Hwb Y Drindod yn arddangos y rhinweddau y mae graddedigion creadigol yn dod â nhw i’r gweithle
05.05.2021
Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad ar-lein gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) i amlygu’r gwerth y mae graddedigion creadigol yn ei roi i’r gweithle.
Cafodd y gweminar, o’r enw “Llywio arloesedd mewn cyfnod o newid: Sut y gall graddedigion helpu a beth y gallent ei wneud?” ei gynnal ar 27 Ebrill, a’i drefnu drwy Hwb Entrepreneuriaeth y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHEH).
Daw’r prosiect AHEH tair blynedd, a ariennir ar y cyd gan Raglen Erasmus+ yr UE, ag 14 partner o saith o wledydd at ei gilydd i gyd-ymchwilio, datblygu a chynnal cynllun peilot o hyfforddiant gyda’r nod pennaf o wella gallu entrepreneuraidd myfyrwyr y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Rhoddodd yr Athro Emeritws Andy Penaluna o’r Drindod, a ddatblygodd Athrofa Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol Rhyngwladol (IICED) y Brifysgol gyflwyniad ysbrydoledig, yn ffocysu ar rinweddau unigryw graddedigion creadigol ac archwilio i sut y gallent gyfrannu at lwyddiant busnes.
Gan siarad ar ôl y digwyddiad, meddai: “Daw’r prosiect AHEH ag ymagwedd ffres at ddatblygu rhaglen hyfforddi entrepreneuriaeth ar gyfer y Celfyddydau a’r Dyniaethau wedi’i deilwra, sy’n gwella rhagolygon entrepreneuraidd hir dymor ein myfyrwyr.
“Manteisiodd ac adfyfyriodd y digwyddiad hwn ar fwy na 35 blynedd o brofiad a rhagoriaeth wrth baratoi ein myfyrwyr creadigol at gyfleoedd gwaith arloesol, lle mae meddwl ymlaen yn allu allweddol a llywio newid yw’r norm.
Ychwanegodd Kathryn Penaluna, Athro Cysylltiol mewn Addysg Fenter: “Mae gan Y Drindod hanes clodwiw o alluogi cychwyn busnesau newydd, ond mae hynny’n fwy fyth o ystyried gallu busnesau graddedigion i oroesi.
“Mae un peth allweddol y mae addysgwyr wedi’i ddysgu gan eu rhwydweithiau cyn-fyfyrwyr helaeth – yn syml, mae dod yn ymarferydd creadigol ymaddasol yn allweddol os am lwyddo.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.artshumanitieshub.eu/.
Nodyn i'r Golygydd
- IICED – Ynghyd â 32 o arbenigwyr o bob cwr o’r byd, datblygodd Athro Emeritws Andy Penaluna Athrofa Datblygu Entrepreneuraidd Creadigol Rhyngwladol Y Drindod. Mae Canolfan Ymchwil a r y cyd yr UE wedi galw ar ei arbenigedd a’i brofiad, ac fe helpodd i ddatblygu’r fframwaith EntreComp a ddefnyddir yn y gyfres hon. Hefyd, mae’r Cenhedloedd Unedig a’r OECD hefyd wedi galw ar ei arbenigedd, ac yn ei fentrau busnes rhyngwladol ei hun, mae meddwl creadigol wedi arwain y ffordd. Ewch i https://www.uwtsd.ac.uk/iiced/.
Gwybodaeth Bellach
Bethan Evans
Swyddog Prosiect ATiC, Marchnata a Chyfathrebu | ATiC Project Officer, Marketing and Communications
Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (AGChC) | Wales Institute of Science & Art (WISA)
Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (CATC) | Assistive Technologies Innovation Centre (ATiC)
PCYDDS | UWTSD
Technium 1 | Technium 1
Heol y Brenin | King’s Road
Abertawe | Swansea
SA1 8PH | SA1 8PH
Ebost | Email bethan.evans@uwtsd.ac.uk