‘Mae’n fraint gallu newid bywydau ifanc’ – y chwiorydd sy’n addysgu yn yr un ysgol
28.09.2021
I Lauren Slye doedd dim amheuaeth o gwbl yn ei meddwl beth oedd hi eisiau bod – o oedran ifanc iawn. A hithau wedi’i hysbrydoli gan ei hathrawon yn Ysgol Babanod North Road ac yna yn Ysgol Gyfun Ferndale, dywed Lauren mai ei thynged bob amser oedd mynd yn athrawes.
“Roeddwn i’n gwybod yn union beth oeddwn i eisiau bod wedi i mi gael fy ysbrydoli gan rai o’r athrawon gorau wrth i mi dyfu i fyny,” meddai.
“Rhoddon nhw’n hyder a’r wybodaeth i mi i lwyddo, ac roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gallu gwneud yr un peth.
“Ar ôl gorffen fy ngradd, ymunais i â’r garfan TAR yn y Drindod Dewi Sant i gwblhau’r daith honno.
“Roedd y cwrs, y darlithwyr gwych a fu’n fy nghefnogi drwy gydol yr amser, a’r lleoliadau mewn ysgolion partner a’m galluogodd i roi ar waith yr hyn roeddwn yn ei ddysgu, yn amhrisiadwy.
“Yn ogystal, mae’r ffrindiau wnes i wedi helpu i gadarnhau mai dyma yw’r yrfa i mi ac rwy mor falch i fod ble rydw i nawr, yn addysgu Addysg Grefyddol i’m dosbarthiadau fy hun.”
Mae chwaer Lauren, Charlotte, sydd ychydig flynyddoedd yn iau, hefyd wedi dewis gyrfa mewn addysg.
“Roedden ni’n gystadleuol iawn pan oeddem ni’n tyfu i fyny,” meddai Lauren. “Roedd pawb yn yr ysgol a’n teulu yn sôn am hyn. Ond nawr, a ninnau’n dysgu yn yr un ysgol, Ysgol Uwchradd Treorci, rydyn ni’n gallu helpu a chefnogi ein gilydd. Ac mae hynny’n wych.”
Y chwiorydd yw’r cyntaf yn eu teulu i astudio yn y brifysgol ac yn ôl Lauren mae ei rhieni mor falch ohonynt.
“Wrth dyfu i fyny cawsom ein hannog gan ein rhieni i gymryd rhan mewn nifer o glybiau chwaraeon, yn yr ysgol a’r tu allan iddi, ac mae’r ddwy ohonom wedi gallu mynd â’r angerdd hwnnw am chwaraeon i’n hystafelloedd dosbarth,” ychwanegodd.
“Mae’n gymaint o fraint gallu rhoi ffurf i fywydau ifanc a’u hysbrydoli i gyflawni pethau gwych. Ac mae’n fwy o fraint fyth i allu rhannu hyn i gyd gyda’m chwaer yn ogystal.
“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried addysgu fel proffesiwn fyddai ‘ewch amdani’. Mae’n rhoi cymaint o foddhad. Mae hefyd yn bwysig bod wrth eich bodd â’r hyn rydych chi’n ei wneud gan ei fod yn helpu ysbrydoli pobl ifanc ymhellach. Mae bod yn rhan o rwydwaith partneriaeth ysgolion y Brifysgol yn golygu eich bod yn cael eich cefnogi gan arbenigwyr ar hyd yr amser ac mae hynny’n helpu meithrin eich hyder hefyd, yn barod i gymryd eich lle yn eich ystafell ddosbarth eich hun.”
Os hoffech wybod sut y gallwch ddod â’ch angerdd unigol i swydd addysgu, ewch i’n gwefan i ddysgu rhagor.
Dyma lun o Lauren a Charlotte ar eu diwrnod cyntaf yn yr ysgol fel disgyblion ac ar eu diwrnod cyntaf yn addysgu yn yr un ysgol!
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk