PCYDDS a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gyflymu twf digidol mewn diwydiant


06.12.2021

Mae prosiect Cyflymydd Digidol SMART newydd i helpu diwydiant Cymru i elwa o dechnoleg ddigidol er mwyn cyflymu twf yn cael ei ddarparu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru).

A new SMART Digital Accelerator project to help Welsh industry benefit from digital technology to accelerate growth is being delivered by the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD).

Ei nod yw darparu cymorth a chyngor arbenigol i weithgynhyrchwyr o Gymru, gan fanteisio ar sgiliau ac arbenigedd y byd academaidd a diwydiant i wella prosesau ac ymgysylltu â gweithwyr talentog ledled y cwmni, gan ysgogi modelau busnes newydd, proffidiol.

Mae'r tîm yn cynnwys cynghorwyr o ddiwydiant a fydd yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg gywir i hybu cynhyrchiant. Nid oes unrhyw gost ariannol i'r busnes.

Mae gweithgynhyrchu yn rhan annatod o lesiant Cymru yn y dyfodol, ac mae'r prosiect hwn yn ceisio sicrhau bod y diwydiant gweithgynhyrchu yn llewyrchus, yn effeithlon, yn gydnerth ac yn ffynnu.

Gan fod yna gynifer o dechnolegau newydd ar gael, gall fod yn anodd nodi pa rai fydd yn iawn ar gyfer busnes i'w helpu i ddatrys y problemau sy'n ei wynebu heddiw ac a fydd yn ei wynebu fory. Mae'r cyfle gwerthfawr hwn i weithgynhyrchwyr yn darparu mynediad at dîm amrywiol o arbenigwyr talentog a phrofiadol sy'n dod o'r byd academaidd ac o ddiwydiant. Byddant yn gweithio ochr yn ochr â'r busnes i nodi lle y gellid defnyddio technolegau digidol i helpu i fynd i'r afael ag unrhyw heriau. Erbyn diwedd y broses, bydd y busnes yn cael asesiad personol iawn a fydd yn cael effaith ystyrlon a mesuradwy.

Mae'r prosiect hwn yn un o lawer a gynigir gan PCYDDS sy'n cefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru. Mae PCYDDS hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer uwchsgilio, ac ymchwil a datblygu, trwy ei menter MADE Cymru a ariennir gan yr UE, Gradd-brentisiaethau, ac Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch.

Dywedodd Richard Morgan, Arweinydd Prosiect a Phennaeth Arloesi ac Ymgysylltu yn PCYDDS: “Rydyn i gyd yn llawn cyffro am y prosiect newydd hwn. Mae'r tîm cyflenwi yn cynnwys arbenigwyr o ddiwydiant ac o'r byd academaidd – mae'n rym go iawn! Rwy'n gwybod y gallwn wneud gwahaniaeth ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda gweithgynhyrchwyr ledled Cymru. Mae cynifer o dechnolegau newydd ar gael i fusnesau, a bydd y fenter hon yn eu helpu i wneud y dewisiadau cywir ar eu cyfer ac nid dim ond defnyddio technoleg er mwyn technoleg yn unig.”

Dywedodd Barry Liles OBE, Dirprwy Is-Ganghellor Sgiliau a Dysgu Gydol Oes: “Mae ymgysylltu â chyflogwyr a darparu cymorth yn elfen allweddol o weledigaeth strategol y Brifysgol, ac mae'n darparu gwerth a budd ychwanegol sylweddol i bob parti. Bydd y cyllid hwn yn galluogi diwydiant i gael mynediad at dechnoleg ac arbenigedd blaengar yn y brifysgol, gan arwain at effaith sylweddol ar waelodlin sefydliadau sy'n allweddol i economi Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at weld rhai canlyniadau a fydd yn cynnig esiampl y gallwn ei rhannu â'r gymuned gweithgynhyrchu yng Nghymru.”

Dywedodd Andy Silcox, Cyfarwyddwr Ymchwil yn AMRC Cymru: “Mae Cyflymydd Digidol SMART yn brosiect hynod gyffrous a fydd yn cael effaith, nid yn unig i’r cwmnïau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r rhaglen, ond hefyd i gymuned gweithgynhyrchu ehangach Cymru.  Bydd y rhaglen yn creu nifer o astudiaethau achos o fywyd go iawn, a fydd yn amlygu pŵer technolegau digidol newydd i gynyddu cynhyrchiant ac i helpu gweithgynhyrchwyr i gyrraedd eu nodau o ran cynaliadwyedd.”

Gallwch gael gwybod rhagor trwy anfon neges e-bost at accelerator@uwtsd.ac.uk

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk