Myfyrwyr a Staff Coleg Celf Abertawe yn cyfrannu at arddangosfa ‘Without Borders’.
18.08.2021
Mae myfyrwyr a staff Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant wedi cyfrannu at arddangosfa ddiweddaraf Oriel Gelf Elysium, Abertawe, ‘Without Borders’.
Mae ‘Without Borders’ yn brosiect digidol ac arddangosfa ffisegol sy’n esblygu, gyda’r nod o ddod â 22 cymuned a bron 300 artist at ei gilydd o bob cwr o’r byd.
Ceisia’r arddangosfa ddileu rhwystrau, creu cynghreiriau, a chysylltu gyda chymdogion. Ei nod yw dod â phobl greadigol at ei gilydd, i gydweithio mewn arddangosfa o waith ar bapur - casgliad o dudalennau artistiaid - sy’n teithio’r byd.
Ar ôl arddangos yn Abertawe, bydd ‘Without Borders’ yn teithio i Japan, Norwy, America, Fenis, Canada ac yn ôl i Gymru. Bydd y prosiect hefyd ar gael yn fyd-eang drwy e-gatalog.
Ar ddiwedd y daith, bydd y gwaith celf yn cael ei glymu at ei gilydd yn barhaol i greu un llyfr artistiaid unigryw, i’w gadw mewn llyfrgell casgliadau arbennig a gaiff ei gyhoeddi maes o law.
Mae’r term ‘Border’ yn disgrifio llinellau llythrennol neu anweladwy: ymylon sy’n gwahanu a rhannu, sy’n ymatal a chyfyngu. Mae Without Borders yn arbennig o atgofus a phêr yn y cyfnod rhyfedd sydd ohono. Mae gwleidyddiaeth adweithiol sy’n cyflymu’n barhaus yn arwain at galedu rhai ffiniau a diddymu eraill. Ymddengys bod y bwlch rhwng pobl dlawd a chyfoethog yn lledu. Hefyd, mae ffiniau ffisegol, daearyddol a chymdeithasol, ynghyd â’r ffin fregus, athraidd rhwng bywyd a marwolaeth wedi’u hamlygu gan y pandemig diweddar.
Meddai Jonathan Powell o Oriel Gelf Elysium: “Yn un o gyn-fyfyrwyr Coleg Celf Abertawe, roeddwn yn awyddus iawn i’w cynnwys nhw mewn rhyw ffordd. Er gwaethaf anawsterau’r cyfnodau clo a’r holl aflonyddwch roedd y myfyrwyr yn wych a gwnaethant gyfrannu at gorff o waith ardderchog.”
Meddai Katherine Clewett, Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs Tystysgrif AU Celf a Dylunio Sylfaen yng Ngholeg Celf Abertawe: “Mae teitl yr arddangosfa, ‘Without Borders’, yn ategu syniadau a safbwyntiau’n ymwneud â ffiniau gwleidyddol-economaidd cyfredol. Mae’r prosiect yn gyfle i fyfyrwyr a staff adfyfyrio ar gysylltiadau cyfyngedig, a chwilio am ymatebion ar y cyd.
“Mae cyfranogion Coleg Celf Abertawe yn cynnwys myfyrwyr a staff o’r cyrsiau Sylfaen, Gradd ac MA, yn arddangos mewn amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys darlunio, paentio, ffotograffiaeth a phwytho.
“Rydym yn ddiolchgar i Oriel Gelf Elysium am ein gwahodd i gyfrannu at yr arddangosfa amserol hon.”
Bydd yr arddangosfa’n parhau yn Oriel Gelf Elysium nes dydd Sadwrn, 28ain Awst.
Nodyn i'r Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.elysiumgallery.com/events/event/without-borders/
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476