Myfyriwr gradd Meistr o’r Drindod Dewi Sant yn cydweithio ar fersiwn newydd wedi’i ailgymysgu o gân
09.07.2021
Mae fersiwn wedi’i ailgymysgu o’r sengl newydd 'I Still Think About You' gan y cerddor a’r cyfansoddwr o Gymro, Mal Pope, wedi cael ei gynhyrchu gan Dai Griffiths, myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mewn cydweithrediad â’r artist ‘Glitch’ o Abertawe, Luna Lie Lot.
Mae gan Dai radd dosbarth cyntaf mewn Technoleg Cerddoriaeth o goleg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant, ac ar hyn o bryd mae’n astudio am radd Meistr mewn Sain yn y Brifysgol. Mae hefyd yn rhedeg ei wasanaeth cerddoriaeth llawrydd ei hun, Dai Griff Productions, busnes peirianneg sain a chynhyrchu cerddoriaeth. Ei brif amcan yw darparu gwasanaethau sy’n cwmpasu popeth o’r cam cychwynnol o ysgrifennu cyfansoddiad i’r cam terfynol o lunio fersiwn meistr cân.
Meddai Dai Griffiths: “Roedd creu’r trac hwn i Mal a Luna yn dipyn o hwyl, gan gymryd elfennau o’r hen a’r newydd a’u cyfuno mewn ffordd unigryw. Rwy’n arbennig o hoff o’r teimlad ‘retro’ gwreiddiol a greodd Mal yn ei sengl ac roeddwn am dalu gwrogaeth i hynny yn y fersiwn wedi’i ailgymysgu, drwy ddefnyddio rhai o’r elfennau gwreiddiol yn fersiwn Luna. Rwy hefyd wrth fy modd â’r hyn mae Luna wedi gallu ei wneud ag ef, gan ddod â’r ‘retro’ a’r cyfoes at ei gilydd. Mae’r ddau ohonynt yn bobl mor dalentog, ac rwy mor falch fy mod wedi cael gweithio gyda nhw.”
Meddai Luna: “Roedd yn anrhydedd gweithio gyda Mal Pope. Dyn hyfryd i weithio gydag ef ac yn barod iawn i helpu pan es i drafferthion gyda’r trac. Roedd Dai hefyd yn wych i weithio gydag ef. Mae’n gwybod yn union beth rwy’n chwilio amdano mewn trac, cymaint felly nes ei bod yn ymddangos bron fel pe bai’n gwybod beth rwy’n ei feddwl, neu mai’r un person ydyn ni. Roedd yn llawer o hwyl gweithio gyda’r ddau ddyn.”
Meddai Mal Pope, Athro Ymarfer yn y Drindod Dewi Sant: “Mae David a Luna mor dalentog ac mae wedi bod yn gyffrous gweithio gyda nhw a’u gweld yn dod â’u sain unigryw eu hunain i un o’m caneuon i.
“Fel cyfansoddwr caneuon mae eich caneuon fel eich plant. Wedi iddyn nhw dyfu i fyny mae’n rhaid i chi adael iddyn nhw i fynd a dod yn bwy bynnag maent eisiau bod.
“Rwy wastad wedi rhyfeddu at y modd y gall caneuon gael eu bywyd eu hunain ac mae wedi bod yn wych clywed beth maen nhw wedi’i greu gyda 'I Still Think About You.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk