Myfyriwr Dylunio Patrwm Arwyneb Y Drindod yn ennill Gwobr Romo yn New Designers
05.07.2021
Llongyfarchiadau i’r myfyriwr Patrwm Arwyneb a Thecstilau o Goleg Abertawe Y Drindod Lois Davies, a enillodd Wobr Romo ar gyfer Arloesi mewn Dylunio a Lliw yn New Designers 2021.
Mae New Designers yn cynnig llwyfan unigryw i dalentau dylunio ffres gysylltu ag addysgwyr dylunio, gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr, ar gyfer cyfnewid creadigol a chydweithio.
Sail gwaith Lois oedd prosiect o’r enw ‘Hiraeth’ – a helpodd i bortreadu a rhoi cyd-destun i’w hiraeth personol am allu dychwelyd i normalrwydd yn ystod pandemig Coronafeirws.
Dywedodd y beirniaid: “Roedd ymdeimlad Lois o liw a gosod tecstilau mewn haenau’n drawiadol. Roedd ei chysyniad dylunio cryf yn arwain at gasgliad tecstilau oedd yn gynhwysfawr ac wedi’i gyflwyno’n hyfryd.”
Dywedodd Lois: “Wrth ddarllen briff Romo 'Reflection' a gweld sut roedden nhw’n gofyn i ni ystyried beth roedd yr adfyfyrio hwn yn ei olygu i ni, meddyliais ar unwaith am fy nghysyniad prosiect mawr 'Hiraeth'. Mae hwn yn deimlad rydyn ni i gyd wedi’i brofi dros y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi cael amser i feddwl a hiraethu am normalrwydd, a dyna lle daeth y syniad i blethu fy syniadau am y prosiect mawr terfynol ar gyfer y briff.
“Roedd Romo yn pwysleisio ‘arloesi’ yn y briff, a thrwy ddefnyddio’r sgiliau rwyf i wedi’u dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, a’r cyfleusterau sydd ar gael yn y brifysgol, gwthiais y ffiniau ac arbrofi gyda dulliau fel llifo ffabrig, sgrin-brintio, a ffeltio nodwydd, a dyna rwy’n credu arweiniodd yn rhannol at lwyddiant y prosiect.
“Rwyf i wrth fy modd fy mod wedi ennill y wobr; roeddwn i’n llawn cyffro am gael cyfweliad ar y dechrau, ond mae ennill fel breuddwyd! Fel rhan o’r wobr, caf i gyfle i weithio yn un o’u stiwdios fel intern, ac rwy’n edrych ymlaen at gael profiad yn y diwydiant tecstilau a gweld i ble y bydd yn fy arwain nesaf.”
Dywedodd Georgia McKie, Cyfarwyddwr Rhaglen Dylunio Arwyneb Y Drindod: “Gwobr New Designers yw’r wobr fwyaf oll. Mae miloedd o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn New Designers bob blwyddyn felly mae cael eich dewis a gwneud y cysylltiad arbennig hwnnw â brand drwy eich gwaith yn wefr mor unigryw i’r myfyrwyr a thîm y rhaglen. Mae cyfleoedd fel hyn yn codi proffil y myfyriwr ar unwaith ac er bod croeso i’r wobr ariannol, y lleoliad gwaith sylweddol a mentoriaeth gyda brand yw’r wobr sy’n gallu newid bywydau.
“Roedd gwaith Lois yn siarad gyda phob un ohonom ni, felly dydyn ni ddim yn synnu ei bod wedi’i dewis am wobr ND gan Grŵp Romo, busnes teuluol Prydeinig ac arweinwyr rhyngwladol mewn dylunio mewnol o safon uchel. Roedd ei phrosiect yn taro nodyn ar gynifer o lefelau - wedi’i drwytho mewn syniadau o hiraeth, sy’n ein hatgoffa ni i gyd ac yn mynd â ni’n ôl at ein dyheadau personol a’n cysylltiadau ein hunain, yn enwedig yn y cyfnod hwn, at ein harfordir prydferth, diwylliant Cymru a thecstilau traddodiadol.
“Mae ei llofnod lluniadu arbennig yn dyner ond yn gyfoethog ac atgofus, yn dal y golau, y gweadau a’r lleoliadau. Mae hi’n trosi hyn mor feddylgar yn gasgliad o batrymau a thecstilau ystyrlon, gan gysylltu ffibrau a defnydd ag atgofion angerddol cyffyrddadwy. Mae’n cyflwyno’r wybodaeth faterol a dealledig mewn fformatau cyflwyno digidol cymhleth a slic sydd wedi ei galluogi i gyflwyno cynnig cryno i Romo a chipio’r wobr. Mae Lois yn cynrychioli’r gorau o blith ein myfyrwyr Patrwm Arwyneb a Thecstilau â sgiliau amlddisgyblaethol.
“Mae’r ffordd mae Lois wedi ailddychmygu a chyfoesoli’r cyfeiriadau at ddiwylliant Cymru’n dyst i’w dealltwriaeth bellgyrhaeddol o’r sector dylunio, a’i dilysrwydd fel ymarferydd dwyieithog.
Mae Lois wedi ffynnu eleni gyda llwyddiannau mewn nifer o brosiectau byw, wedi’u hwyluso a’u rhedeg drwy’r rhaglen Patrwm Arwyneb a Thecstilau yn cynnwys Patternbank, Rolls Royce ac Elusen idott.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk