Myfyriwr Y Drindod yn cyflawni gradd dosbarth cyntaf wrth weithio i Wasanaeth Ambiwlans Cymru
14.07.2021
Mae gweithio i Wasanaethau Ambiwlans Cymru fel atebwr galwadau yn ystod pandemig coronafeirws wrth astudio gradd yn ei hun yn gyrhaeddiad – ond mae Aida Lamer wir wedi rhagori, gan gyflawni gradd dosbarth cyntaf mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod).
Nawr, mae hi’n bwriadu symud ymlaen i astudiaethau uwch gyda’r nod o gyfoethogi eu rhagolygon gyrfa.
Astudiodd Aida, sy’n byw yn Abertawe, ar gampws SA1 Abertawe. Dewisodd y radd am fod ganddi ddiddordeb erioed mewn seiberddiogelwch a rhwydweithio.
“Roedd arna’i eisiau cyfuno’r diwydiant meddygol a seiberddiogelwch i wneud gwelliannau i’r sefydliad ac i wneud dyfeisiau gofal iechyd yn fwy diogel,” meddai. “Dewisais Y Drindod gan fod y brifysgol yn cynnig ystod eang o fodylau sy’n cynnig gwybodaeth a sgiliau ymarferol mewn ymchwil a chyflogaeth ymarferol. Galluogodd y brifysgol i mi gasglu gwybodaeth a dealltwriaeth o rwydweithio sy’n cryfhau fy sgiliau seiberddiogelwch a sut y mae ymosodiadau’n digwydd, sut y gellir eu hosgoi a sut i roi’r diogelwch gorau ar waith.”
Roedd rhai o uchafbwyntiau ei chwrs yn cynnwys gweithio mewn prosiectau tîm a rhannu technegau rhwng aelodau’r tîm.
“Galluogodd pob prosiect tîm a phrosiect unigol i fyfyrwyr gyrraedd eu potensial llawn a bu’r goruchwylwyr yn help enfawr,” meddai. “Roedd jyglo fy astudiaethau a’m swydd yn heriol, ond roedd y canlyniadau’n rhoi boddhad mawr i mi yn y pendraw – a nawr rwy’n gallu gwneud ceisiadau am swyddi ar fand uwch mewn ymddiriedolaeth rwy’n dwlu ar weithio iddi. Roedd dysgu a chyfathrebu ar-lein hefyd yn heriol; ond, roedd darlithwyr yn cyfathrebu’n gyflym ac roedd digonedd o offer ar-lein i helpu goresgyn yr her hon.”
Nawr, mae hi’n bwriadu cwblhau ei gradd Meistr yn Y Drindod mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch ac i gwblhau traethawd hir cyhoeddadwy arall a fydd yn ffocysu’n agos ar seiberddiogelwch mewn gofal iechyd.
“Ar ôl cwblhau fy addysg, fy nod yw cael swydd mewn ymchwil neu seiberddiogelwch mewn gofal iechyd i wneud dyfeisiau a rhwydweithiau’n fwy diogel ar gyfer cleifion a gweithwyr gofal iechyd,” meddai.
Ychwanega y byddai’n argymell y cwrs yn gryf i eraill.
“At ei gilydd, darparodd bopeth hanfodol a rhai sgiliau dymunol i’w defnyddio’n hwyrach mewn swydd ôl-raddedig. Roedd y ffordd roedd y brifysgol yn cyfathrebu yn eithriadol ac roeddwn yn sicr o gael ymatebion cyflym. Mae digonedd o gymorth wedi’i gynnig gan y darlithwyr a’i dderbyn a chafwyd llawer o adborth a beirniadu positif i wneud gwelliannau yng ngwaith y dyfodol. Buaswn yn argymell y cwrs hwn yn gryf i ddarpar fyfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r cwrs hwn yn cynnig popeth sydd ei angen ar fyfyriwr ac mae’r brifysgol yn dal i helpu i dywys myfyrwyr hyd yn oed wedi iddynt gwblhau eu gradd, drwy raddau pellach, cymwysterau a chyflogaeth.”
Ychwanegodd Dr Carlene Campbell, goruchwylydd prosiect blwyddyn olaf Aida:
“Mae Aida’n weithiwr diwyd a oedd yn gwybod yn union beth roedd arni eisiau ei gyflawni ac roedd hi’n frwdfrydig iawn ynglŷn â chyflawni ei nodau. Mae ganddi ffocws clir, mae’n benderfynol, yn weithgar, yn uchelgeisiol ac yn gweithio tuag at goliau. Mae hi o ddifrif am ei huchelgeisiau, mae hi’n ddisgybledig, ymroddedig, a chadarn wrth ddilyn ei hamcanion. Mae ei mynegiant llafar ac ysgrifenedig Saesneg yn dda iawn.
“Mae hi wedi dangos bod ganddi’r gallu i weithio ar ei liwt ei hun. Mae’n frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant, ac mae hi wedi dangos ei bod yn ddibynadwy ac yn barod i fynd i’r afael â her a’i gwblhau. I grynhoi, mae hi’n dangos y lefel gofynnol o ffocws, penderfyniad, egni, a brwdfrydedd a fydd yn ased gwerthfawr i unrhyw sefydliad neu gyfundrefn.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk