Hyb Crefftau rhyngwladol newydd a ysbrydolir gan dreftadaeth, creadigrwydd, a chysylltedd
23.04.2021
Bu staff academaidd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl ganolog mewn cynhadledd ryngwladol yr wythnos yma i lansio prosiect newydd Ewropeaidd y Craft Hub .
Mae Prosiect y Craft Hub yn cael ei gyd-gyllido gan Raglen Ewrop Greadigol ac mae’n canolbwyntio ar Grefft yng nghyd-destun treftadaeth ddiwylliannol a’i pherthnasedd parhaus mewn arfer cyfoes. Mae’r Drindod Dewi Sant yn un o naw partner a sefydlodd y prosiect.
Mae diddordebau ymchwil Shelley Doolan, Uwch Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant, yn canolbwyntio ar arfer gwneud gwydr a rôl technoleg o fewn arfer Crefft. Ymunodd Shelley ag ymarferwyr crefft, ymchwilwyr ac academyddion o Iwerddon, Norwy, Denmarc, yr Alban, Gwlad Groeg, yr Eidal a Phortiwgal am y digwyddiad rhithwir.
Roedd sesiwn y panel yn y gynhadledd hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan gydweithwyr ar y rhaglen radd Crefftau Dylunio yn y Drindod Dewi Sant, sef Catherine Brown ac Anna Lewis, darlithwyr yn y Celfyddydau Cymhwysol, a’r cyflwyniadau’n ymwneud â beth sy’n eu hysbrydoli nhw yn eu proses greadigol eu hun. Trafododd y panel y broses greadigol gyda chyfranogwyr y gynhadledd drwy sesiwn holi ac ateb, gan rannu hefyd y cyngor y byddent yn ei roi i bobl eraill.
Cynhaliwyd y gynhadledd ryngweithiol i lansio’r prosiect ar 21 Ebrill gan ddenu mwy na 250 o gyfranogwyr. Roedd yn canolbwyntio ar dri philer o ran rhannu arfer gorau a chyngor ymarferol, sef creadigrwydd, treftadaeth a chysylltedd, a rhoddwyd gwybod i gyfranogwyr sut gallant gymryd rhan weithredol yn y Craft Hub a chael budd ohono.
Bydd gweithgareddau’r Craft Hub yn ymwneud ag ymchwilio i sgiliau a phrosesau crefft a’u cofnodi; y gwahaniaethau o ran eu cymhwyso mewn arfer creadigol ar draws Ewrop; a chwestiynau ynghylch penodolrwydd diwylliannol, a symbyliadau unigol ymarferwyr.
Meddai Shelley Doolan: “Yn fwy na dim deilliodd prosiect y Craft Hub o gariad at Grefft, materoliaeth a gwneud, ac mae wedi bod yn uchelgais hirdymor. Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn bartner yn y rhaglen ryngwladol gyffrous hon, sy’n caniatáu i ni rannu ein brwdfrydedd ynghylch cyflwyno’r ddisgyblaeth ryfeddol hon i gynulleidfaoedd newydd, gan annog cyfranogiad gweithredol ac arloesi.
“Mae crefft yn gynhenid i’r bywyd dynol a thrwy arteffactau hynafol sydd wedi’u crefftio rydym yn dadorchuddio straeon am y fodolaeth ddynol. Gall gwneuthurwyr cyfoes dynnu ar y dreftadaeth gyfoethog hon, ar y cyd ag agwedd ymholgar, arbrofol ac arloesol.
“Bydd y prosiect yn archwilio dulliau o gofnodi, diogelu a chyfleu’r wybodaeth sydd ynghlwm â Chrefft, er mwyn cofnodi ac adlewyrchu’r agweddau anniriaethol a diriaethol ar Grefft er mwyn ysbrydoli arloesi a chreu gwaith newydd.
“Gwneuthurwr gwydr ydw i ac rwy’n gweithio gryn dipyn gyda’r dechneg bwrw colli cwyr. Mae rhywbeth gwefreiddiol ynghylch defnyddio proses sy’n ymestyn mor bell yn ôl i’n hanes, ac eto mae’n dal i gynnig cyfle ar gyfer arloesi ac ymchwil.
“I raddau helaeth iawn yr ymdeimlad hwnnw o drawsffrwythloni rhwng llunwyr syniadau, prosesau a deunyddiau y bydd y Craft Hub yn ei gefnogi a’i ysbrydoli.”
Ychwanegodd Pete Spring, Cyfarwyddwr Portffolio Academaidd y Diwydiannau Dylunio a Pherfformio, Coleg Celf Abertawe a Chaerfyrddin Greadigol, Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru yn y Drindod Dewi Sant: “Mae Coleg Celf Abertawe yn ymfalchïo yn y rhaglen Crefftau Dylunio sy’n ychwanegiad aruthrol a gwerthfawr at y portffolio o raglenni creadigol.
“Mae crefftau a’r ddealltwriaeth unigryw a’r trin arloesol ar brosesau drwy eu gwybodaeth am ddeunyddiau yn amlygu natur synergaidd creadigrwydd.
“Mae’r ddirnadaeth y mae’r staff a’r myfyrwyr yn ei hamlygu a nodweddion y deunyddiau a’r gwrthrychau maen nhw’n eu creu ynddynt eu hun yn ffurf ar ddylunio drwy brofiadau ac rydym i gyd yn gyfoethocach o’u herwydd.”
Cefnogir rhaglen gynhwysfawr prosiect y Craft Hub gan 42 cyfnod preswyl trawswladol i wneuthurwyr, 305 diwrnod o waith estyn allan, gŵyl, saith arddangosfa, a dwy gynhadledd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.crafthub.eu/
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Crefftau Dylunio gan Goleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant, ewch i https://www.uwtsd.ac.uk/cy/cyfadran-celf-a-dylunio/crefftau-dylunio/
Mae prosiect y Craft Hub yn un o nifer o brosiectau Ewropeaidd aml-bartner â ffocws ar y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol y mae’r Drindod Dewi Sant yn bartner ynddynt. Mae’r prosiectau cysylltiedig yn cynnwys prosiect Hybiau'r Celfyddydau a'r Dyniaethau a phrosiect yr UE yr Open Design School DeuS.
Gwybodaeth Bellach
Bethan Evans
Swyddog Prosiect ATiC, Marchnata a Chyfathrebu | ATiC Project Officer, Marketing and Communications
Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (AGChC) | Wales Institute of Science & Art (WISA)
Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (CATC) | Assistive Technologies Innovation Centre (ATiC)
PCYDDS | UWTSD
Technium 1 | Technium 1
Heol y Brenin | King’s Road
Abertawe | Swansea
SA1 8PH | SA1 8PH
Ebost | Email bethan.evans@uwtsd.ac.uk