Myfyriwr Y Drindod yn cynllunio dyfodol llewyrchus ar ôl cael gradd dosbarth cyntaf mewn Rhwydweithio a Seiberddiogelwch
02.08.2021
Graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) yw’r cam cyntaf yn nhaith James Dunhill tuag at yrfa foddhaus. Nawr, mae’n bwriadu cwblhau gradd meistr yn y brifysgol, ar ôl i’r hyfforddiant a gafodd fel myfyriwr israddedig wneud argraff arbennig o dda arno.
“Rwy’n eithriadol o falch gyda’r gefnogaeth a gefais,” meddai. “Mae’r darlithwyr yn aruthrol ac yn barod iawn i helpu. Mae’r gwasanaethau myfyrwyr yn arbennig hefyd.”
Dewisodd James astudio yn Y Drindod am ei fod yn uchelgeisiol ynghylch yr hyn roedd arno eisiau ei gyflawni.
“Mae llawer o brifysgolion i ddewis o’u plith, ond roeddwn yn ceisio dod o hyd i rywbeth unigryw, a rhywle a fyddai wir yn helpu gyda’m hastudiaethau,” meddai. “Dewisais Y Drindod am ei gallu i gynnig mynediad 24/7 i’r adeiladau a’r ffaith bod gan yr adeiladau newydd yn SA1 offer a gwasanaethau o’r radd flaenaf. Hefyd, fe’i dewisais am ei bod yn cynnig cymwysterau y gellir eu cwblhau ochr yn ochr â’r cwrs.
“Yn ogystal â hyn i gyd, hoffais y ffaith fod myfyrwyr yn cael eu hannog i fynychu digwyddiadau fel WorldSkills a Hackathons. O ganlyniad i hyn llwyddais i gyfoethogi fy sgiliau rhaglennu a seiberddiogelwch, gan roi i mi brofiad o senarios bywyd go iawn.”
Ochr yn ochr â’i astudiaethau gradd, gwnaeth James astudio, a phasio, dau arholiad ychwanegol arall: EC-Council a Cyber Essentials Plus Assessor.
“I ymdopi â faint o waith a roddais i mi fy hun ei wneud bu’n rhaid i mi ddefnyddio rheolaeth amser oherwydd bu’n hanfodol gwneud pethau’n brydlon,” meddai.
Bellach, mae James yn bwriadu cwblhau ei radd Meistr yn Y Drindod gan hefyd chwilio am waith rhan amser i ddechrau ennill rhagor o brofiad.
“Wrth weithio drwy fy ngradd Meistr hoffwn gael cymhwyster arall – fy Cisco CCNP, ac efallai ennill cymhwyster arall hefyd,” meddai. “Ar ôl fy ngradd meistr rwy’n ceisio penderfynu p’un a fyddaf yn gwneud TAR neu efallai PhD.”
Ychwanega y byddai’n argymell Y Drindod yn gryf i eraill.
“Buaswn yn argymell y cwrs hwn yn gryf am ei fod yn rhoi i chi wybodaeth gyflawn mewn rhwydweithiau a seiberddiogelwch a gallwch ddatblygu’r sgiliau hyn ymhellach mewn gradd meistr,” meddai. “Hefyd, mae’n rhoi dealltwriaeth i chi o gyfrifiadura i lefel sy’n eich gwneud yn fwy atyniadol i gyflogwyr na rhywun sydd dim ond yn fedrus mewn un pwnc.”
Ychwanegodd Dr Carlene Campbell, goruchwylydd prosiect blwyddyn olaf James
Mae James yn gyflwynydd huawdl a rhagorol sy’n gwybod sut i ddal a syfrdanu cynulleidfa. Mae’n llawn mynegiant ac yn gwybod sut i rannu ei wybodaeth mewn ffordd frwdfrydig a llawn hwyl. Mae’n barod bob tro i help a rhannu gwybodaeth a gaiff drwy ymchwil a’i astudiaethau.
“Mae ganddo ffocws clir, mae’n benderfynol, yn weithgar, yn uchelgeisiol ac yn gweithio tuag at goliau. Mae e’n cymryd ei uchelgeisiau o ddifrif, mae’n ddisgybledig, yn ymroddedig, ac yn gadarn wrth ddilyn ei amcanion. Mae ei fynegiant llafar yn Saesneg yn ardderchog. Mae e wedi arddangos y gallu i weithio ar ei liwt ei hun ac mae’n frwdfrydig iawn dros ddysgu pethau newydd a cheisio cymhwyso’r wybodaeth a ddysgwyd i wella ei sefyllfa ef ei hun ac eraill. Mae ei ddibynadwyedd a’i barodrwydd i fynd i’r afael â her nes ei gwblhau heb ei ail.
“I grynhoi, mae e’n dangos y lefel gofynnol o ffocws, penderfyniad, egni, a brwdfrydedd a fydd yn ased gwerthfawr i unrhyw sefydliad neu gyfundrefn.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk