Myfyriwr Y Drindod ar fin cymryd ei hastudiaethau i’r lefel nesaf ar ôl cwblhau cwrs israddedig
02.08.2021
Roedd Natalie Beard wedi bod yn gweithio yn y diwydiant digwyddiadau am nifer o flynyddoedd, ers pan oedd hi’n 17 oed, pan benderfynodd gofrestru ar radd mewn Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod). Teimlodd y byddai dod yn fyfyriwr aeddfed yn ei helpu i gymryd ei gyrfa i’r lefel nesaf.
“Roeddwn wedi cyrraedd pwynt lle nad oeddwn yn teimlo fy mod yn gwneud cynnydd pellach felly penderfynais astudio Digwyddiadau i weld p’un a allwn ymestyn fy ngwybodaeth o ddigwyddiadau ac ennill gradd i fy helpu i ddatblygu fy menter gymdeithasol neu gael swydd yn gweithio i gwmni arall,” meddai. “Dewisais astudio yn Y Drindod oherwydd y dosbarthiadau bach a’r lleoliad anhygoel.”
Bu iddi fwynhau ei hastudiaethau gymaint ei bod nawr yn bwriadu dychwelyd i’r brifysgol i astudio ar gyfer gradd Meistri.
“Roeddwn yn dwlu ar y cwrs a’r ffaith bod y rhan helaethaf ohono’n waith cwrs ac yn ymarferol ei natur,” meddai. “Mae’r darlithwyr yn wych hefyd. Buaswn yn ei argymell i unrhyw u oherwydd bod y cwrs yn cwmpasu llawer o’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i allu cynnal digwyddiadau yn ogystal â rhoi cyfleoedd i chi adeiladu ar eich profiad.
“Uchafbwyntiau’r cwrs oedd cynnal digwyddiad rhithwir yn y drydedd flwyddyn ochr yn ochr â Myfyrwyr Digwyddiadau a Thwristiaeth a gwirfoddoli mewn digwyddiad Calan Gaeaf yng Nghastell Ystumllwynarth.”
Un o’r prif heriau a wynebodd yn ystod y cwrs oedd addasu i ddysgu ar-lein a dysgu o gartref.
“Roedd gweithio mewn amgylchedd lle’r oedd gweddill yr aelwyd yn ceisio byw eu bywydau yn her,” meddai. “Yn y diwedd, symudais nôl i Abertawe i lety myfyrwyr ar gyfer ychydig wythnosau olaf y cwrs pan oedd yn saff gwneud hynny, i roi i mi fy hun y lle’r oedd arna’i ei angen i ganolbwyntio’n llawn ar fy aseiniadau.”
Nawr mae hi wedi cyflawni ei gradd mae hi’n edrych tua’r dyfodol.
“Ar hyn o bryd rwy’n bwriadu gwneud cais ar gyfer gradd Meistr felly fe ddylwn i fod o gwmpas am ryw flwyddyn arall!” meddai.
Ychwanegodd Rheolwr y Rhaglen, Jacqui Jones:
“Ymunodd Natalie â ni o Ogledd Lloegr yn fyfyriwr aeddfed a chanddi gyfoeth o brofiad ymarferol o Wyliau a Digwyddiadau. Mae hi wedi bod yn fyfyriwr ardderchog, ac yn ystod ei hastudiaethau yn Y Drindod, nid yn unig y mae Natalie wedi datblygu ei sgiliau rheoli a’i gwybodaeth mae hi hefyd wedi datblygu ei phrofiad o ddigwyddiadau ymhellach ac wedi ennill y sgiliau digidol hanfodol i gefnogi ei gyrfa bwriedig mewn Rheolaeth Gwyliau.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk