‘Mae pawb yn Haeddu Nadolig’
30.11.2021
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Saint David yn cefnogi'r ymgyrch flynyddol 'Mae pawb yn haeddu Nadolig', sy'n cael ei lansio heddiw (Tachwedd 30) gyda sengl fideo, O Little Town of Bethlehem.
Mae’r fideo yn cynnwys deuawd gan Athro Ymarfer a Chymrawd Anrhydeddus y brifysgol, Mal Pope a Steve Balsamo, sydd hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus.
Mae’r ymgyrch flynyddol ‘Mae pawb yn haeddu Nadolig’ yn rhoi hwyl Nadoligaidd i’r sawl hynny sydd angen help llaw yn y gymuned leol.
Eleni, gyda chymorth cymunedol, nod yr ymgyrch yw creu 800 hamperi bwyd gwerth £50 sy’n cynnwys eitemau megis caws, cig, llysiau, pwdinau, siocled, a chraceri. Bydd tîm mawr o wirfoddolwyr yn prynu, pacio, a danfon y hamperi yn y dyddiau yn arwain at y Nadolig.
Mae Ymddiriedolaeth CPD Dinas Abertawe a’r Gweilch yn y Gymuned yn gweithio gyda Carolyn Harris AS, Julie James AS, y South Wales Evening Post, Cyngor Abertawe, Bay Studios, Amazon, a busnesau lleol, er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.
Dywedodd yr Athro Ian Walsh: “Mae’r brifysgol yn falch o gefnogi’r fenter werth chweil hon i gefnogi ein cymuned leol a dod ag ychydig o hwyl y Nadolig i’r ddinas.”
Dywedodd yr Athro Mal Pope: “Dylai’r Nadolig fod yn gyfnod o lawenydd ac o roi. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod pawb yn cael y Nadolig llawen y maent yn ei haeddu.
“Dechreuodd y cyfan ychydig flynyddoedd yn ôl gydag ychydig o ffrindiau yn pacio hamperi ar fwrdd cegin Carolyn Harris ond bellach mae wedi datblygu i fod yn ddathliad ledled y ddinas o ysbryd y Nadolig lle bydd hyd at 1000 o deuluoedd yn elwa ac yn derbyn hamperi ac anrhegion.”
Yn ddiweddar, enwyd Carolyn Harris AS yn Ymgyrchydd y Flwyddyn yng Ngwobrau blynyddol y Spectator.
Mae’r fersiwn hon o’r garol enwog hefyd yn cynnwys lleisiau Côr Theatr Ieuenctid Harry's Abertawe a Band Byddin yr Iachawdwriaeth Treforys.
Mae'r fideo yn dechrau gyda monolog agoriadol gan Michael Sheen, enillydd BAFTA a Chymrawd Anrhydeddus y brifysgol ac yn gorffen gyda neges arbennig gan yr enillydd OSCAR, Catherine Zeta Jones. Mae hefyd yn cynnwys ymddangosiadau gan Davina McCall, Max Boyce, Elis James, Penny Lancaster a Bonnie Tyler.
Cafodd y fideo ei Chyfarwyddo gan y Dylunydd Cynhyrchu arobryn BAFTA, Edward Thomas, sydd hefyd yn Athro Ymarfer yn y brifysgol. Dychwelodd i Abertawe yn ddiweddar yn dilyn blwyddyn ym Malta yn dylunio Ffilm newydd gan Steven Spielberg.
Nodyn i'r Golygydd
Yn ogystal â gwahodd pawb i lawrlwytho a ffrydio'r sengl, mae'r fideo ar gael yn rhad ac am ddim i grwpiau ei ddefnyddio dros yr ŵyl. Gellir rhoi rhoddion yma:
https://justgiving.com/campaign/hampers2021
DOLENNI I LAWRLWYTHO
https://distrokid.com/hyperfollow/malpope/christmas-with-the-pope
DOLEN YOUTUBE
Cymerwyd y sengl o’r albwm ‘Christmas with the Pope’ ac mae ar gael i’w ffrydio a’i lawrlwytho o bob safle ffrydio gan gynnwys Spotify, iTunes, ac Amazon Music. Bydd y CD ar gael o siopau dethol neu drwy archeb bost. Manylion www.malpope.com
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk