Gwobrau Nyrs y Flwyddyn 2021
11.05.2021
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi gwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru er mwyn cydnabod nyrsys sy’n arddangos arloesi a rhagoriaeth mewn arfer, ac arddangos eu cyflawniadau i’r teulu nyrsio yng Nghymru.
Mae Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Drindod Dewi Sant yn noddi’r wobr ar gyfer Gofal Pobl Hŷn, sy’n cyd-fynd â’r gwaith y mae Canolfan Iechyd a Heneiddio’r Brifysgol yn ei wneud i hyrwyddo a gwella iechyd a ffitrwydd mewn pobl dros 50 oed.
Mae’r Ganolfan yn adeiladu ar ymchwil o fri rhyngwladol gan Dr Peter Herbert ac mae’n datblygu rhaglenni ymarfer corff ac iechyd sy’n cydnabod ein hanghenion newidiol wrth i ni heneiddio.
Beth bynnag oedd eu lefelau ffitrwydd neu iechyd blaenorol, mae dros 95% o’r rhai sydd wedi cymryd rhan wedi gwella eu statws ffitrwydd presennol.
Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd: “Mae’n bleser mawr gennym noddi gwobr Gofal Pobl Hŷn sy’n cyd-fynd â’r gwaith ffantastig sy’n cael ei wneud yng Nghanolfan Iechyd a Heneiddio’r Brifysgol yn ogystal â’r ymchwil o safon fyd-eang i heneiddio ac ymarfer corff a gynhyrchwyd o fewn Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol yn y Brifysgol. Mae ein rhaglenni’n cefnogi ac yn gwella ansawdd bywyd drwy fynd i’r afael â’r anghenion unigryw sy’n gysylltiedig â gweithgarwch corfforol yng nghanol ac yn hwyrach mewn bywyd, gan sicrhau y gall pob un ohonom ni fwynhau bywydau egnïol ac iach ar hyd ein hoes.”
Meddai Helen Whyley, Cyfarwyddwr, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru: “Ar ôl i’r gwobrau gael eu canslo llynedd, rydym ni wrth ein boddau i weld y gwobrau’n dychwelyd yn 2021. Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at rôl nyrsio ar draws y byd i gyd. Ond mae rhai o’r goreuon gennym ni yma yng Nghymru. Wrth gwrs mae COVID-19 wedi cyflwyno llawer o heriau digynsail i bawb, ond ni fydd eleni’n ein rhwystro rhag anrhydeddu gwaith anhygoel nyrsys proffesiynol.
“Mae’r heriau y mae nyrsys wedi eu hwynebu rhwng ein gwobrau diwethaf a’r gwobrau hyn yn anodd eu dychmygu i lawer sydd tu allan i’r proffesiwn. Dyna pam mae angen i ni roi teyrnged iddyn nhw nawr.”
Meddai Richard Jones MBE, Cadeirydd Bwrdd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru: “Mae’r gwobrau hyn yn nodedig iawn, gan gydnabod safonau eithriadol ym maes nyrsio. Dros y blynyddoedd rydym wedi derbyn cannoedd o enwebiadau sy’n dangos y sgiliau a’r arbenigedd y mae gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn eu harfer yn ddyddiol. Mae pob un yn adlewyrchu cyd-ymrwymiad i’w cleifion ac i nyrsio, pa flwyddyn bynnag a pha sefyllfa bynnag maent yn ei hwynebu. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae COVID-19 wedi cael effaith ddwys iawn ar y proffesiwn. Bydd pawb ar y rhestr fer wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn yn wyneb adfyd mawr.”
Nodyn i'r Golygydd
Canolfan Iechyd a Heneiddio’r Drindod Dewi Sant
Agorwyd y Ganolfan yn 2016 fel ymateb uniongyrchol i’r diddordeb aruthrol gan y cyfryngau ac aelodau’r cyhoedd yng ngwaith ymchwil Dr Peter Herbert o’r Drindod Dewi Sant. Mae Dr Herbert yn awdurdod blaenllaw ar ffitrwydd yn y genhedlaeth hŷn. Edrychodd ei PhD ar ddulliau o hyfforddi ar gyfer dynion hŷn, gan brofi y gall sesiynau byrrach, caletach wedi’u dilyn gan gyfnodau adfer hirach gael canlyniadau positif ar eu lefelau ffitrwydd. Hefyd, mae’n deall y gall math mwy cymedrol o ymarfer corff gynnig opsiwn amgen i wella iechyd a ffitrwydd.
Fel ffisiolegydd tra phrofiadol, mae gan Dr Peter Herbert gyfoeth o wybodaeth a phrofiad o weithio gyda phobl chwaraeon o bob oed ac o ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys rygbi, bocsio a seiclo. Yn gyn hyfforddwr Cryfder a Chyflyru gyda’r Scarlets a thîm rygbi cenedlaethol Cymru, mae Dr Herbert hefyd yn seiclwr hynod o lwyddiannus, ac wedi ennill medal efydd ym Mhencampwriaeth Meistri Seiclo Trac y Byd yn 73 mlwydd oed.
Nod y Ganolfan yw datblygu cysylltiadau cryf gyda’r gymuned leol drwy ddod â grwpiau at ei gilydd sydd ag anghenion iechyd ac ymarfer corff tebyg i gymdeithasu yn ogystal ag i wella eu lles. Mae hefyd yn ganolfan ymchwil sy’n edrych ar y modd y gellir defnyddio ymarfer corff i wella iechyd a ffitrwydd mewn pobl hŷn.
Gwobrau Nyrs y Flwyddyn
Mae modd i gydweithwyr, timau, rheolwyr, cleifion a’r cyhoedd enwebu nyrsys. Rhaid i nyrsys, bydwragedd, myfyrwyr nyrsio a gweithwyr cymorth gofal iechyd a enwebir arddangos brwdfrydedd am eu proffesiwn ac amlygu rhagoriaeth o ran gofal, arweinyddiaeth, gwasanaeth ac arloesi. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan baneli beirniaid am gyfanswm o 18 gwobr (gan gynnwys Nyrs y Flwyddyn Cymru). Mae’r paneli’n cynnwys arweinwyr ac arbenigwyr nyrsio nodedig o faes arfer ac ymchwil. Yn ogystal â bri ennill gwobr gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru, mae tlysau a gwobrau ariannol hefyd ar gael i’w hennill. Caiff enillydd y brif wobr ei enwi’n ‘Nyrs y Flwyddyn Cymru 2021’ gan dderbyn gwobr arbennig am yr anrhydedd.
Mae ffurflenni enwebu ar-lein ar gael ar dudalen Gwobrau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Dyddiad cau derbyn enwebiadau yw dydd Mercher 30 Mehefin 2021. Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 10 Tachwedd 2021.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk