MYFYRIWR M.A. PRIFYSGOL CYMRU Y DRINDOD DEWI SANT YN GWIREDDU BREUDDWYD
19.04.2021
Mae myfyriwr Meistr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi gwireddu breuddwyd drwy gyfarwyddo’i hoff ddrama'r wythnos hon.
Mae Kallum Weyman sy’n astudio’r cwrs MA Cyfarwyddo wedi cyfarwyddo’r ddrama Educating Rita i gynulleidfa gaeedig (o ganlyniad i gyfyngiadau’r Coronafeirws) ddydd Gwener, Ebrill 16eg yng Nghanolfan Celfyddydau’r Gate yng Nghaerdydd.
Mae’r ddrama gomedi Educating Rita gan Willy Russell yn ddrama sydd wedi’i leoli mewn swyddfa tiwtor prifysgol. Yn ystod y ddrama, rydym yn cwrdd â dau gymeriad, Rita, merch trin gwallt sydd yn mynychu dosbarthiadau nos er mwyn dysgu am lenyddiaeth Saesneg; a Frank y darlithydd sy’n ceisio’i dysgu. Er i’r ddrama hon gael ei hysgrifennu yn yr 80’au, mae’n parhau i fod yn ddrama berthnasol sy’n ymdrin â themâu oesol o ran agweddau at ryw a dosbarthiadau cymdeithasol.
Dan arweiniad Elen Bowman Mae’r rhaglen ôl-raddedig hon, sy’n flwyddyn o hyd, yn hynod ymarferol a dwys ac yn cynnig hyfforddiant a fydd yn datblygu cyfarwyddwyr proffesiynol y dyfodol.
Gwnaeth Kallum Weyman ddechrau astudio’r cwrs MA Cyfarwyddo nôl ym mis Medi 2019 am gyfnod o flwyddyn, ond o ganlyniad i gyfyngiadau’r Coronafeirws, fe benderfynodd Kallum i gael seibiant o’r astudio - er mwyn gallu dychwelyd pan fyddai modd cyfarwyddo drama ar lwyfan. Pan ddychwelodd Kallum i’w astudiaethau, ei freuddwyd oedd i gyfarwyddo’r ddrama Educating Rita, a thrwy gydweithio gyda staff Canolfan Berfformio Cymru, mae’r freuddwyd wedi’i gwireddu.
Meddai Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Canolfan Berfformio Cymru : ”Un o’r pethau pwysig i ni’n ei wneud fel adran yw paratoi myfyrwyr ar gyfer y diwydiant. Mae’r hyn mae Kallum wedi llwyddo’i gyflawni yn bwysig ar gyfer datblygu’n bersonol a phroffesiynol, ac rydym yn falch iawn ohonynt.”
”Mae wedi bod yn dipyn o her i baratoi ar gyfer y ddrama hon gan ddilyn at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol, ond mae’n braf iawn i fedru bod mewn ’stafell ymarfer gyda phobl,” meddai Kallum, ”Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Brifysgol am roi’r cyfle i mi fedru cyfarwyddo sioe go iawn, ac mae wedi fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith.”
”Mae wedi bod yn brofiad arbennig i allu gweithio gyda phobl broffesiynol o’r maes, ac rwy’n ddiolchgar iawn iddynt o’u hamser.”
Mae Kallum hefyd wedi bod yn llwyddiannus y tu allan i furiau’r Brifysgol yn ddiweddar, wrth iddynt ennill Bwrsari Datblygu Syniad gyda Theatr Genedlaethol. Pwrpas y cynllun yw i roi’r cyfle i adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru o fewn gwaith yr artistiaid. Er bod Kallum yn diodde’ o Awtistiaeth a Dyspraxia, mae’n mynnu ei bod yn parhau yn annibynnol, ac mae cynllun o’r fath wedi bod yn fuddiol ar gyfer datblygu.
Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod o astudio’r cwrs, dywed Kallum, ”Mae astudio yng Nghaerdydd wedi bod yn arbennig. Rwyf wedi dysgu nifer o sgiliau newydd, yn ogystal â chael cyfle i weithio ar syniadau fy hun. Mae wedi rhoi’r cyfle i mi allu cwrdd, a gweithio gyda phobl wahanol, wedi meithrin cysylltiadau newydd, ac wedi fy ngwneud yn ymwybodol o fyd y theatr yng Nghymru.”
Mae Canolfan Berfformio Cymru yn cynnig hafan fywiog o actorion, cantorion a dawnswyr y dyfodol. Yn ogystal â chynnig hyfforddiant o’r radd flaenaf, mae’r cyrsiau hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol, parch a’r gallu i gydweithio - ac mae hyn yn deillio o'r gefnogaeth gadarn a gaiff y myfyrwyr gan y staff ymroddedig a phroffesiynol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a gynigir gan y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd, ewch i <https://www.uwtsd.ac.uk/cbc/>
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476
lowri.thomas@uwtsd.ac.uk