Llywio Arloesedd ar Adeg o Newid: Sut gall Graddedigion Creadigol Helpu?
20.04.2021
Mae'r Athro Emeritws yn Y Drindod Dewi Sant, Andy Penaluna, a Kathryn Penaluna, Athro Cysylltiol mewn Addysg Fentergarwch, yn cynnal digwyddiad bord gron i drafod ffyrdd o gynyddu’r manteision o gyflogi graddedigion creadigol ac archwilio sut y gallant helpu.
Mae’r digwyddiad ar-lein wedi ei drefnu gan Hwb Menter y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHEH) o dan y teitl: 'Llywio arloesedd ar adeg o newid: Sut gall graddedigion creadigol helpu a beth y gallant ei wneud?' ac fe’i cynhelir ddydd Mawrth, 27 Ebrill rhwng 10a.m. a 12p.m.
Mae'r sesiwn yn seiliedig ar dros 35 mlynedd o brofiad o baratoi myfyrwyr creadigol ar gyfer cyfleoedd gwaith mentrus, lle mae gallu meddwl ymlaen yn gaffaeliad a llywio trwy newid yw'r norm. Mae gan Y Drindod Dewi Sant hanes clodwiw o fusnesau newydd, ac yn fwy byth o ran busnesau graddedigion sydd wedi goroesi. Mae addysgwyr wedi dysgu un peth allweddol gan eu rhwydweithiau cyn-fyfyrwyr helaeth – yn ei grynswth, mae dod yn berson creadigol sy’n gallu addasu yn allweddol i lwyddiant.
Ynghyd â 32 o arbenigwyr o bob cwr o'r byd, datblygodd yr Athro Andy Penaluna’r Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol yn Y Drindod Dewi Sant. Mae Cydganolfan Ymchwil yr UE wedi elwa ar ei arbenigedd a'i brofiad, pan helpodd i ddatblygu'r Fframwaith EntreComp a ddefnyddir yn y gyfres hon. Mae'r Cenhedloedd Unedig a'r OECD hefyd wedi galw ar ei arbenigedd, ac yn ei fentrau busnes rhyngwladol ei hun, mae meddwl yn greadigol wedi arwain y ffordd.
Mae'r prosiect AHEH yn dwyn ynghyd 14 o bartneriaid o bob cwr o 7 o aelod-wladwriaethau'r UE i wella gallu entrepreneuraidd myfyrwyr y celfyddydau a’r Dyniaethau trwy raglen arloesol o hyfforddiant entrepreneuraidd.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma: https://www.eventbrite.ie/e/navigating-innovation-in-times-of-change-how-can-creative-graduates-help-tickets-138757163411
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk