hwn yn enghraifft ragorol o gydweithio teiran rhwng y sectorau menter breifat, prifysgolion ac iechyd, gyda chefnogaeth y rhaglen Cyflymu a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Rydyn ni’n arbennig o falch o gydweithio â Sefydliad TriTech newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu gwasanaeth byd go iawn a gwerthuso defnyddioldeb.
“Bydd canlyniadau disgwyliedig y gwerthusiad hwn yn cael effaith sylweddol ar drin poen cronig drwy helpu pobl i hunanreoli symptomau gartref, gan arwain at fanteision iechyd economaidd hirdymor i’r GIG.”
Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth TriTech a Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae gennym bartneriaeth arbennig gydag ATiC a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio â NuroKor er mwyn archwilio effaith y dechnoleg hon ar ein cleifion osteoarthritis sy’n aros am lawdriniaeth i gael pen-glin newydd.”
Dywedodd Gareth Healey, Pennaeth Cyflymu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn fod rhaglen Cyflymu yn cefnogi NuroKor drwy helpu i feithrin cydweithio ar draws sectorau. Mae prosiectau aml-bartner fel hwn yn allweddol ar gyfer ymchwilio i’r manteision posibl o ran iechyd a lles i gleifion a’r manteision economaidd i’n systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael partneriaeth barhaus gyda NuroKor, ATiC, a TriTech wrth i ni edrych ar gyfleoedd cydweithredol yn y dyfodol.”
Mae NuroKor wedi agor canolfan ymchwil a datblygu yn Tramshed Tech, yng Nghaerdydd – canolfan ar gyfer busnesau newydd, busnesau bach a mentrau mawr yn y byd technoleg – fel rhan o’r rhaglen.
Nodyn i'r Golygydd
[1] https://www.rcseng.ac.uk/news-and-events/media-centre/press-releases/waiting-times-may-2021/
[2] https://ifs.org.uk/publications/15557
Gwybodaeth am NuroKor
Mae NuroKor, a sefydlwyd yn 2018, yn gwmni sydd wedi ymrwymo i ddatblygu bioelectroneg fel technoleg electronig fferyllol. Mae NuroKor yn datblygu ac yn llunio meddalwedd bioelectroneg y mae modd ei raglennu ar gyfer rhaglenni clinigol a therapiwtig, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau hawdd eu defnyddio y gellir eu gwisgo. Mae’n darparu cynnyrch o’r safon orau, sy’n cael eu rheoleiddio’n feddygol, gan helpu i leddfu poenau unigolion a helpu cleifion i wella ac adsefydlu.
Gwybodaeth am Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ganolfan ymchwil integredig sy’n rhoi dulliau arloesi strategol a syniadau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar waith drwy ei chyfleuster ymchwil Profiad Defnyddiwr (UX) a Gwerthuso Defnyddioldeb sydd wedi’i leoli yn Ardal Arloesi Abertawe.
Mae ATiC yn bartner ym mhrosiect Cyflymu Cymru (Cyflymu Technoleg Arloesi Iechyd Cymru) sy’n werth £24m. Mae’r cydweithio ar gyfer Cyflymu, rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyflymydd Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Ewch i: https://www.uwtsd.ac.uk/atic/
Gwybodaeth am Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Mae Sefydliad TriTech yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu atebion gofal iechyd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang, gan gynnig un pwynt mynediad i’r GIG i ddylunwyr a gweithgynhyrchwyr drwy ddull cydweithredol ac ystwyth.
Mae’r tîm yn cynnwys peirianwyr, gwyddonwyr a chlinigwyr blaenllaw yn y diwydiant sy’n symud technolegau meddygol arloesol yn gyflym i dreialon a gofal uniongyrchol i gleifion. Mae sgiliau uwch y tîm ym maes dylunio clinigol ac ymchwil yn cael eu cyfuno ag arbenigedd peirianyddol technegol i reoli’r llwybr arloesol cyfan o angen sydd heb ei ddiwallu’n gynnar, i ddylunio cysyniadau, creu prototeipiau, cynnal profion clinigol a gwerthuso gwasanaethau yn y byd go iawn.
Mae’r sefydliad wedi’i wreiddio yn y GIG, ac mae ei wasanaeth ymgynghori arloesol wedi cefnogi amrywiaeth o gwsmeriaid, gan amrywio o gwmnïau technoleg gofal iechyd byd-eang i wasanaethau marcio cyn-CE. Gall tîm TriTech gefnogi amrywiaeth eang o atebion – o gamau ymchwil a datblygu cychwynnol meddalwedd neu ddyfais feddygol newydd i gefnogi busnesau bach a chanolig a busnesau newydd gyda chyngor ar gydymffurfio â rheoliadau. Ewch i: https://tritech.nhs.wales/
Gwybodaeth am y Rhaglen Cyflymu
Mae Cyflymu yn gydweithrediad blaengar rhwng prifysgolion Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae’n helpu i droi syniadau arloesol yn gynhyrchion a gwasanaethau newydd i wella iechyd a lles y bobl sy’n byw yng Nghymru.
Mae’r rhaglen Cyflymu yn cynnig arbenigedd ymchwil, datblygu ac arloesi pwrpasol i fentrau er mwyn mireinio a dilysu eu hatebion gofal iechyd a chyflymu eu cyflwyno i’r sector iechyd yng Nghymru er mwyn sicrhau budd economaidd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://lshubwales.com/cy/cefnogi-arloesi/rhaglen-cyflymu