Myfyriwr Y Drindod yn canmol cefnogaeth y brifysgol wrth iddi gyflawni ei gôl cyflogaeth
14.07.2021
Mae ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Rheoli Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol wedi agor drysau yn y diwydiant i Tamara Leaity, sydd wedi graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac sydd bellach yn gweithio fel Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer ar gyfer asiantaeth deithio TUI, a leolir yn Abertawe.
Cofrestrodd Tamara, o Bort Talbot, ar y cwrs ar ôl astudio teithio a thwristiaeth yn y coleg.
“Roeddwn yn gwybod fy mod eisiau archwilio’r pwnc hwn yn bellach yn y brifysgol,” meddai. “Dewisais Abertawe oherwydd y diwrnod sefydlu, pan roddodd Jacqui Jones gyflwyniad am y cwrs. Wrth wrando ar yr holl gyfleoedd, roeddwn yn gwybod mai hwn oedd y cwrs i mi.
“Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf roeddwn yn gwybod bod rhaid i mi weld a oedd yna unrhyw feysydd penodol yn y diwydiant yr hoffwn yrfa ynddo. Daliodd un modwl yn benodol fy niddordeb lle’r oedd rhaid i mi archebu pecyn gwyliau wedi’i deilwra i’r cwsmeriaid. Yna, yn sgil hyn des i o hyd i’r maes roedd arna’i eisiau gweithio ynddo’r mwyaf: archebu gwyliau.”
Gwnaeth Tamara fwynhau rhannau’r cwrs oedd yn y diwydiant yn arbennig a’r cyfle i ddysgu’n uniongyrchol oddi wrth bobl yn y diwydiant.
“Uchafbwynt y cwrs i mi oedd bod cyfleoedd o hyd i ddod â’r dysgu’n fyw, o leoliadau i siaradwyr gwadd o wahanol wledydd,” meddai. “Bues i hefyd yn Gynrychiolydd Dosbarth am ddwy flynedd, a gwnes i fwynhau hyn yn fawr oherwydd fy mod wedi gallu rhoi nôl i’r myfyrwyr a darlithwyr.”
Ychwanega ei bod wrth ei bodd gyda’r hyfforddiant a chymorth a gafodd drwy gydol ei hastudiaethau – hyd yn oed pan newidiodd Covid-19 y ffordd y cyflwynwyd hyn.
“Roeddwn yn mynd i weld fy narlithwyr bob tro cyn gwersi i ofyn cwestiwn neu i ddweud helo gan fod y brifysgol mor gyfeillgar a chroesawgar,” meddai. “Yn anffodus, rhoddodd COVID-19 stop i hyn pan fu’n rhaid i fyfyrwyr aros gartref a pheidio mynd i’r campysau; fodd bynnag, roedd y darlithwyr yn rhoi o’u hamser bob tro i gysylltu neu gynnal cyfarfod un i un ar-lein i sicrhau ein bod i gyd yn iawn.”
Nawr mae hi’n edrych ymlaen at wneud cynnydd yn ei dewis gyrfa.
“Heb os, fe fuaswn yn argymell y cwrs hwn os oes arnoch eisiau hwb ysbrydoledig a symbylol,” meddai. “Teimlais fy mod wedi gorffen prifysgol yn aros i geisio gyrfa yn y diwydiant – ac rwy’n falch fy mod wedi cyflawni hynny.”
Ychwanegodd Rheolwr y Rhaglen, Jacqui Jones:
“Bu’n bleser addysgu Tamara dros y tair blynedd ddiwethaf. Ymgysylltodd â’r rhaglen o’r cychwyn cyntaf, gan fanteisio ar bob cyfle i fynd ar deithiau maes, ymweliadau â diwydiant ac ymgysylltu ag arweinwyr byd-eang. Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf mae ei gwaith wedi bod yn eithriadol wrth iddi ffynnu yn yr asesiadau ymarferol a phroffesiynol sy’n ganolog i’r rhaglen. Heb os, mae hyn wedi galluogi i Tamara wireddu ei photensial, ac er gwaethaf y pandemig mae hi wedi diogelu swydd wych gyda TUI yma yn Abertawe.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk