Myfyriwr Aeddfed Therapi Chwaraeon yn cychwyn busnes hyfforddiant triathlon a therapi chwaraeon ar ôl ennill gradd dosbarth Cyntaf
15.07.2021
Bu Gareth Jones o Abertawe yn gwasanaethu gyda Byddin Prydain am nifer o flynyddoedd. Ar ôl gorffen ei wasanaeth, dychwelodd i Abertawe i fyw’n barhaol a gweithio fel hyfforddwr personol. Mae bob amser wedi ymddiddori mewn anafiadau’n gysylltiedig â chwaraeon, felly penderfynodd astudio BSc Therapi Chwaraeon yn y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin.
Ac yntau wedi gweithio fel hyfforddwr personol o’r blaen, roedd Gareth yn chwilio am rywbeth mwy heriol. “Roeddwn i eisiau dysgu’n fanwl ynghylch sut mae’r corff dynol yn ymateb i anafiadau, a sut gallwn wella anafiadau drwy adsefydlu. Fi oedd y myfyriwr hwnnw a ofynnodd lawer o gwestiynau, ac roedd pob ateb yn fy llenwi â hyd yn oed fwy o sicrwydd mai dyma’r cwrs a’r proffesiwn yr hoffwn eu dilyn am weddill fy mywyd gwaith.”
Penderfynodd Gareth astudio yn y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin am nifer o resymau; roedd yn ddigon agos iddo deithio o’i gartref yn Abertawe lle mae’n byw gyda’i wraig a 4 o blant. Pan ddaeth Gareth i’r campws am ddiwrnod agored, teimlai na chafodd y fath groeso erioed o’r blaen, felly roedd yn gwybod mai dyma’r lle iddo fynd â’i addysg ymhellach ac ennill ei gymwysterau proffesiynol. Pan esboniwyd y cwrs iddo’n fanwl gan ddarlithwyr y cwrs, hwn oedd yr union beth roedd Gareth yn chwilio amdano i fodloni ei uchelgais i’r dyfodol.
Mae Gareth wedi mwynhau pob agwedd ar y cwrs, ac wedi dysgu sgiliau newydd sydd wedi’i herio i gyrraedd lefel uwch. “Pe bawn i’n rhoi sylw i ychydig o elfennau o’r radd, dywedwn i fod y ffisioleg ymarfer corff yn ddiddorol iawn, a bod y clinig anafiadau chwaraeon a gychwynnwyd gan y Brifysgol yn brofiad gwych ac yn rhoi cipolwg ar fywyd fel therapydd chwaraeon.”
Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr, mae Gareth wedi cael cefnogaeth gan y Brifysgol sydd wedi’i helpu i ddatblygu’n academaidd. “Pan gyrhaeddais i doeddwn i’n gwybod dim o gwbl am fywyd academaidd. Mae’n codi cywilydd arnaf i ddweud fy mod yn gwybod bron dim am ddefnyddio cyfrifiaduron neu ysgrifennu aseiniadau. Roedd pawb o’r adran TG, staff y Brifysgol a darlithwyr y cwrs yno i helpu. Roedd yr adborth manwl yn gymorth mawr iawn wrth symud o flwyddyn i flwyddyn, gan fy helpu i dyfu gyda hyder. Roeddwn i ychydig yn wahanol i fy nghyd-fyfyrwyr, gan mai fi oedd yr unig fyfyriwr â phlant, y mae dau ohonyn nhw ag anabledd drwy awtistiaeth ddifrifol. Roedd darlithwyr y cwrs yn anhygoel o ystyriol o hyn gan roi unrhyw help roedd ei angen arnaf er mwyn i mi gyrraedd fy nod o radd ddosbarth cyntaf. Mae fy natblygiad i’n glod i’r gefnogaeth a’r cymorth a gefais i gan y darlithwyr a staff y Brifysgol, sydd wedi fy helpu i dyfu mewn hyder o flwyddyn i flwyddyn.”
Dywedodd Dylan Blain, Cyfarwyddwr Academaidd Athrofa Rheolaeth ac Iechyd Campws Caerfyrddin: “Mae wedi bod yn hyfryd gweld Gareth yn datblygu ei sgiliau academaidd yn ogystal â’i sgiliau ymarferol gyda ni ym mhortffolio Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored yn Y Drindod Dewi Sant. Mae wedi gweithio’n hynod o galed yn ystod ei gyfnod yma, ac rydym yn falch iawn o’r hyn y mae Gareth a’i gyd-fyfyrwyr wedi’u gyflawni, yn enwedig o gofio’r heriau sydd wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae Gareth wedi elwa’n fawr o bob cyfle, ac rydym yn edrych ymlaen at ddilyn ei daith ynghyd a’r graddedigion eraill yn ei gyrfaoedd.”
Mae Gareth wedi llwyddo i ddechrau busnes hyfforddiant triathlon a therapi chwaraeon yn Abertawe sy’n cynnwys 65 aelod, ac oddeutu 200 o gleifion cyson sy’n ceisio triniaeth reolaidd yn ei glinig anafiadau. Mae’r busnes wedi darparu sefydlogrwydd ariannol ar gyfer Gareth, a’r rhyddid i dreulio mwy o amser o ansawdd gyda’i deulu.
“Hoffwn i ddiolch i’r darlithwyr am fy helpu i gyflawni hyn. Mae’r sgiliau a’r hyder a ddarparwyd gan y modylau wedi fy helpu i gyrraedd statws arbenigwr yn fy maes, gan helpu fy musnes i dyfu’n gyflym. Fy nod i’r dyfodol yw agor 4 clinig anafiadau chwaraeon, ac rwy’n gobeithio ei chyflawni erbyn diwedd 2022. Byddai hyn yn darparu diagnosis a thriniaeth anafiadau o safon aur ar gyfer y cymunedau lleol. Byddwn i’n cynghori unrhyw un sy’n meddwl am newid gyrfa i estyn allan a gwneud ymholiad gyda’r Drindod Dewi Sant. Mae wedi fy helpu i gyflawni cymaint, gan ddarparu sefydlogrwydd a dyfodol disglair ar fy nghyfer.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476