Myfyriwr o’r Drindod Dewi Sant yn cynrychioli Pwyllgor Myfyrwyr yr Institute of Hospitality yn y Shard
07.10.2021
Yn ddiweddar mae un o fyfyrwyr BA Rheolaeth Cyrchfannau Hamdden Rhyngwladol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cynrychioli Pwyllgor Myfyrwyr yr Institute of Hospitality (IOH) mewn digwyddiad yn y Shard, Llundain.
Aeth Joshua Wilson i’r digwyddiad ‘Above and Beyond at The Shangri-La’ yn y Shard, Llundain fel Is-gadeirydd Pwyllgor Myfyrwyr IOH Cymru.
Hwn oedd digwyddiad byw cyntaf yr IOH ers dechrau pandemig COVID-19. Diben y digwyddiad oedd rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol ym maes lletygarwch a rhwydweithio â phobl oedd yn bresennol, er mwyn gallu gwneud cysylltiadau.
Meddai Joshua: “Cysylltais ag arweinwyr y diwydiant a chwrdd ag ystod eang o bobl. Roedd un wedi bod yn fwtler gyda’r teulu brenhinol. Roedd hi’n ddiddorol iawn dysgu am y rolau cyffredinol a’r profiadau dan sylw.”
Rhoddodd y digwyddiad sylw hefyd i bwysigrwydd lletygarwch a pham mae angen iddo ffynnu, yn enwedig ar ôl effaith ddinistriol y pandemig.
“Beth rwyf i wedi’i gael o’r digwyddiad hwn yw cymaint rwyf wedi gweld eisiau’r diwydiant hwn. Dileodd Pandemig COVID-19 letygarwch a rhyngweithio wyneb yn wyneb ar gyfer 2020 a’r rhan fwyaf o 2021. Roedd hyn yn ddinistriol dros ben. Fodd bynnag, yn lle edrych ar y gorffennol a’r sgil-effeithiau mae wedi’u hachosi, mae angen i ni edrych tua’r dyfodol, a’r mawredd sydd eto i ddod.”
Roedd Joshua yn ddigon ffodus i gwrdd â Phrif Weithredwr yr IOH hefyd, gan ddysgu y bydd digwyddiadau fel hyn yn rhoi profiad a hyder iddo o fewn y diwydiant lletygarwch a fydd yn arwain at gyfleoedd yn y dyfodol.
“Bob tro byddaf yn mynd i un o’r digwyddiadau hyn, mae’n fy natblygu i hyd yn oed yn fwy fel person. Byddwch chi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â lletygarwch. Mae’r rhinweddau a oedd gen i pan oeddwn yn un ar bymtheg oed wedi’u cryfhau’n fawr iawn erbyn hyn, wrth i mi ddod tuag at fy mhen-blwydd yn 20 oed. Trwy ddarlithoedd ac elfennau ymarferol profiad mae fy ngwybodaeth ac arbenigedd yn y sector hwn wedi eu cryfhau’n fawr iawn, am fod fy mhrifysgol wedi fy nghefnogi’n aruthrol.”
Yn ogystal â bod yn Is-gadeirydd Pwyllgor Myfyrwyr IOH Cymru, mae Joshua hefyd yn Llysgennad Myfyrwyr i’r Brifysgol, ac yn Gynrychiolydd Myfyrwyr ei gwrs. Mae’n edrych ymlaen at rannu’i brofiadau â’i gyd-fyfyrwyr fel ffordd o ddatblygu’r diwydiant lletygarwch.
Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y Portffolio Twristiaeth a Digwyddiadau:
“Mae Joshua Wilson yn fyfyriwr 2il flwyddyn rhagorol ar y rhaglen Rheolaeth Cyrchfannau Hamdden Rhyngwladol ac mae ef newydd ei benodi’n Is-gadeirydd Pwyllgor Myfyrwyr newydd Institute of Hospitality Cymru. Mae’n fyfyriwr ardderchog sy’n gwneud yn fawr o’r holl gyfleoedd cyffrous sydd ar gael drwy’i astudiaethau. Yn ddiweddar achubodd Josh ar y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad nodedig gan yr Institute of Hospitality a gynhaliwyd yn y Shard lle bu modd iddo gwrdd ag arweinwyr y diwydiant o bob cwr o’r wlad.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476